Seren Tan Gwmwl/Gorthrwm Brenin

Oddi ar Wicidestun
Seren Tan Gwmwl Seren Tan Gwmwl

gan John Jones (Jac Glan y Gors)

William a Mary

Gorthrwm Brenin

Pan gaffo un dyn ffol-falch le uchel tan y brenin mae ef yn fwy gorthrymwr na'r brenin ei hun; ac nid oes ond pobl ffol-falch ffroenuchel chwannog, ymreibwyr, yn ymdynnu am fyned yn agos at frenhinoedd yn yr oes yma nac mewn un oes aeth heibio; oherwydd hynny mae Samuel yn enwi tywysogion neu gapteniaid deg a deugain. Dyna orthrymder yn dechrau; mae yn gosod deg a deugain o wyr tan orthrymder un dyn; a'r dyn hwnnw'n byw wrth wenieithio i'r brenin, ac yn ei gynghori ef i gadw ychwaneg o wŷr, ac yn enwedig godi ychwaneg o drethi, i gael iddynt hwy gyfleustra i adeiladu eu mawredd eu hunain wrth wasgu ar rai eraill. Rhyfedd mae Samuel yn dweud mor eglur; byddai raid iddynt aredig ei âr, a medi ei gynhaeaf, a gwneuthur arfau ei ryfel. Nid eich rhyfel chwi, eithr ei ryfel ei hun. Mae'r geiriau Ei Ryfel, yn dwyn ar ddeall i'r bobl, y gwnai'r brenin a oeddynt yn ei geisio yn eu hynfydrwydd, yn erbyn ewyllys Duw, fyned i ryfel pan welai ef yn dda ei hun, pa un bynnag ai bod ei ddeiliaid ef am ryfela ai peidio; y byddai raid iddynt wneuthur arfau ei ryfel, a pheiriannau ei gerbydau.

Yr oedd y bobl yn meddwl, ond cael brenin, y gwnai ef ymladd yn erbyn eu gelynion hwy; a'r Arglwydd yn dywedyd wrthynt y cymerai ef eu gwinllannoedd a'u meysydd hwy, ac y rhoddai ef hwy i'w weision ac i'w ystafellyddion. Pan gaffo un dyn rwysg a gallu yn ei law ei hun i gymryd pethau pobl eraill, heb na chennad na chyfarch; a chwedi cymryd mwy nag allai ei archwaethau cnawdol ei hun ddifrodi, rhoi y gweddill i'w weision, a'i buteiniaid, ac i ryw wag ladron eraill a fyddai o'i ddeutu ef; ac yn lle ymladd rhyfeloedd y bobl, a threchu eu gelynion hwy, ef ei hun oedd y gelyn mwyaf a allasai y bobl gael. Pa elyn pellennig a fuasai yn medru ymddwyn mor gnafaidd a chymeryd eu meibion, a'u merched, a'u defaid, a'u caeau, a'u gwinllan- noedd, a'u holew-winllannoedd gorau oddi arnynt, ac yn eu rhoi nhw i'w gyfeillion ei hun? Pan gollo dyn ei holl dda bydol, nid oes ganddo ond ei hoedl i'w cholli yn y byd yma; a phan welo dyn fod enafiaid segurllyd wedi ei drethu a'i ddegymu ef allan o'i gaban, a bod rhaid iddo oherwydd ei onestrwydd fyned i grwydro am damaid o fara, mae dyn felly yn ei ddibrisio ei hun i wneuthur peth nas mynnai; ac ni waeth ganddo mo'r llawer ped fae'r enafiaid a'r lladron aeth â'i eiddo ef yn myned a'i fywyd ef yn rhagor.

Mae'r Arglwydd yn dweud y caledwch a ddeuai ar yr Israeliaid oherwydd eu brenin; ac ymhellach, y byddent yn gweiddi oherwydd eu brenin. Rhaid ei bod hi'n galed ar ddynion mewn oedran cyn gwaeddo hwynt o ran eu caledi. A'r Arglwydd yn dweud na wrandawai ef ddim arnynt yn y dydd hwnnw, oherwydd eu bod yn gwrthod yr Arglwydd, ac yn ceisio dyn daearol i deyrnasu arnynt. Wrth hynny gallwn ddeall, nad ydyw'r Hollalluog yn ewyllysio bod yn cael ei adnabod a'i ogoneddu gan ddynolryw, namyn Brenin nef yn unig. Nid ydyw dyn a fo'n cael ei osod, neu'n ei osod ei hun yn frenin ond mal un a fae'n ceisio cymryd gorchwyl yr Hollalluog o'i law; a sicr os bydd ei ddeiliaid yn canu mawl i'w brenin yn eu heglwysydd, ac yn cusanu ei ddwylaw ef wedi dyfod allan, a llawer yn ei ofni ef, a rhai yn cymryd arnynt ei garu ef, rhai eraill yn ei foli ef ac yn ei anrhydeddu ef, ymhob cyrrau i'r ddinas, mae dyn felly wedi myned yn Dduw ei hun. A pha le bynnag y mae dyn wedi myned felly, nid oes ganddo ef na'i folwyr ond ychydig o barch i Frenin nef, neu mi ddalient ychydig sylw ar y geiriau— "Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i."

