Storïau Mawr y Byd/Iason
← Ioseff | Storïau Mawr y Byd gan T Rowland Hughes |
Branwen Ferch Llŷr → |
IV—IASON
YN y bennod hon awn yn ôl eto i Roeg, gwlad y chwedlau. Pe medrem grwydro i mewn i neuadd un o frenhinoedd Groeg un hwyr ryw dair mil o flynyddoedd yn ôl, gwelem y lle'n llawn o bobl yn eistedd i wrando storïau. Pwy sydd yn adrodd y storïau hyn? Na, nid pawb yn ei dro, oherwydd yr oedd dweud stori'n gelfyddyd anodd ei meistroli. I fardd y llys y rhoddid y gwaith, ac yr oedd ef yn delynor hefyd. Gwrandawai milwyr a gwragedd, ieuainc a hen, arno'n canu'r delyn ac yn sôn am arwyr y genedl. Pam na fuasent yn rhoi eu hamser i ddarllen llyfrau gyda'r nos fel y byddwch chwi? Nid oedd llyfrau i'w cael, ac felly o fardd i fardd y trosglwyddid y storïau i lawr o oes i oes.
Bach iawn oedd y byd i Homer. Gwyddai am lannau ac ynysoedd Môr Aegea ac am ogledd Affrig a'r Aifft, ond y tu draw i'r ffiniau hyn yr oedd gwledydd rhyfedd a dieithr. Llongau bach, nad oeddynt o fawr werth mewn stormydd geirwon, oedd gan y morwyr, ac ni fentrai'r un ohonynt ymhell iawn. Nid yw'n syn i'r beirdd greu chwedlau am ynysoedd a broydd dieithr, gan ddychmygu bod duwiau a duwiesau, cewri a chorachod, swynwyr a thylwyth teg yn byw arnynt. Mewn oes felly y tyfodd y stori am Iason a'i daith beryglus i ynysoedd a gwledydd pell i chwilio am y Cnu Aur.
Ar ben mynydd Pelion, mynydd creigiog a'r eira'n wyn ar ei lethrau bron trwy'r flwyddyn, yr oedd ogof fawr, ac ynddi trigai hen ŵr doeth. Deallai hwn holl brofiadau dynion, a chanai ei gynghorion doeth gan redeg ei fysedd hyd dannau telyn o aur. Yr oedd mor enwog fel y gyrrai brenhinoedd Groeg eu bechgyn ato i'w magu o dan ei ddisgyblaeth. Dysgent ganu'r delyn, dawnsio, rhedeg fel yr hydd, ymladd yn wrol, hela anifeiliaid gwylltion a chwerthin yn wyneb pob perygl. Dysgent hefyd ofni'r duwiau, parchu'r hen a'r gwan, a bod yn garedig wrth ei gilydd ym mhob anhawster. Nid oedd meibion mor wrol a doeth â'r bechgyn a oedd yng ngofal hen ŵr yr ogof.
Yma y magwyd Iason er yn blentyn, ac am flynyddoedd ni wyddai pam na sut y daeth yno; ni wyddai hyd yn oed pwy oedd. Ond un dydd, wedi iddo dyfu i fyny'n llanc cryf a hardd, safai ar graig uchel a'r cymylau'n hofran o amgylch ei ben. Syllai'n freuddwydiol i'r pellter, a daeth hen ŵr yr ogof ato gan roi ei law ar ei ysgwydd.
"Iason, beth a weli di yn y pellter draw?" gofynnodd.
"Gwelaf gaeau ffrwythlon, gwastadeddau'r ŷd yn melynu yn yr haul, a dinasoedd poblog ger glannau'r môr."
"Daeth yr awr imi ddweud ychydig o'th hanes wrthyt ti. A wyddost ti sut y daethost yma?"
"Wn i ddim byd amdanaf fy hun," atebodd Iason.
