Saith o Farwnadau/Y Parch Lewis Lewis
← Y Parch Daniel Rowlands, Llangeitho | Saith o Farwnadau gan William Williams, Pantycelyn golygwyd gan David Morris, Capel Hendre |
Y Parch H Davies, Penfro → |
Y PARCH. LEWIS LEWIS,
GWEINIDOG YR EFENGYL,
Yr hwn a ymadawodd a'r byd ar y Nawfed dydd o Fehefin, 1764'.
AR ddiwrnod mi fyfyriais
Am ddedwyddwch maith y nef,
Natur cariad y Messiah,
Harddwch ei briod-ferch ef;
Arfaeth foreu trag'wyddoldeb,
Ethol etifeddion ffydd,
Concwest Iesu ar Galfaria,
Hedd y saint, a'r farn a fydd.
Mi fyfyriais nes i'm natur
Eiddil, egwan, i wanhau,
Nes i'm deall, nes i'm rheswm,
Fethu eu swyddau a chwblhau;
D'rysodd f' enaid mewn myfyrdod,
Nofiodd mewn dyfnderoedd mawr,
Fy synwyrau a ddymunodd
Gael gorphwysfa haner awr.
Yna'm cnawd i a gydsyniodd,
A phob egwan nerf yn nghyd,
I roi nerth i'm holl synwyrau
Ag oedd wedi blino 'nghyd;
Huno wnes yr hun felusaf,
Dybiais i, a brofodd dyn,
Ffansi yn unig a dychymyg
Oedd eu hunain yn ddihun.
Hwy grwydrasant gylch oddeutu,
Weithiau i'r dwyrain, weithiau i'r de,
Weithiau i lawr i ddyfnder daear,
Weithiau i uchder eitha'r ne';
Fil o weithiau yn gynt na'r cwmwl,
Fil yn gynt na goleu'r dydd,
Heb un rheswm yn eu ledio,
Hedent yma a thraw yn rhydd.
Dygent im' bob rhyw newyddion,
Rhai yn serchog, rhai yn gas,
Rhai am anrhaith a wnai Satan,
Rhai am gonewest nefol ras;
Yn mhlith eraill d'wedwyd wrthyf,
LEWIS heddyw aeth yn rhydd,
Dacw'r angel yn y wybr,
'Rwan yn ei arwain sydd.
Yna gwaeddais, Beth yw d' enw?
Eto nid o'wn yn ddihun,
Ariel, Gabriel, Uzziel ddysglaer,-
Ateb i mi, angel cun:
Dianc wnaeth y goleu i fynu,
I derfynau eitha'r nef;
Mi ruddfanais, dacw gyfaill,
Wela' i mwy mo hono ef.
Pan atebodd llais, dybyg'swn,
Dystaw main, fel wrth fy nglun,
Neu fe'i hunan, neu ddychymyg,
Ydoedd ef, nis gwn i p'un;
Taw, holiedydd, ebe'r phantom,
Yna swn ei eiriau clywn,
Yn rhoi dychryn oddi allan,
Yn rhoi arswyd oddi mewn.
Ond dan grynu mi ofynais,
Eto methu bod yn hy',
Ofni'r oeddwn bresenoldeb
Rhyw rai o'r ysbrydion fry.
Ai rhoi farwel wnest mor fuan?
Ai ymddangos wnest i ni?
Tros fynudyn rho'wd it' ddoniau,
Yna d' alw oddi fry?
P'odd diangaist ar y wawrddydd?
P'odd aeth dy gadwynau'n rhydd
Cyn cael teimlo nerth y gelyn,
Cyn cael profi gwres y dydd?
Ti adewaist rym y rhyfel
I rai ynddo oedd o'r bla'n;
Pa sawl blwyddyn raid i minau
Sefyll y picellau tân?
Ti ymgedwaist rhag y rhwydau
Ag a wnaeth ein traed ni'n gaeth,
Do, fe'th gariwyd dros y ffosydd
Cwymp'som ynddynt lawer gwaith;
Grym y gwyntoedd, gwres y tymhor,
Stormydd ar y bryniau mawr,
Wnaeth i'n crwyn ni'n llyn felynu,
Wnaeth i'n'sgwyddau grymu 'lawr.
