Saith o Farwnadau/Y Parch Daniel Rowlands, Llangeitho

Oddi ar Wicidestun
Y Parch George Whitfield Saith o Farwnadau

gan William Williams, Pantycelyn


golygwyd gan David Morris, Capel Hendre
Y Parch Lewis Lewis

Y PARCH. DANIEL ROWLANDS,
LLANGEITHO,

Yr hwn a fu farw ar yr 16eg o Hydref, 1790, yn 77 mlwydd oed.

Ar rhaid marw'n hen Barchedig
ROWLANDS, er holl ddoniau'r nef,
Roddwyd megys môr diderfyn
Yn ei ysbryd bywiog ef?"
Oni all'sai gweddiau'r eglwys,
Gafodd drwyddo nefol ras,
Ddim dros rai blynyddau'n rhagor
Gadw angau dewr i ma's?


Ai rhaid marw gwr wnai dyrfa
Oerllyd, drom, yn llawn o dân,
Werin fyddar, fud, ddifywyd,
Oll i seinio nefol gân?
Marw un wnai i satan gwympo
Lawr yn swrth o entrych nef;
Ond er hyn, a llawer rhagor,
Angau oedd ei farw ef.

Dyn o'r pridd a wnaed i fynu,
Dyn i'r pridd sy'n myn'd i'w le;
Felly holl drigolion daear,
Ond Tywysog mawr y ne':
Y mae marw'n rhwym wrth eni,
Ac mae gwobr oer y bedd,
Fel 'tifeddiaeth anhebgorol
I'r cadarnaf un ei wedd.

Nid rhaid canu dim am dano,
Nid rhaid marble ar ei fedd;
Ofer tynu dim o'i bictiwr,
Ar bapyryn sal ei wedd:
Gwnaeth ei farwnad yn ei fywyd,
Rho'dd ei farble yn ei le,
Fe 'sgrifenodd arno 'i enw.
A llyth'renau pur y ne'.

Y dorf seintiau, fry ac yma,
Y mae arnynt ol ei fys,
Sydd iddo'n gareg-fedd a marwnad,
Ac yn bictiwr hardd, fe wy's;
Pan fo ceryg-nadd a phapyr,
Gyda'r byd, yn myn'd yn dân,
Gras y nefoedd ar y rhei'ny
Ddwg ei enw ef yn mla'n.

O bweroedd pur prydyddiaeth,
Sydd yn dwyn adenydd mawr,
Ac yn hofran uwch cymylau
Dwyrain a gorllewin wawr,
Rhowch im' nerth i ddringo fynu,
Ac i olrhain ol ei dra'd,

O'r pryd cododd haul yn Nghymru
Nes ei fyn'd i'r nefol wlad.

Pan oedd tywyll nos drwy Frydain,
Heb un argoel codi gwawr;
A thrwmgwsg oddiwrth yr Arglwydd
Wedi goruwch-guddio'r llawr;
DANIEL chwythodd yn yr udgorn,
Gloyw udgorn Sinai fryn,
Ac fe grynodd creigydd cedyrn,
Wrth yr adsain nerthol hyn.

Boanerges oedd ei enw,
Mab y daran danllyd, gref,
Sydd yn siglo yn ddychrynllyd
Holl golofnau dae'r a nef;
'De'wch, dihunwch, oedd yr adsain,
Y mae 'n dinas ni ar dân;
Ffowch oddi yma mewn mynydyn,
Ynte ewch yn ulw mân.'

Yn Llangeitho fe ddechreuodd
Waeddi dystryw 'r anwir fyd,
Miloedd ffôdd o'r Dê a'r Gogledd,
Yn un dyrfa yno ynghyd;
Arswyd, syndod, dychryn ddaliodd
Yr holl werin, fawr a mân,
Nid oedd gwedd wynebpryd un-gwr,
Fel y gwelwyd ef o'r blaen.

Gliniau 'n crynu gan y daran,
Fel pe buasai angeu 'i hun,
Wedi cym'ryd llawn berch'nogaeth
Ar y dyrfa bob yr un;
'Beth a wnawn am safio 'n henaid? '
Oedd yr unrhyw gydsain lêf;
Chwi sy' am wybod hanes DANIEL,
Dyma fel dechreuodd ef.