"Yr oedd dy dad yn frenin ar y tiroedd a'r dinasoedd acw, ond dygwyd ei deyrnas oddi arno trwy dwyll gan ei frawd, dy ewythr Pelias. Ceisiodd Pelias dy ladd dithau, ond dihangodd dy dad gan dy ddwyn di yma i'm gofal i. Yr wyt yn awr yn ddigon hen i gychwyn allan i ddial y cam."
Cychwynnodd Iason y diwrnod hwnnw, gan ffarwelio'n dyner â'r hen ŵr ac â'i gyfeillion yn yr ogof.
"Un gair olaf," meddai'r hen ŵr wrtho. "Cofia fod yn garedig wrth yr hen a'r gwan bob amser."
Neidiodd Iason yn ysgafn o graig i graig hyd lethrau peryglus y mynydd, ac yna crwydrodd drwy goed tywyll nes dod allan i'r wlad agored. Cyrhaeddodd afon wyllt, ac ar ei glan yr oedd hen wraig ofnadwy hyll a charpiog yn wylo am na fedrai groesi. Cofiodd Iason am gyngor olaf yr hen ŵr a chariodd y wrach ar ei gefn i ganol y dŵr. Yn rhuthr y dyfroedd nid gwaith hawdd fuasai croesi'r afon ei hun; anos fyth oedd cadw'i draed dano a'r hen wraig yn gwingo a chicio a sgrechian. Er hynny, cyrhaeddodd y lan arall yn ddiogel, ac yna neidiodd yr hen wraig yn ysgafn oddi ar ei gefn. Er ei syndod, gwelodd hi'n newid yn dduwies dal a phrydferth a'i charpiau hyll yn troi'n fantell sidanaidd â gemau lawer yn disgleirio ynddi.
"Myfi," meddai wrtho, "yw Hera, duwies y nefoedd. Pan fyddi mewn unrhyw berygl, galw arnaf."
Yna diflannodd mewn cwmwl amryliw i'r awyr.
Aeth Iason yn ei flaen i gyfeiriad tyrrau'r ddinas a welai yn y pellter. Collasai un o'i sandalau yn yr afon, a cherddai'n araf a chloff yn awr. Yr oedd ystrydoedd y ddinas yn llawn o bobl, ond ymlwybrodd Iason drwyddynt nes cyrraedd ohono'r deml fawr. Yno safodd i syllu ar ddefod rwysgfawr; yr oedd y brenin, Pelias, yn aberthu i'r duwiau.
Syrthiodd llygaid y brenin ar y llanc cryf a hoyw, a gwelodd fod un troed iddo'n noeth. Aeth wyneb Pelias yn wyn gan ofn, oherwydd dywedai proffwydoliaeth yn y wlad y deuai gŵr ieuanc, heb wisgo dim ond un sandal, i ddwyn ei deyrnas oddi arno.
"Ŵr dieithr, pwy wyt ti?" gofynnodd, â chryndod yn ei lais.
"Myfi yw Iason, mab dy frawd, a deuthum yma i hawlio fy nheyrnas."
Cymerodd Pelias arno roi croeso mawr i'r bachgen, gan ei osod i eistedd wrth ochr ei ferched prydferth yn y wledd ac estyn bwyd blasus a gwin melys iddo. Yna canodd bardd ei delyn ac adrodd y chwedl am y Cnu Aur. Dywedai'r gerdd fod Cnu Aur ryw hwrdd rhyfeddol yn crogi ar bren mewn gwlad bell o'r enw Colchis, a sarff wenwynig yn ei wylio ddydd a nos. Crogwyd y Cnu yno gan frenin o Roeg, a aberthodd yr hwrdd i'r duwiau ar ôl dianc i'r wlad bell ar ei gefn. Yn ôl y gân, ni ddeuai heddwch byth i'w enaid hyd nes dyfod o'r Cnu Aur eto i Roeg.
Gwyliai Pelias wyneb y llanc, Iason, yn graff, a sylwodd ar y tân yn ei lygaid.