'Rwyt ti'n canu heddyw'n gyson,
Yn mhlith lluoedd heb ddim rhif,
A nofiasant dros ddyfnderoedd,
Dyfnder tonau, dyfnder llif:
O na buasai gras yn cym❜ryd
Y rhai gododd gyda'r dydd,
Tynu'r baich oddiar eu hysgwydd,
Dadrys eu cadwynau'n rhydd.
Ni che'st ti na'r rhew na'r eira,
Ni che'st ti na môr na bryn,
Gwynt o d' ochr heb ddim tonau,
O'r dechreuad hyd yn hyn;
Awel beraidd ar y ddaear,
Haul yn t'wynu'n hyfryd iawn,
O'r pryd gwawriodd goleu arnat,
Nes it' orphwys hir brydnawn.
Beth a dd' wedi am danom ninau,
Sydd a miloedd maith a mwy
O elynion bob diwrnod,
Oll yn cynyg i ni glwy'?
Chwareu am ein bywyd gwirion
Y mae uffern fawr a'r byd,
Taenu rhwydau wrth y canoedd,
Dysgwyl am ein cwymp o hyd.
Curo ddoe a churo heddyw,
Curo yma, curo draw,
Weithiau amheu, weithiau rhyfyg,
Anial garw ar bob llaw;
Temtasiynau o bob natur,
Temtasiynau o bob lliw,
Am ein bywyd bob mynudyn,
Dyma'r fan yr y'm ni'n byw.
Tithau est heb wybod iddynt
I'r ardaloedd hyfryd draw,
Gwelais seraph yn dy arwain.
Yn fwyneiddlon yn ei law;
Gwelais lwybr goleu, eglur,
Ffordd yr oe't ti'n myn'd yn mla'n,
Megis meteor a f'ai'n gadael
Cynffon draw o'i ol o dân.
'Rwyf yn methu, er fy ngoreu,
Wrth fyfyrio'th wledd yn awr,
Er mai 'wyllys y Goruchaf,
Peidio eiddigeddu'n fawr
I ti gael drwy lai o dd'rysni
Fyn'd o'r anial dir i ma's;
Eto rhaid i mi ddystewi,
Felly hen arfaethodd gras.
AT.—Nid wyf ddedwydd mwy na chwithau,
Mae'n dedwyddwch ni yn un,
Ewyllys T'wysog mawr ein bywyd
Yma ac yna sydd gytun;
Mae hen arfaeth ganddo yn ddirgel,
Fe fyn hono ei chwblhau,
Ac nid oes, mi wn, i'r nefoedd
Neb sy'n gofyn p'am y mae.
Y mae cherubim ardderchog,
Y mae seraphim o'u bron,
Oll yn gwel'd, 'nol del i fynu,
Hardd berffeithrwydd rhanau hon;.
Mae pob cangen ynddi'n gydsain,
Mae pob cymal yn ei le,
Yn cordeddu am eu gilydd,
Oll i'w ogoneddu E'.
Nid oes yma un anturia
Fyth i yngan gair yn llyn,
Pa'm un acw sy fel yna?
Pa'm hyn yma sy fel hyn?
"Clod i'th enw" yw'r caniadau,
Yn drag'wyddol fo'n parhau,
Am fod oll drwy'r ddae'r a'r nefoedd
I'th ogoniant yn cydwau."
Mi ge's ddianc bron mor gynted
Ag y gwelais oleu'r dydd;
Cyn fy siwrneu oriau bychain,
Rhoddwyd fy nghadwynau'n rhydd:
Mae yma rai fu ar fynydd Sion
Ddeugain o flynyddau maith,
Gant o weithiau 'n gaeth a rhyddion,
Cyn 'ynt 'nabod pen eu taith.
Chwi sy'n ddedwydd yn y rhyfel,
Minau'n ddedwydd yma'n rhydd;
Chwi mewn tywyll nos yn canu,
Minau'n canu oleu ddydd;
Un yw'r hymn, ac un yw'r anthem,
Canu'r Iachawdwriaeth rad,
'Run yw'r gelyn a orchfygwyd,
'Run yw'r goncwest, 'run yw'r gwa'd.