Am ba beth y barnwyd ein Hiachawdwr i farwolaeth ond am siarad yn erbyn y brenin a'r llywodraeth? A pha ddyn a chalon uniawn yn ei fynwes, a fedr fod yn ddistaw mewn gwlad yn y byd, mewn un oes a fu erioed, os bydd ef yn gweled cam cyfraith, ac yn dyst o gam lywodraeth? Mae yn ddyledus ar bob dyn, sydd yn byw trwy onestrwydd (ac yn enwedig os bydd ef yn berchen dysg a dawn) lefaru ac ysgrifennu, ac hysbysu, ac eglurhau i'w gydwladwyr, eu bod yn cael cam-lywodraeth, a rhoi y cyngor gorau a fedr roi iddynt i ymwrthod â'u gorthrymder; a hynny trwy bwyll yn amyneddgar, pan gaffont gyfleustra.

Mae hanes erchyll ofnadwy am orthrymder brenhinoedd mewn gwledydd tramor; ond mae hanes penau coronog Lloegr yn drwstan a gwaed- lyd a phuteinllyd agos drwyddo. . .

Mae'r hanes am amryw o frenhinoedd Lloegr yn lled ddigrifol; ambell un yn newid ei wragedd bedair gwaith neu bump mewn ychydig amser; un arall yn newid ei grefydd, os bu gan frenhinoedd erioed grefydd a dalai ei galw felly; ac os ydyw'r gair crefydd yn meddwl daioni i ddynolryw yn gyffredin. Ffordd un frenhines oedd llosgi pobl o eisiau iddynt gredu ac addoli yn erbyn eu hewyllys; a'r esgobion a'r offeiriadau pabaidd yn suo yng nghlustiau'r frenhines i dywallt gwaed y rhai a ddywedai air yn eu herbyn hwy, rhag iddynt gael eu troi o'u swydd, a cholli eu tâl. Nid o achos pynciau daionus duwiol y bu y fath ladd a llosgi o achos crefyddau, ond yr elw a oeddid yn ei gael am boen oedd yr achos; ac ydyw'r achos y dydd heddiw o fod cymaint o ymryson rhwng y bobl sydd yn eu galw eu hunain yn grefyddwyr. Pan fu'r cythrwfwl yn amser Oliver Cromwell yr oedd rhyw rith crefydd yn fantell tros lygaid y bobl, rhag iddynt weled mai am eu. harian hwy yr oedd Oliver a'r brenin yn ymladd; felly nid oedd y bobl ond ychydig well er i Oliver ennill cymaint ag a gawsant oedd newid eu meistr; yr un fath a dyn yn symud o'r naill garchar i'r llall, heb ddim sôn am ei ollwng ef yn rhydd.

