Saith o Farwnadau/Y Parch George Whitfield

Oddi ar Wicidestun
Y Parch Griffith Jones, Llanddowror Saith o Farwnadau

gan William Williams, Pantycelyn


golygwyd gan David Morris, Capel Hendre
Y Parch Daniel Rowlands, Llangeitho

Y PARCH. GEORGE WHITFIELD,
O GAERLOYW,

Yr hwn a fu farw yn y flwyddyn 1770, bron yn 66ain mlwydd oed,
pedair-ar-ddeg ar hugain o ba rai a dreuliodd yn y weinidogaeth.'

DAETH Y ce'nfor mawr terfysglyd
Im' a newydd trist anhyfryd,
Llong yn dwyn rhyw air annedwydd
O eithafoedd Lloegr Newydd,
Fod yn Newbury heddyw'n gorwedd,
Wedi gorphen taith o'r diwedd,

Ufudd was, ffyddlona ma's, grasol i'r Iesu,
WHITFIELD fwyn, larieiddiaf hyny,

Trwy holl Frydain fu'n pregethu!
Newydd yw a barodd i mi
Newid lliw ac ymderfysgu,
Byddin fawr o bob rhyw ofnau
A ruthrasant ar fy nwydau;

Mi ddych'mygais bob rhyw ddrygfyd,
Pla, rhyfeloedd, ac afiechyd;
Argoel daw, ar bob llaw, gystudd, a thrallod,
'Storom fawr, pan fyddo gorfod
Ar y seintiau fyn'd i'w beddrod.

'Nawr 'rwy'n gwel'd cymylau duon,
Yn tywyllu'r nen yn gyson,
Mellt a chenllysg yn gawodydd,
Poethwynt stormus gyda'u gilydd:
Seintiau henaf Duw'n dihengyd,
Yn dorfeydd i dir y bywyd;
Gado o'u hol fechgyn ffol, plantos bwhwmanllyd,
Ag sydd wedi chwyddo'n enbyd
Gan frathiadau'r sarff wenwynllyd.

Nid oes genyf barch i roddi,
Bellach fyth i'r WHITFIELD hyny,
Ond gwneyd cân, os galla'i, baro
I fyrddiynau gofio am dano;
Fel na annghofier fyth 'mo'i lafur,
Tra fo argraff wasg a phapur,
Ond bod son am ei bo'n dirfawr a'i ludded,
Yma a thraw i'r moroedd enbyd,
Gan y Cymry, 'r Sais, a'r Indiaid.

Er nas gwelai ef ond hyny,
Eto mi gaf swnio 'nghanu,
Ac mi gaf mewn lloches fechan
Wylo WHITFIELD wrthyf f' hunan;
Yno plediaf ar fy neulin,
Ar alluog Fab y Brenin,
Yn ei le, 'nawr o'r ne', arall i anfon,
O'r un ysbryd cywir, union,
Tra fo fe yn gwisgo'i goron.

Pan bwy'n meddwl am ei wrando,
'Rwy'n dych'mygu mod i yno,
Yn gwel'd ei wedd serchocaf dirion,
Uwch ben miloedd maith o ddynion;
Geiriau'r nef yn llifo i waered
Llosgi gefyn hen gaethiwed,

Dwyfol ras bia'r ma's, fe sy'n teyrnasu;
Mae'r erlidwyr hwythau'n methu
Gwawdio hyfryd wleddoedd Iesu.

Lloegr faith sy'n gorfod addeu
Mai o'r nefoedd oedd ei ddoniau,
Ac fe ŵyr Deheudir Cymru
Fod ei athrawiaethau'n ffynu;
Scotland oer a dystia'n eon
Iddo yno gael ei anfon;
'Werddon sy dywyll ddu, yn addeu'n unfryd,
Iddo arwain, er ei wynfyd,
Rai oddiyno i mewn i'r bywyd.