Dyma'r gwahan, mi orphwysais,
At fy Nuw 'rwyf fi yn nes;
Chwi sy'n poeni ar y tonau,
Yn y gwynt ac yn y gwres:
Dim ond mynud yw'r gwahaniaeth,
Mil o flwyddau gyda chwi,
Prin cyrhaeddant fyth a'u rhifo,
Ond diwrnod gyda ni.
Blaenu mewn i nef y nefoedd
Ddeg o flwyddau at fy Nuw,
Llong o flaen y llall yn landio
Fynud fer, yr un peth yw;
Pan fo'r gyntaf wedi credu
Bod hi wedi cael y lan,
Dyma'r olaf dros y tonau
Megys hithau yn y fan.
Gras yw'r cwbl sy mewn arfaeth,
Gras yw'r cwbl yn y nef,
Gras yw'r cwbl ar y ddaear,
O'i weithredoedd amryw ef;
'Nawr fe faddeu ef i'r lleidr
Chwarddodd pan yn myn'd i'r pren,
Rai mynudau 'nol cael maddeu
Fe ga'dd ganu uwch y nen.
Nid yw ugain mlwydd o weithio
Bwysau ddim yn nheyrnas nef,
Y gwaith, y gras, y dawn, a'r bywyd,
Ydoedd oll ei eiddo ef;
Eto 'nol y gwaith coronir,
Er mai haeddiant marwol glwy',
Can's pob gweithred fach a wnelir
Yma a'u canlynant hwy.
Fe chwanegir eich gogoniant,
Os yw'ch temtasiynau'n fawr;
Mwy eich awydd, pan y'ch temtir,
I roi ffarwel glân i'r llawr:
Gweithiwch, gweithiwch, na rwgnechwch,
Daear eto yw eich lle;
Cerwch Iesu, cenwch hymnau,
Mae'ch caniadau yn y ne'.
GOF.—Dywed i mi, os yw bosib',
Ronyn am dy artre'n awr,
Am y swyddau, am y graddau,
Ac am ddoniau'r nefoedd fawr;
Pa fath iaith sy gan angelion,
Ai ymddyddan megys dyn?
Neu wrth amnaid, neu wrth awgrym,
Rho'nt eu meddwl, dywed p'un?
Beth yw'r gwahan rhwng sant a seraph
Yn ngwasanaeth pur y nef?
Onid angel ydyw enaid
Hyd nes adgyfodir ef?
Pa negesau wna seraphiaid,
Pa gynorthwy wnant i ddyn,
Na wna d' enaid di neu arall,
Gyda phleser, heddyw'r un?
AT.—Uwch dy ddeall, uwch dy synwyr,
Yw'r holiadau sy'n dy fryd;
'Mhell uwch cyrhaedd natur ddynol
Ydyw'r oll mewn nefol fyd:
A phe ceisiwn roi it' wybod,
Megys cynyg fyddai ef
I roi baban cyn ei eni
'Ddeall troion sêr y nef.
Pa fodd y deall dall am liwiau?
Pa fodd y gall daearol ddyn
'Nabod natur y seraphiaid,
Nad yw'n 'nabod mo'no 'i hun?
Nerth, cyflymdra, cariad, doniau,
Fedd trigolion pur y nef,
Nad ellir cyn yr adgyfodiad
Fyth egluro o hono ef.
GOF.—A yw'r dyrfa fawr sydd yna
'Nawr yn gwybod, dywed im',
Yn mha ranau maith o'r ddaear
Mae'r efengyl yn ei grym?
Ar bwy genedl y mae'r nefoedd
Yn cyfranu yma a thraw?
Pwy sy'n derbyn ysbryd cariad?
Pwy sy'n derbyn ysbryd braw?
P'un ai myrdd sy'n tramwy yma
O ysbrydion pur eu dawn,
Yna dwyn yn ol newyddion,
Mewn gorfoledd hyfryd iawn?
Neu a ydyw swn ein geiriau,
Megys gyda'r awel bur,
Yn ehedeg ar adenydd
Cwmwl i'r santeiddiol dir?