Cyn myned ymhellach, daliaf ychydig sylw ar y peth yr ydys yn alw'n goron. Mae'r dyn a ddigwyddo gael ei eni yn aer i goron Lloegr, neu ryw goron arall ag sydd yn rhedeg o dad i fab. neu o aer i aer, i gael rhyw elw mawr, gan bobl y wlad lle genir ef at ei gadw; ac heblaw hynny. ryw allu mawr yn ei law ei hun, mewn amryw achosion. Mae gan frenin Lloegr allu ac awdurdod i roi llawer o lefydd i'w ddeiliaid, a'r llefydd hynny yn werth o fil i ugain mil o bunnau yn y flwyddyn, a gallu hefyd i wneud dynion a welo efe 'n dda yn arglwyddi. Pa faint o drafferth sydd ar y brenin yn gwneud dyn yn arglwydd; a pha faint well ydyw dyn wedi ei wneud yn arglwydd; a pha faint ydyw'r bobl gyffredin well er cael arglwyddi arnynt, sydd beth mor amlwg na raid i mi ddweud dim yn yr achos. Mae'r bobl sydd yn cael eu galw yn arglwyddi yn cael tŷ neu neuadd i ddadlu ar achosion y deyrnas iddynt eu hunain; ac y mae llawer ohonynt mewn llefydd uchel tan y brenin ac yn byw ar y trethi yr ydys yn eu codi ar lo, neu ganhwyllau, neu oleuni dydd, neu ryw beth arall a fo'n bur angenrheidiol i ddyn tlawd fyw yn y byd. Er bod gan yr arglwyddi lawer o diroedd, ac o dai, eu hunain, nid ydynt ddim yn esmwyth nes y caffont ddyfod i'r cyfrwy at yr esgobion, a'r bobl gyffredin fel hen geffyl yn myned i'r allt tan bwn digydwybod, a hwythau'n pynorio ychwaneg arno ef o hyd hyd oni bo asgwrn ei gefn ef ymron torri. Ond mi fydd ambell hen farch go galonnog, pan roddir mwy ar ei gefn ef nag a fedr ef gludo, yn taflu ei berchennog a'r pwn i'r baw, ac yn rhedeg i ffwrdd. Mae'n debygol mai gweled rhyw anifail felly yn gwrthod ei gam a wnaeth pobl Ffrainc.

Nid ydyw'r goron ddim ond rhyw degan a debygir ei fod ar ben y brenin; ac yr ydys yn rhoddi'r tegan yma ar ben dyn a fyddir yn amcanu gwneuthur brenin ohono. Felly pan roddir y tegan yma ar ben dyn, ac i'r esgobion wneuthur araith wrth ei ben ef, a gwneud iddo dyngu rhyw ychydig (ac yr ydwyf fi yn meddwl y bydd rhai'n rhegi hefyd ar yr achos) mae'r dyn, trwy ryw rinwedd ryfeddol o'r twyll i ni ag sydd yn y tegan a elwir y goron, ac yn yr araith mae'r esgobion yn ei wneud, mae dyn yn dyfod yn frenin. Felly mae'r esgobion yn gwneuthur brenin, a'r brenin yn gwneuthur esgobion, i gael lle i lechu mewn awdurdod, naill yng nghysgod y llall; a'r bobl. yn synnu wrth edrych a thalu am eu gweithredoedd hwy.

Mae newid enwau pobl wrth eu gwneuthur yn frenhinoedd, neu'n esgobion, yr un fath ag y bydd. chwaryddion enterlute yn newid eu hunain yng Nghymru. Pan welo'r dyrfa y chwaryddion yn dyfod i'r lle penodol iddynt chwarae, cewch eu clywed hwy'n dweud, "Dacw'r dynion yn dyfod;" neu dyma'r dyn sydd yn myned i chwarae;" ond pan roddo'r dyn hwnnw syrcyn. brith am dano, a rhyw gap digrifol am ei ben, ni henwir mohono'n ddyn ddim yn rhagor; mi fydd yr holl blant yn dechrau galw ar eu gilydd, ac yn dweud, "Dowch, dowch, i wrando, dacw'r ffwl ar y daflod."

Er nad oes fodd i roi dim dysg na dawn na gwybodaeth yn y tegan a elwir yn goron, mwy nag y gellir roi ysmaldod a digrifwch mewn cap ffwl, eto mae'r dynion a fo'n eu gwisgo hwy yn cael enwau neilltuol, ac yr ydys yn disgwyl i'r dynion a fo'n eu gwisgo hwy, i un fod yn gall ac yn ddysgedig, a'r llall yn ysmala a digrifol; a phwy bynnag a ddigwyddo wisgo'r teganau uchod, mi ddisgwylir ganddynt yr un doniau. Wrth hynny gellir meddwl mai yn y cap a'r goron mae'r synnwyr a'r digrifwch. Hwyrach mai felly mae; ond ar y llaw arall, os oes neb yn meddwl fod y dynion uchod yn'berchen cymaint synnwyr a digrifwch, un heb y goron a'r llall heb ei gap, i ba beth mae'r cap a'r goron da? I synnu pobl gyffredin, ac i'w hudo hwy i ymadael a'u harian?

