Neidio i'r cynnwys

Wrth droi fy ngolwg yma i lawr

Oddi ar Wicidestun
O'r holl fendithion gadd y byd Wrth droi fy ngolwg yma i lawr

gan William Williams, Pantycelyn

Pechadur wyf, da gŵyr fy Nuw
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

131[1] Cariad at Grist..
M. H.

1 WRTH droi fy ngolwg yma i lawr
I gyrrau'r holl greadigaeth fawr,
Gwrthrych ni wêl fy enaid gwan
Ond Iesu i bwyso arno'n rhan.

2 Dewisais Ef, ac Ef o hyd
Ddewisaf mwy tra fwy'n y byd ;
Can' gwynfyd ddaeth i'm henaid tlawd-
Cael Brenin nefoedd imi'n Frawd.

3 Fy nghysur oll oddi wrtho dardd;
Mae'n Dad, mae'n Frawd, mae'n Briod hardd ;
F'Arweinydd llariaidd tua thref,
F'Eiriolwr cyfiawn yn y nef.


4 Ef garaf bellach tra fwyf byw,
Uwch creaduriaid o bob rhyw ;
Er gwaethaf daer ac uffern drist,
F'Anwylyd i fydd Iesu Grist.

William Williams, Pantycelyn

Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 131 Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930