A wyt yn adnabod heddyw
Yr holl eglwys eang fawr,
'R enwau hyny a ganmolaist
Mewn pwlpudau ar y llawr;
Abra'm, Isaac, Jacob wrol,
Fu mewn d'rysni, fu mewn drain,
Mari Magdalen, Manasseh,
A rhyw filoedd gyda rhai'n?
AT.—Yr hyn wy'n wel'd, 'r hyn wy'n deimlo,
A'r hyn heddyw wy'n fwynhau,
Cadw'th le, a bydd yn ddystaw,
'Chydig ddyddiau tithau gai;
Nid yw'n perthyn i ti ofyn
Swyddau seraphim a'u gwaith,
Na pha fodd mae'r nef yn gwybod
Holl ddirgelion daear chwaith.
'Rwy'n adnabod, mewn ffordd ryfedd,
Lu o ddynion aeth o 'mlaen;
Nid wrth lais, ac nid wrth lygad,
Nid wrth liwiau fel o'r blaen:
Natur sy yma yn dysgu 'nabod,
Nid y natur sy'n y byd,
Ond rhyw instinct fel o wybod,
Ro'w'd i bawb sydd yma 'gyd.
GOF.—Dywed i mi, gwn y gwyddost,
P'un ai'r haulwen yn y nef
Sydd yn troi oddeutu'r ddaear,
Ynte hi o'i ddeutu ef?
P'un ai Ptolomy, neu Newton,
Neu Copernicus oedd wir?
P'un a dd'rysodd mewn rhesymau?
P'un a gafodd oleu clir?
AT.—Nid yw doniau mawrion Newton
O fawr gyfrif yn y nef;
Mwy yw'r lleiaf wers o'r Bibl
Na'i holl lyfrau enwog ef:
Dwyn amseroedd, d'rysu deall,
Oeru calon, llanw pen,
Y mae'n fynych 'studio natur,
Mesur troion ser y nen.
GOF.—Dywed im' pwy sect o ddynion
Yw'r gywiraf is y ne'?
P'un at ddyddiau'r apostolion
Yw'r agosaf at ei lle?
Pawb sy'n bostio'r Bibl santaidd,
Dweyd eu bod hwy wrtho 'nglyn,
Bostio crefydd y prif oesoedd,
Minau'n methu gwybod p'un.
AT.—Rhanwyd crefydd yn gangenau
Crefydd berffaith ag sydd un,
Cangen yma, cangen acw,
Y corff i gyd gan nemawr ddyn;
Gwresog iawn yw y rhan fwyaf
Am eu pwnc ac am eu nhod,
Colli'r purdeb, colli'r bywyd,
Colli'r ysbryd cynta' erio'd.
Cais eu hegwyddorion penaf,
Cais eu hysbryd, cais eu rhin;
Fyth na lyn wrth sect nac enw,
Nac wrth eglwys, nac wrth ddyn:
Hed uwch ynfyd ffol gwestiynau,
Uwch rhaniadau sydd yn awr,
At yr ysbryd, at y purdeb,
Ag sydd yn y Bibl mawr.
GOF.—Dywed i mi, 'nawr ti wyddost,
Gwelaist yma ambell bryd,
Ganu, bloeddio, o orfoledd,
Chwerthin, curo dwylaw'n 'nghyd;
D'wed a yw yn boddio'r nefoedd,
Neidio, dawnsio, o lawen fryd,
Pan mae hyny'n dod o gariad
At Iachawdwr mawr y byd?
AT.—Dylyn ol y Bibl santaidd,
Cai'r llythyren o dy fla'n,
Mae ei eiriau, mae ei ysbryd,
Oll yn fywyd, oll yn dân;
Anhawdd it' fod yn rhy wresog,
Dylyn ol ei gamrau E',
Pan fo gwraidd dy dân yn gariad,
Pan fo'th ddyben yn ei le.
Gras yw chwerthin, gras yw wylo,
Grasau ar y ddaear sydd,
Yn mynegu fod rhyw wreiddyn
Pur, a bywyd yn dy ffydd;
Neidio, dawnsio, moli, canu,
Ydynt effaith, fel y clywn
Gan astudwyr mawrion natur,
Cariad gwresog oddi mewn.