Ond mae lle gwell i ddisgwyl digrifwch gan y gŵr a'r cap nag sydd i ddisgwyl synnwyr gan ŵr y goron, oherwydd wrth ei anian ei hun mae dyn yn myned yn chwaraeydd anterlute; un i ddeg i'w dad ef feddwl am y fath beth, nag i'w fab ef feddwl fyth am ganu na chwarae ar ei ôl ef; ond y mae'r goron yn disgyn o dad i fab, pa un bynnag ai synhwyrol ai peidio; ac mi wyr pawb nad ydyw synnwyr a doniau ddim yn cerdded o dad i fab. Ni wyr neb, pan fo dyn duwiol marw, ym mha gwr i'r wlad i ddisgwyl ei ail ef. Ac os digwydd iddynt farw heb orffen gwneuthur cerdd o un bennill, ni wiw disgwyl i'w plant na'u hwyrion hwy orffen hynny. Felly ynfydrwydd ydyw disgwyl i ddoniau ganlyn yn yr un genhedlaeth. Mae'r Goruchaf, i ddangos ei gyfiawnder a'i uniondeb ei hun, yn rhoi rhyw ddoniau a synnwyr neilltuol i'r dyn tlotaf o ran pethau bydol; ac nid gwiw i ŵr mawr a fyddo wedi cael ei eni yn arglwydd feddwl dweud nac ysgrifennu mor synhwyrol â'r dyn tlawd, er iddo iro ei ben, a gwisgo ei ferwisg fawr, a gownau, a llawer o deganau o'r fath, gan ddisgwyl i bobl feddwl ei fod ef yn synhwyrol, oherwydd ei wisgiad; yr un fath ag y bydd merch ieuanc a fyddo heb fawr harddwch na chynysgaeth ganddi, yn gwisgo'n rhyfeddol o'r gwych, i edrych a fedr hi dwyllo rhyw ddyn diniwaid wrth ei dillad.

Y peth rhyfeddaf sydd yn perthyn i'r goron ydyw'r awdurdod ag sydd yn llaw'r dyn a fo'n ei gwisgo hi. Heblaw rhannu rubanau a gwneuthur arglwyddi, a rhyw chwarae plant yn y pistyll o'r fath hynny, mae'r brenin yn ben barnwr Lloegr; ac efe ydyw'r ffynnon lle meddylir fod yr holl farnwyr yn tarddu allan ohoni. Mae gan y brenin allu i wneuthur rhyfel â'r deyrnas a fynno, heb na chennad na chyngor gan undyn; ac i wneuthur heddwch pan welo ef yn dda ei hun. Geill hefyd wneuthur undeb â'r deyrnas a fynno, yn y modd y gwelo ef yn dda ei hun. Mae ganddo awdurdod i roi allan gyhoeddiad am godi dynion, arfau, ac arian i gynnal ac i gynorthwyo pobl isel radd, i ryfela, ac i saethu at bennau ei gilydd, ac i ddarnio ac i ladd ei gilydd tra gwelo ef yn dda. Geill alw ar y parliament, neu'r senedd, ynghyd yr amser a fynno, a'u chwalu hwynt yr amser a fynno, a'u symud hwy i'r lle y mynno, a gwneuthur iddynt wneud agos fel y mynno, oherwydd mi eill wrthod rhoddi ei law wrth y weithred a welir yn y Senedd-dŷ cyffredin; ac efe ei hun yn unig sydd i ddewis ei gadbeniaid ar for a thir; yn ei law ef mae rhoddi enwau anrhydeddus i foneddigion Lloegr a Chymru. Mi eill hefyd ollwng y lleidr a'r ysbeiliwr mwyaf digywilydd yn rhydd, wedi cael ei farnu i'w grogi wrth gyfraith y tir. Pob eiddo a fyddo ar gyfrgoll heb un perchennog, sydd yn disgyn i'r brenin; ac efe biau holl bysgod gorau'r afonydd, ac ehediaid yr awyr, a llawer o bethau eraill mwy nag a fedr ef ddal, na ninnau gofio.

Mae'r rheini a wnaeth y brenin yn dweud ei fod ef yn rasusol raglaw i Dduw yma ar y ddaear, a'i fod ef yn gwbl berffaith, ac na ddichon iddo wneud dim o'i le. Mae'r brenin yn nesaf peth at anfarwoldeb, oherwydd fod y gallu sydd yn ei law ef wedi ei wneud i fyw am byth; ac y mae ganddo lawer o alluoedd eraill yn ei law rhy faith i'w henwi ar yr amser hwn.

Pan fyddo'r brenin marw, rhaid coroni ei fab ef, neu'r perthynas nesaf iddo'n union, pa un bynnag ai hen ŵr drwg ei gof, a hurt gan henaint, ai baban yn ei grud, ni waeth pa'r un. Mae'n iawn iddo, meddant hwy, gael yr holl allu uchod yn ei law, cyn gwybod rhagor rhwng ci a buwch.