Gwn fod Huntington yn wylo
Gloyw ddyfroedd wrth ei gofio:
Fod ei Chaplain, iengach oedran,
Wedi myn'd i'w wlad ei hunan,
Pan oedd hi yn meddwl blaenu
Arno i'r ardaloedd hyny,
Fel y clywn, aeth i mewn i'r wledd ddiderfyn.
Rhaid i'r lady aros gronyn
Yma eto dros y Brenin.

Nid oedd Lloegr fawr yn ddigon,
Teyrnas mae miliynau o ddynion,
Nid oedd Scotland, nid oedd Cymru,
Ddim yn abal ei ddigoni:
Rhaid oedd marchog moroedd mawrion,
Lle mae'r llongau'n teithio'n gyson,
Drwodd draw, heb ddim braw, yn erbyn tònau,
I gael enill rhai eneidiau,
O gadwynau tynon angau.

Prin mae'm hysbryd llesg yn credu,
Gwel y cenfor fyth ond hyny,
Un yn marchog ar ei gefen
Lleied arswyd yr astyllen.
Llong yn cario trysor ynddi
Llawer gwell na mwyn Potofi:
Cenad gref Brenin nef wedi troi ei gefn
Ar ogoniant tir y dwyrain,
A'i berth'nasau, oll yn llawen.


Ac yn myn'd â thrysor durfin,
I ymddifaid y Gorllewin,
Aur ac arian wrth y cannoedd,
Trwy ryw ludded blin a gasglodd,
Ac y'nghoedydd anial Georgia,
Cododd balas i'r Gorucha',
Lle i'r gwan i gael rhan tlodion amddifaid,
Breintiau 'fengyl bur fendigaid,
Fel i'r Cymry, Sais, a'r Indiaid.

Dysg ac ymborth, gwisg yn gryno,
Gafodd torf o dlodion yno,
Rhwng y coedydd caent yn odiaeth
Glywed geiriau'r iechydwriaeth;
Fe fydd miloedd yn bendithio
Enw WHITFIELD fythoedd yno:
Fe oedd dad goreu ga'd, gynta' dosturiodd,
Wrth drueiniaid tywyll ydoedd
Heb oleuni pur y nefoedd.

Hampshire Newydd, ti fu'r ola'
Gwelodd ef cyn myn'd i wledda,
Ac i Newbury daeth angelion
I roi gwys i'r genad ffyddlon;
Yno cauodd y pibellau
Sydd yn dwyn y gwynt i'r ffroenau,
Yno daeth marwol saeth angau dychrynllyd,
Ac a'i dygodd ef yn hyfryd
I ardaloedd tir y bywyd.

Enw WHITFIELD oedd yn gyson
Gynt yn goglais drylliog galon,
Heddyw'n hollol sy'n dolurio
Feddwl fod e' yn yr amdo:
Welir mo'r credadyn hwnw
Nes adg'odiad mawr y meirw;
Mae tan sel, doed a ddel, fyth ni ddihunir,
Nes o'r diwedd yr agorir
Holl lochesau dyfnion natur.

Fe ry' 'Newbury y pryd hyny
Gorff yr addfwyn sant i fynu:

Ac fe'i gwelir yn yr wybr
Megys seren fawr yn eglur:
Planed ddysglaer a fachludodd,
Yn ffurfafen bell y nefoedd,
Goleu clir, 'fengyl bur ga's y tir hyfryd,
Ffordd y teithiodd mewn afiechyd,
I bregethu gair y bywyd.

Mae trafaelu wedi gorphen
'Nawr o Edinburgh i Lundain!
Darfu croesi'r môr i 'Werddon,
Nac i Mounten at y Saeson;
Ni raid iddo ofni oeredd
Gwyntoedd rhewllyd llym y gogledd,
Ac mae'r daith, ddyrys faith, trosodd i'r India,
Wedi ei throi heddyw'n wledda,
Ar y sypiau grawn a'r manna.

