Seren Tan Gwmwl/William a Mary

Oddi ar Wicidestun
Gorthrwm Brenin Seren Tan Gwmwl

gan John Jones (Jac Glan y Gors)

Yr Arglwyddi

William a Mary

Yn y flwyddyn 1688, y daeth dyn a dynes i Loegr o Holland, a elwid William a Mary, ac mi a'u gwnaed hwy'n frenin a brenhines ar Loegr; er fod lle i feddwl na wyddai'r un o'r ddau ddim mwy am gyfreithiau a rheolau'r deyrnas mwy nag y gŵyr twrch daear am yr haul. A rhai felly ydyw'r rhai gorau gan y rhai a fo mewn swyddau uchel tan y brenin, i gael iddynt hwy drin y deyrnas fel ag y mynnont, a rhoi'r brenin yn farch cynfas dros eu gweithredoedd. Yn yr amser hynny y trefnwyd rheolau cyfreithiau llywodraeth Lloegr fel ag y maent y dydd heddiw; ond eu bod hwy wedi rhydu a'u plygu, a'u gwyrgamu lawer gwaith er hynny hyd y pryd hyn.

Darfu i'r rhan fwyaf o esgobion ac Arglwyddi Lloegr, a llawer o rai eraill a oedd yn disgwyl cael rhywbeth am eu poenau, fyned, yn enw pobl Lloegr a Chymru, o flaen William a Mary, a thyngu ufudd-dod iddynt hwy a'u hiliogaeth tros byth; ac fod pobl Lloegr (y rhai oedd yn fyw yr amser hynny, yn cydnabod, ac yn addef, ac yn ufuddhau i William a Mary, y nhw a'u cenedl, hyd ddiwedd y byd. Hynny yw, y cai pob oes. a phob gradd o ddynion ufuddhau a pharchu ac anrhydeddu a mawrhau, a chydnabod plentyn, neu etifedd, neu'r nesaf o waed i William a Mary yn yr awdurdod a'r breintiau ag yr oeddynt hwy yn tyngu ufudd-dod iddynt y diwrnod hwnnw.

Pan fyfyriom-ni ychydig ar ynfydrwydd y llw uchod, ac yn enwedig y bobl a'i gwnaeth ef, nid oes dim achos i ni ryfeddu at eu gwaith yn gyrru i Holland neu Hanover am ddyn i fod yn frenin. Gallai dyn feddwl wrth eu gweithred nad oedd gan yr un ohonynt hwy mo'r digon o synnwyr i fod yn gaisbwl.

Mae'n debygol eu bod yn meddwl y gwnai'r Hollalluog roddi mwy o synnwyr i genhedlaeth William a Mary nac i'r un genhedlaeth arall yn Lloegr; felly yn ceisio gwneud Duw yn anghyfion i ddwyn i ben eu hynfydrwydd eu hunain; ond nid felly y mae, daliwch chwi sylw ar oesoedd aeth heibio, ac yr oes yma yn enwedig. Mae brenhinoedd mor chwannog i fyned yn sâl neu o'u synhwyrau ag ydyw pobl eraill. Mi fu brenin Lloegr yn sâl iawn yn ddiweddar; ac mi fu brenhines Portugal o'i chof, neu o'i synhwyrau, yn ddiweddar, ac y mae hi eto heb ddyfod i'w hiawn bwyll, felly hawdd yw deall fod dynolryw yn gydradd ger bron awdur y byd.