Neidio i'r cynnwys

Salm i Famon a Marwnad Grey/Salm i Famon I

Oddi ar Wicidestun
Rhagair Salm i Famon a Marwnad Grey

gan John Morris-Jones

Salm i Famon II

Salm i Famon

I

CANAF, brwd eiliaf ryw dalm—o loyw fawl
O ufelin arial;
Molaf un naf dihafal,
Mydraf, dadseiniaf ei salm.

I Famon fawr f'emyn fydd;
Yn fore dof, wawr y dydd,
Cludaf ei wiwdeg glodydd.

A rhyw hoyw orohïan—o ferw cerdd,
O frig gwawd a chyngan,
Y pynciaf ei geinaf gân.

Ewybr y canaf bêr acenion,
A thalaf emog gath! i Famon;
Ti sy agwrdd uwch tywysogion,
A'th oruchwyliaeth ar uchelion;
Duw'r meddiant a'r moddion,—ydwyt lywiawdr,
A drud ymherawdr duwiau mawrion.

Un ei le ac un ei wlad,
I un y bo traean byd:
Nid darn a berthyn arnad,
Ond ti gest ei blant i gyd.

Cyfled yw dy gred â daear gron,
Tery ffiniau tir a phennod ton;
Hyd yr êl yr hylithr awelon,
Hyd y tywyn haul, duw wyt yn hon.

Trech wyt na Christ yng ngwlad y Cristion,
Bwddha'n yr India hwnt i'r wendon;
Arafia anial a ry 'i chalon,
Nid i Fahomet, ond i Famon.

Gini neu ddoler gawn yn ddelwau;
Câr yr Iddew codog ei logau;
Câr y Cristion faelion ei filiau.
Am elw o hyd y mae holiadau,
Cregin, wampum, a gloywdrem emau,
Digon o bres, digon o brisiau,
Degwm, pob incwm, a llog banciau;
Am elw y mae'r gri a'r gweddïau,
A'th aur yw pob peth i wŷr pob pau.

Dy gu ddelwau
Gloywon dithau, glân a dethol,
Dyma ddelwau
A wna wyrthiau grymus nerthol.

Pa ryw fudd na phryn rhuddaur,
A pha ryw nerth na phryn aur?
Yr isa'i drâs â, drwy hwn,
I swpera 'mhlas barwn;
Yn neuadd yr hen addef
Y derw du a droedia ef,
A daw beilch ddugiaid y bau
Ar hynt i'w faenor yntau.
Beth yw ach bur wrth buraur,
A gwaed ieirll wrth godau aur?
Un yw dynol waedoliaeth,
Ac yn un Mamon a'i gwnaeth.

Aur dilin a bryn linach,
Prin i'r isel uchel ach;
Pais arfau, breiniau a bryn,
E ddwg arlwydd o gerlyn;
Pryn i hwn dras brenhinol,
A phraw o'i hên gyff a'i rôl.

Beth a dâl dawn a thalent
Wrth logau a rholau rhent?
Pwy yw'r dyn piau'r doniau?
Rhyw was i un â phwrs aur.
Aur mâl a bryn ei dalent,
Gwerrir hi er gŵr y rhent;
Cyfodir tecaf adail
A chaer gan bensaer heb ail;
Pob goreugwyr crefftwyr
Cred Yr honnir eu cywreinied,
Pob dodrefnwyr, gwydrwyr gwych,
Gemwyr ac eurwyr gorwych,
Pob perchen talent, pob tu,
Aeth i'w byrth i'w aberthu.
Y lluniedydd celfydd cain,
Bwyntl hoyw, a baentia'i liain,
Aeth hwnnw a'i waith enwog
I euro llys gŵr y llog;
A phob trysor rhagorol
O ddawn uwch oesoedd yn ôl,
Canfas drud pob cynfeistr hardd,
Yno ddaw yn ddi-wâhardd::
Dillynder ffurfiau perffaith
Raffael oroff ei waith;

Awyr las a disglair liw
Tizian eglurlan glaerliw;
Hy a chwimwth ddychymig
Tintoret yno y trig,
A helyntgamp Velazquez,
Sy ddrych byw fel y byw beth,
Neu Rembrandt rymiant tramawr,
Ac yn ei wyll ryw gain wawr;
Y campau gorau i gyd.
A feiddiodd y gelfyddyd,
Draw gludwyd i'r goludog,
Yng nghaer hwn y maent ynghrôg.