Dyma'r genad bur a dreblodd
Gylch y ddaear o filldiroedd,
Ddygodd hanes pen Calfaria
I fynyddau maith yr India;
Grym efengyl wen fendigaid,
Draw i'r Negroes ac i'r Indiaid;
Cymysg lu, gwyn a du, Saeson a Moeris,
Blith dra phlith, yn nefol hapus,
Ddaw i mewn i'r hen freninllys.

Nid oedd perygl a'i brawychai,
Nac o'r moroedd na'r mynyddau,
Fe gai'r llewod ruo'u gwaetha',
Yn anialwch coed yr India,
Ni chai'r arth, y blaidd, na'r teigr,
Laesu ei ffydd na briwio'i hyder,
Tanllwyth dân, oleu lân, ganddo'n fur parod,
Yn y gelltydd maith diddarfod,
Idd ei gadw rhag y llewod.

Er medd ein grasusaf frenin
Bymtheg gwlad yn y gorllewin,
Ymerodraeth mwy'i mesurau,
Na hen Frydain dair o weithiau:

Anial maith, a thir anhyfryd,
Gynt gan mwyaf na feddienid;
Eto efe, ffrynd y ne', WHITFIELD a'i teithiodd,
A'r efengyl a bregethodd,
Er mor arw, anial, ydoedd.

Pensylfania ga'dd ei wrando,
'Nawr mae'i threfydd yn och'neidio,
Mary-land, New York, Virginia,
De a gogledd Carolina,
Lloegr Newydd, Brunswick, Jersey,
Ac aneirif gyda hyny;
Ond tydi, Georgia gu, ydoedd yn gyson,
Yn mhob terfysg a thrallodion,
Fwya'n gwasgu ar ei galon.

Brystau, tywallt ddagrau'n hidl,
Marw'r pena' o wyr dy 'fengyl;
Ni chai glywed fyth ond hyny,
Yn Old Orchard fe'n pregethu;
Fyth ni weli ei ddwylo canaid,
Yn dyrchafu i'r nef fendigaid;
Mae e'n nghudd yn y pridd oerllyd yn huno,
Ac nis c'od e fyth oddiyno,
Nes del cherubim i'w ddeffro.

Ac ni weli fyth o'r dagrau
Mwy yn cwympo dros ei ruddiau,
Nis cai wel'd yn eitha'i egni
Yn galw priodasferch Iesu;
Bellach fe wna bleiddiaid rheibus
Yn dy gorlan waith anafus,
'Does ond fe, Brenin ne', 'n unig all helpu,
Ac o'r rhwydau oll dy dynu,
Sydd yr awrhon am dy dd'rysu.

Llundain fawr, tydi gas bena'
Ffrynd y nefoedd i'th fugeilia;
Tot'nam Court Road, darfu i ti
Golli'r tadmaeth goreu feddi;
Y Tabernacl sy'n amddifad,
WHITFIELD fwyn a gafodd alwad,

Heddyw llu duwiol sy yno'n och'neidio,
Defaid bron a myn'd i grwydro,
A'u hathrawon wedi huno.

Davies addfwyn gynta' hunodd,
Yna Adams a'i canlynodd,
'Nawr fe d'rawyd ar y gwreiddyn,
Awd a WHITFIELD at y werin;
Y mae'r bleiddiaid yn cael gwynfyd,
Fod bugeiliaid yn dihengyd,
Iesu mwyn, at dy ŵyn, tyred yn fuan,
C'od athrawon dawnus gwiwlan,
I fugeilio'th anwyl gorlan.

Colled llai i Ynys Brydain,
Colli'r India fawr ei hunan,
Gwell o lawer fuasai iddi
Fod heb dduciaid nac arglwyddi;
Gwell pob cystudd, gwell pob aflwydd,
Na marwolaeth gwas i'r Arglwydd,
Proffwyd Duw, bendith yw dros ben ei gyfri',
Cerbyd Israel yw 'i broffwydi,
A'i farchogion duwiol heiny'.

Nodiadau[golygu]