Sgwrs Defnyddiwr:Craigysgafn

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicidestun

Diolch am y cywiriadau i O Law i Law. Ar ôl edrych ar dudalen i wneud cywiriadau gelli di roi clec ar y botwm gwyrdd ar waelod y dudalen ger y geiriau "Statws y dudalen" - mae hyn yn nodi bod ail berson wedi cael golwg arni i sicrhau ei gywirdeb (hyd yn oed os na newidiwyd dim mae rhoi clec ar y botwm gwyrdd yn cyfrif fel golygiad, ac yn gwella ein hystadegau) AlwynapHuw (sgwrs) 02:00, 13 Ebrill 2022 (UTC)[ateb]

Fe wnaf i hynny o hyn ymlaen, wrth gwrs. A diolch i tithau am y gwaith gwerthfawr rwyt ti wedi bod yn ei wneud fan hyn! --16:52, 13 Ebrill 2022 (UTC) Craigysgafn (sgwrs) 16:52, 13 Ebrill 2022 (UTC)[ateb]
A oes modd i ti droi dy wiriadau ar Indecs:Cerrig y Rhyd.pdf o binc i felyn? O'u troi i'r melyn gallwn i eu gwirio a'u troi yn werdd. Mae tudalenau werdd yn bwysig i roi bwysau ar wleidyddion a sefydliadau eraill i roi cefnogaeth i greu archif o bob testun llyfr sydd allan o hawlfraint, er mwyn addysg, hybu'r Gymraeg ar y we a chreu corpws Cymraeg ar gyfer rhaglenni Deallusrwydd Atriffisial / OCR / adnabod iaith ac ati. AlwynapHuw (sgwrs) 23:47, 9 Awst 2023 (UTC)[ateb]
Wrth gwrs! Roedd gen i ryw fath o syniad na allwn i brawfddarllen fy ngwaith fy hun. Af i ati. Gyda llaw, rwyf wedi arafu'r gwaith o drawsgrifio Cerrig y Rhyd yn ddiweddar. Ymddiheuriadau! Mi ddechreuais flino ar y straeon braidd. Mae'n anodd goddef cymaint o welliant moesol weithiau. Hwyl, Dafydd. Craigysgafn (sgwrs) 09:47, 10 Awst 2023 (UTC)[ateb]
Diolch o galon am dy waith ar Gerrig y Rhyd. Rwyf wedi pwyso'r botwm llwyd ar gyfer y tudalenau hysbysebu llyfrau eraill y wasg. O edrych ar y ddau Wicidestun fwyaf (Ffrangeg a Saesneg) mae'n ymddangos mae matter o chwaeth yw trawsysgrifio tudalenau hysbysebu, gyda'r mwyafrif yn eu hepgor.. Os wyt am barhau i gyfrannu at yr achos , dyma declyn bach handi at osod delwedd yng nghanol tudalen [Croptool], sy'n weddol hawdd ei ddefnyddio. O rhoi enw y ffeil i fewn i flwch enw'r ffeil ee Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu a dewis tudalen 8 daw cyfarwyddydd i echdynu llun! AlwynapHuw (sgwrs)