Daeth y swn dros fryniau Dewi,
Megys fflam yn llosgi llin,
Nes dadscinio creigydd Towi,
A hen Gapel-Ystrad-Ffin;

Lle daeth siroedd yn finteioedd,
Werin o aneirif ri',
Wrth gref adsain udgorn gloyw,
Cenadwri'r nefoedd fry.

Dyma ddyddiau pur gyffelyb
I rai Sinai hen o'r bla'n,
Llais yr udgorn a llef geiriau,
Tarth a thymestl, mwg a thân;
Mynydd mawr yn crynu'n danbaid,
Ac yn chwareu o eigion byd,
Yn datguddio yn erbyn pechod,
O bob rhyw, anfeidrol lid.

Dyma'r pryd daeth HARRIS fywiog,
Yn arfogaeth fawr y nef,
Megys taran annyoddefol,
Yno i'w gyfarfod ef;
Dyma ddyddiau sylfaen gobaith,
Dyddiau gwewyr llym a phoen,
Wrth gael esgor ar ei meibion,
Newydd wraig yr addfwyn OEN.

Pump o siroedd penaf Cymru
Glywodd y taranau mawr,
A chwympasant gan y dychryn
Megys celaneddau 'lawr;
Clwyfau gaed, a chlwyfau dyfnion,
Ac fe fethwyd cael iachad,
Nes cael eli o Galfaria,
Dwyfol ddwr a dwyfol wa'd.

'Nol pregethu'r ddeddf dymestlog
Rai blynyddau yn y bla'n,
A rhoi llawer 'n friwedig,
'Nawr cyfnewid wnaeth y gân;
Fe gyhoeddodd iachawdwriaeth
Gyflawn hollol, berffaith, lawn,
Trwy farwolaeth y Messia
Ar Galfaria un prydnawn.

Grym ei athrawiaethau melus
Bellach oedd yn meithrin ffydd,

Trwy ddatguddio y Cyfryngwr,
Sylfaen iachawdwriaeth rydd;
Dyn a'r Duwdod ynddo'n trigo
Wedi prynu â'i ddwyfol wa'd
Holl drysorau nef y nefoedd,
I gredadyn tlawd yn rhad.

Dyna'r pryd daeth WHITFIELD enwog
Ar adenydd dwyfol ras,
Lawr i Gymru i gael profi
Y newydd win o ddwyfol flas;
Dyma'r pryd yr hyfryd asiwyd,
O fewn ffwrnes fawr y nef,
Sais a Chymro mewn athrawiaeth
Loyw, ddysglaer, gadarn, gref.

Pan oedd athrawiaethau cymysg
Wedi llanw'r wlad yn un,
BAXTER, ARMIN, a PHELAGIUS,
Yn nghyda holl ddyledswydd dyn:
Y rhai'n a waeddwyd yn eu herbyn,
Fe'u 'sgymunwyd hwynt i ma's,
Ac fe blanwyd drwy'r eglwysi
Athrawiaethau dwyfol ras.

Dyna'r pryd, boed cof am dano,
Ganwyd y gymanfa fawr,
Ag sy haner cant o flwyddau
Yn cadw i fynu hyd yn awr;
Yn gwneyd undeb athrawiaethau,
Ac yn clymu undeb crwn,
Nas gall rhagfarn na drwgdybiau
Fyth i ddatod dim o hwn.

'Nawr y penaf un ddiangodd,
ROWLANDS heddyw sy 'n y nef,
Wedi derbyn coron euraidd,
Hyfryd ffrwyth ei lafur ef:
Talent ddeg a roddwyd iddo,
Fe'u marchnatodd hwynt yn iawn;
Ac o'r deg fe'u gwnaeth hwy'n ganoedd,
Cyn machludo'i haul brydnawn.


Nid oes un o siroedd Cymru,
Braidd un plwy' sy'n berchen cred,
Na bu ROWLANDS yn eu teithio,
Ar eu hyd ac ar eu lled;
Dros fynyddau, drwy afonydd,
Ac aberoedd gwaetha' sydd,
O Dyddewi i Lanandr'as,
O Gaergybi i Gaerdydd.

