Pechadur wyf, da gŵyr fy Nuw
Gwedd
← Wrth droi fy ngolwg yma i lawr | Pechadur wyf, da gŵyr fy Nuw gan William Williams, Pantycelyn |
Ffordd newydd wnaed gan Iesu Grist → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
132[1] Hyder yn yr Eiriolwr.
M. H.
1 PECHADUR wyf, da gŵyr fy Nuw,
Llawn o archollion o bob rhyw,
Yn byw mewn eisiau o waed y groes
Bob munud awr o'r dydd a'r nos.
2 Yng nghanol cyfyngderau lu,
A myrddiwn o ofidiau du,
Gad imi roddi pwys fy mhen
I orffwys ar dy fynwes wen.
3 O! cofia fi gerbron y Tad,
A dangos iddo werth dy waed ;
O! dadlau'n awr yng nghanol ne'
It roi dy fywyd yn fy lle.
4 Gad imi dreulio 'nyddiau i gyd
I edrych ar dy ŵyneb-pryd ;
Difyrru f'oes o awr i awr
I garu fy Eiriolwr mawr.
William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 132 Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930