GOF.—Beth feddylir wrth y deg-cant
O flynyddoedd perffaith llawn,
Y caiff satan idd ei rwymo
Mewn cadwynau tynion iawn?
Pa fath Jubil a fydd hono?
A pha amser, a pha ddydd,
Y dechreuir ei gadwyno,
Y gollyngir ef yn rhydd?
AT.—Bydd yn llonydd, bydd yn ddystaw,
'Rhwn sy'n credu 'n llonydd sydd,
Cadw'i enaid mewn amynedd
Hyd nes gwelo'r boreu ddydd;
Digon it' yr hyn 'sgrifenwyd,
Na chais 'nabod gronyn mwy;
Dirgel bethau oll o'u chwilio,
Pechod hollol ydynt hwy.
Ni ro'w'd i ti wybod amser,
Hyn fe geidw Duw ei hun,
Cyngor Duwdod nis cyfrenir
Fyth i neb ond Iesu ei hun;
Bydd di barod, dyna'th alwad,
Ti gai wel'd yr awr a'r pryd
Y cyflawnir pob addewid
Yn y Bibl mawr yn nghyd.
GOF.—Dywed pa faint ga'dd yr angel
O'r farwolaeth ar y groes!
Pa ddirgelion maent hwy'n ganfod
Yn nyfnderoedd angau loes?
Pa berth'nasau rhwng dwy eglwys?
P'un yw'r nesaf at Ꭹ fainc?
P'un sydd fwyaf cryf ei chariad?
P'un bereiddiaf fydd ei chainc?
AT.—Pell ac agos nid yw yma,
Llygad cnawd ni wel e Dduw;
Nefol gymun ni ddealli,
Tra f'och ar y ddae'r yn byw:
Un yw'r canu, un yw'r cariad,
Dieiddigedd er ei faint;
Iesu yn unig yw ein gwrthddrych,
Cystal seraphim a saint.
Ti gai wel'd pan ddelych yma
Ryw fyrddiynau maith a mwy
O ddirgelion na ddeallir
Ar y ddae'r mo honynt hwy;
Oll sy'n newydd uwch yr wybren,
Ac ynfydion oe'nt erio'd
A gynygiasant ddirnad trefn
Yr ysbrydion uwch y rhod.
Y mae Watts yn awr yn addef
Mai newyddion sy yma i gyd,
Ac mai rhyfyg ynddo dd'wedodd
Gynt am drefn nefol fyd:
Y mae synwyr Locke a Newton,
Er eu meithder, er eu grym,
A rhesymau manwl Baxter
Heddyw wedi myn'd yn ddim,
Fe gaiff llyfrau, fe gaiff rheswm,
Fe gaiff deall cnawd i gyd,
Oll eu llosgi yn y danllwyth
Fawr ddiwedda'n gryno 'nghyd;
Nid oes dim ond ffydd a bery,
Nid oes arall ddeil y tân;
Ac nid oes ond cariad perffaith
A â drwyddo'n iawn yn mla'n.
Herwydd hyn ni pherthyn i ti
Ddim ond canu ddydd a nos,
Ddim ond canu a bendithio
'Rhwn fu farw ar y gro's;
Syllu, edrych, a myfyrio,
O foreuddydd hyd brydnawn,
A difyru tra fo anadl
Yn yr iachawdwriaeth fawr.
Heb ymholi am ddirgelion,
Pethau fu neu bethau ddaw,
Pethau weli cyn pen nemawr
Oll yn oleu drwyddynt draw,
Dysgwyl am dy waredigaeth,
Dysgwyl am gael myn'd yn rhydd;
Yn y fynud cauo'th lygaid,
Dyna'r fynud gwawria'r dydd.
Mi ddihunais 'nol i'm ffansi
Gymdeithasu'n llyn â'r ne',
Yna'm deall a ddychwelodd,
A'm synwyrau idd eu lle:
Eistedd oeddwn dan lwyn laurel,
Tra fu hi yn crwydro draw;
Ac er cwsg, y pin 'sgrifenu
Oedd yn chwareu yn fy llaw.