Deuwch drosodd i Langeitho,
Gwelwch yno ôl ei law;
Miloedd meithion yno'n dysgwyl,
Llu oddi yma, llu o draw;
A'r holl dorf yn 'mofyn ymborth,
Amryw'n dweyd, Pa fodd y cawn?
Pawb yn ffrostio wrth fyn'd adref
Iddo gael ei wneyd yn llawn.

Gwelwch DANIEL yn pregethu
Yn y tarth, y mwg, a'r tân;
Mil ar unwaith yn molianu,
Haleluia yw y gân;
Nes ba'i torf o rai annuwiol
Mewn rhyw syndod dwfn mud,
Ac yn methu rhoi eu meddwl
Ar un peth ond diwedd byd.

Pan oedd Solomon ffyddlonaf
Yn cysegu'r deml fawr,
Ac o'r pwlpud pres yn gwaeddi
I'r shecina ddod i lawr,
Mwg a tharth, arwyddion nefol,
Lanwodd yr holl dŷ yn glau,
Fel nas gall'sai yr offeiriaid
Ddim yn mlaen i agosâu.

Felly pan aech i Langeitho,
Ond cael DANIEL wych i'r lan,
Codai haul a llewyrch nefol
Ar y dyrfa yn y fan;
Geiriau 'hedai megys saethau,
Ac a ddaliai afael dỳn

Ar galonau oedd yn cysgu,
Neu yn feirw swrth cyn hyn.

Bywiol oedd ei athrawiaethau,
Melus fel yr hyfryd win;
Pawb a'u clywai a chwenychai
Brofi peth o'u nhefol rin;
Pur ddiferion bythol fywyd,
Ag a roddai iawn iachad
I rai glwyfodd cyfraith Sinai,
Ac a ddrylliodd dan ei thra'd.

ROWLANDS neidiodd allan gyntaf,
A'i le gadwodd ef yn lân,
Ac nis cafodd, er gwisgied,
Un gwr gynyg cam o'i fla'n;
'Roedd ei ddawn yn enill arnom,
'Roedd yn cael eisteddle'n llawn,
Yn y gadair ucha' o'r eglwys,
O'i las foreu i'w brydnawn.

Fe fu rhai yn ceisio dringo
Fry i'r gadair yr oedd ef,
Ond cwympasant megys Luci-
Ffer i lawr o uchder nef;
Sandemaniaid balch yn bostio
Eu goleuni mawr a'u grym,
Chwyddo o wyntoedd fel pledreni,
Nes i'nt rwygo a myn'd yn ddim.

Ac fe wibiodd amryw ddynion,
Rhai ar aswy, rhai ar dde',
Ond fe gadwodd arfaeth nefol
ROWLANDS gonest yn ei le;
A phwy bynag gyfeiliornai
O wiw lwybrau dwyfol ras,
Fe ddatguddiai 'u cyfeiliornad,
Hyd nes gwelai pawb hwy'n gas.

Os deuai Antitrinitarian
A rhyw beres front ddisail,
Haeru na fedd Duw Bersonau,
Cyntaf, Trydydd, nac un Ail;

DANIEL yna safai fynu,
Fel rhyw golofn gadarn gref,
A gwrth'nebai, o flaen canoedd,
Ei athrawiaeth ynfyd ef.

Mae ei holl ddaliadau gloyw
Mewn tair credo gryno glir:
Athanasius a Nicea,
Yn nghyda'r apostolaidd wir;
Hen erthyglau Eglwys Loegr,
Catecist Westminster fawr,
Ond yn bena'r Bibl santaidd,
D'wynodd arnynt oleu wawr.

Ac o'r nentydd gloyw yma,
'Roedd trysorau nefol ras,
Megis afon fawr lifeiriol,
Yn Llangeitho 'n dod i ma's;
Gwaed a dwr, nid dwr yn unig,
Angau a santeiddrwydd drud
T'wysog mawr ein iachawdwriaeth,
Yw'r pregethau sy yno i gyd.

Crist ei hunan ar Galfaria,
'N clirio holl hen lyfrau'r nef,
Ac yn talu 'n llwyr bob hatling
O'r holl ddyled ganddo ef;
Mae'r gwrandawyr oll yn llawen,
Oll yn hyfryd, oll yn llawn,
Wedi bwyta'r bara nefol,
O las foreu hyd brydnawn.