Eiddo ef bob llyfr hefyd,
A "rholau gwybodau byd";
Cynhaeaf pob dysg newydd.
A hanes hên yno sydd:
Y gorau gwaith a gâr gwŷr,
Gorhoffwaith hen argraffwyr;
Llyfrau llafur llaw hefyd,
O ba werth nis gŵyr y byd—
Llond cell, yno wedi'u cau,
O ryw enwog femrynau,
Cywreindeg nas gŵyr undyn,
A geiriau doeth nas gŵyr dyn;
Perlau gwymp ar helw y gŵr
A welwai berl ei barlwr;
Gemau'r Gymraeg, mwy eu rhin
Na'r main claer mewn clo eurin,
Heb freg oll, yn befr eu gwedd
Yng ngheinwaith y gynghanedd;

Hyn, a mwy na hyn, yn wir,
Yn y gell hon a gollir;
Yr iarll ni fedr eu darllain,
Dieithr yw i deithi'r rhain.
O Famon! addef imi,
Pa sud oedd y'm pasiwyd i?
Ond pam weithion y soniwn
Am dlysau neu emau hwn?
Onid yw wyneb daear
A'i thai i'w ran, a'i thir âr?
Holl ystôr ei thrysorau,
Eiddo ef ŷnt, a'i chloddfâu;
Ei faeth ef yw ei thyfiant,
A chynnyrch hon ar ei chant;
Pob enillion ohoni—
Fe'u medd hwynt, ac fe'i medd hi.
A'r rhyfedd ŵr a fedd hon,
E fedd hwnnw fyw ddynion;
Fel aeron gwylltion a gwŷdd
Y tyfasant o'i feysydd;
Tir y gŵr fu'u magwrfa,
A phorthwyd hwynt o'i ffrwyth da;
Cynnyrch rhad ei 'stad ydynt,
Rhyw hoyw ddull ar ei bridd ŷnt.
O'i fodd y mae'n eu goddef
Ar ei dir a'i weryd ef:
Gall atal eu cynhaliaeth,
A'u troi o'u man a'u tir maeth;
Cadarn ei afael arnun',
Deyrn draw'n ei dir ei hun;
Iôr agwrdd y diriogaeth,
Yn ddarn o dduw arni 'dd aeth:

Plygu'n llu, megis i'r llaid,
I'w addoli wna'i ddeiliaid;
Yn gaeth y'i gwasanaethant,
Rhodio'n ei ofn erioed wnânt;
Ei air ef yw eu crefydd,
A'i ffafr yw sylfaen eu ffydd:
Os eu henaid a syniwn,
Ni wyddant am dduw ond hwn.

A phwy yw'r dwyfol ŵr a iolant?
Corr ydyw o blith cewri dy blant:
Efô a'i eiddo sy'n dy feddiant,
A'i geyrydd enwog a'i ardduniant;
A hwythau pan wasanaethant—eu naf,
Ti, o dduw alaf, ti addolant.

A mi, llwyr oll y collais—dy fendith,
Ni bûm gyrrith, ni'th wasanaethais:
I'm buchedd, am a bechais,—codi 'mhen
O nythle angen ni theilyngais.

Ydwyf bechadur,
Rheidus greadur,
Yn wir, difesur ydyw f'eisiau;
Gwae im ddrwgymddwyn,
Ynfyd ac anfwyn
Dorri, dduw addfwyn, dy heirdd ddeddfau.
Canwaith rhoi ceiniog
I un anghenog,
Neu i ddifuddiog, yn ddifeddwl;
Eirchiaid fai'n erchi,
Rhennais i'r rheini,
Yn lle eu cosbi yng nghell ceisbwl.

Erioed afradus,
Rhyffol wastraffus,
Esgeulus, gwallus, gwelais golled;
Ar lesg ni wesgais,
Isel nis treisiais,
Gwobrau nis mynnais, collais bob ced.

Dilun a diles,
Hyn yw fy hanes;
Erglyw wir gyffes y fynwes fau;
Ydd wyf ddiofal,
Ofer, annyfal,
Eiddilaidd, meddal; O dduw, maddau!


Nodiadau

[golygu]