Mae'r torfeydd yn dychwel adref
Mewn rhyw ysbryd llawen fryd,
Wedi taflu lawr eu beichiau,
Oedd yn drymion iawn o hyd;
Y ffyrdd mawr yn frith o'r werin,
Swn caniadau'r nefol O'N,
Nes yw'r creigydd oer a'r cymydd
Yn adseinio'r hyfryd dôn.

Dyma ddyddiau gwerthfawr ROWLANDS,
Ac hwy eto a barhan',

Pan bo'i gorph yn mynwent Ceitho,
Wedi myn'd yn ulw mân;
OS ELIAS yn ei gerbyd
Tanllyd esgyn fry i'r nef,
Fe ddaw ELISEUS yn berchen
Ar ei fantell nefol ef.

Ac ni dderfydd gras y nefoedd,
Draethodd ROWLANDS yn ei chwys,
Ddim er gwaethaf dyn na diafol,
Yn Llangeitho fach ar frys;
Rhaid i'r egin grawn i dyfu,
A dwyn ffrwythau melus, pur,
Hauwyd gan y ROWLANDS hwnw
Sy heddyw yn y nefol dir.

Ac er marw'n tad ardderchog,
Marw ni wna'r 'fengyl bur,
Can's hi estyn ei hadenydd.
Tra bo llanw môr a thir;
Nid â haul i fan o'r ddaear,
Ag mae dynion yno'n bod,
Na bydd hi'r efengyl loyw,
I fanwl ddylyn ol ei dro'd.

Ac nid oedd holl ddyddiau ROWLANDS,
Er eu bod hwy'n amser hir,
Ddim ond gwawr-ddydd iachawdwriaeth,
Ar y santaidd nefol dir;
Y mae'r eglwys fawr yn feichiog,
A hi esgor cyn prydnawn,
Ar bregethwr, megys DANIEL,
O holl ddoniau'r nef yn llawn.

Ti NATHANIEL, gwas y nefoedd,
Gwylia ar y gorlan glud,
Gasglodd ROWLANDS, dy dad ffyddlon,
Trwy ryw orchest fawr yn nghyd;
Uwch mewn dysg, nid llai mewn doniau,
Saf fel llusern oleu glir,
I helpu ei ddefaid ef i gadw
Yr union ffordd i'r nefol dir.


Bydd yn dad i'r gymdeithasfa,
Ac os teimli'th fod yn wan,
Ti gai help gwir efengylwr,
DAFYDD onest o Langan,
Dodd y ceryg â'i ireidd-dra,
A thrwy rym efengyl fwyn
Wna i'r derw mwyaf caled
Blygu'n ystwyth fel y brwyn.

Sefwch fel colofnau cedyrn,
Chwi gewch help i fyned trwy,
Y LLWYD doeth, a WILLIAMS, Lledrod
Ac ugeiniau gyda hwy:
Nithiwch y gymanfa bellach,
A gwegrynwch hi yn lân,
Na bo mwy un cyfeiliornad
I'w gael yn mhlith y gwenith glan.

Sefwch yn lle Huss a JEROM,
CRANMER, RIDLEY, aeth drwy'r tân,
Amddiffynwch bynciau CALFIN,
Megys DANIEL hen o'r bla'n;
Gofelwch rhag i wirioneddau
'R Bibl santaidd fyn'd ar goll,
Bywyd, profiad, ac athrawiaeth.
Heb eu cywir gadw oll.

Mae fy amser i ar ddarfod,
Mae fy ngalwad bron ar ddod,
'Rwyf mewn carchar gan yr angau,
Fel yn llechu dan ei dro'd;
Ni cha'i fyn'd i maes o'i loches,
Yma fymryn bach na thraw,
Ond fy Jubil' mi ddysgwyliaf,
Dyr fy nghadwyn maes o law.

Eto, er ei lyffetheiriau,
Sydd yn rhwymo 'ngorph yn nghyd,
Y mae'r nefoedd fawr yn agor,
Rhwygwyd y cymylau 'gyd;
Mae fy ysbryd yn cartrefu
Gyda'r dorf aneirif fawr,
O rai cyntaf-anedigion
Ag sydd yn y nef yn awr.


Nodiadau[golygu]