"Hy," meddai, "bu amser pan fentrwn i allan ar unwaith i chwilio am drysor felly, ond yr wyf yn awr yn hen. Nid yw gwŷr ieuainc heddiw mor eofn â'u tadau; nid oes yma neb yn ddigon dewr i wynebu'r daith."
Neidiodd Iason ar ei draed â'i lygaid yn fflam.
"Dyma un," gwaeddodd, "yn barod i chwilio am y Cnu Aur, yn barod hyd yn oed i farw yn yr antur."
"Pe dyget y Cnu Aur yn ôl i Roeg, ildiwn fy nheyrnas i gyd iti," meddai Pelias, gan gredu y collai Iason ei fywyd ymhell cyn cyrraedd Colchis.
Derbyniodd Iason yr her. Daeth o hyd i saer coed medrus o'r enw Argus, ac adeiladodd hwnnw, o bren y pinwydd, long gref ond ysgafn a lle ynddi i hanner cant o rwyfwyr. Argo y galwyd y llong, a chasglodd Iason iddi rai o'i hen gyfeillion o'r ogof ar fynydd Pelion a rhai o ddewrion enwocaf Groeg. Yn eu mysg yr oedd Hercwlff nerthol ac eofn, Peleus, tad Achiles y cawsom ei hanes gan Homer, ac Orffeus, y telynor swynol.
Wedi aberthu i'r dduwies Hera, troesant flaen y llong i gyfeiriad y dwyrain, ac yn sŵn telyn a chaneuon Orffeus y llithrodd drwy'r tonnau.
Fel Odyseus a'i gyfeillion, wynebodd dewrion yr Argo lawer o beryglon enbyd ar eu taith. Denwyd hwy i ynys yn llawn o ferched prydferth, ac oni bai i Hercwlff eu herio'n gas, yno yr arhosent. Brwydrasant yn erbyn cewri â chwech o freichiau ganddynt, ac wedyn bu bron iddynt â chael eu gwasgu i farwolaeth gan ddwy ynys o rew a oedd yn cau'n sydyn am y llong. Collasant eu harwr cryfaf, Hercwlff, ar y daith, a buont am ddyddiau lawer yn nannedd ystormydd geirwon. Lladdwyd un o'r cwmni gan faedd gwyllt, a bu farw llywiwr medrus yr Argo. Mewn ofn y moriasant heibio i wlad yr Amasoniaid, cenedl o ferched anferth a dreuliai bob dydd yn trin cleddyf a phicell. Daeth hefyd lu o adar mawr milain, a chanddynt blu o bres fel saethau miniog, i ymosod arnynt a'u clwyfo.
O'r diwedd daethant i Golchis, gwlad y Cnu Aur, a chymerodd y brenin, Actes, arno fod yn falch iawn o'u gweld. Wedi iddynt fwyta, adroddodd Iason hanes y fordaith, a gwyliai llygaid mawr Medea, merch y brenin, ef â syndod ac edmygedd. Ni welsai hi erioed ŵr mor hardd a lluniaidd â hwn.
"Deuthum yma, O Frenin," meddai Iason, "i ddwyn y Cnu Aur yn ôl i Roeg, ac yna rhydd Pelias deyrnas fy nhad imi."
Edrychodd Aetes yn gas arno.
"Ni bu eich holl helyntion ond chwarae plant wrth y rhai sy'n eich aros," meddai. "Oni chlywaist ti, Iason, am beryglon antur y Cnu Aur?"
"Clywais fod sarff wenwynig yn ei wylio ddydd a nos," atebodd Iason.
"Gwrando. Cyn y gelli fynd yn agos at y ddraig, bydd dau darw gwyllt ar dy lwybr. Y mae i'r ddau garnau a chyrn o bres, a chwythant dân deifiol o'u ffroenau. Llosgir yn golsyn pwy bynnag a fentra'n agos atynt. Dy waith di fydd eu dofi a'u rhwymo wrth aradr, ac yna aredig pedair acer o dir. Ym mhob cwys rhaid iti hau dannedd draig wenwynig, ac o'r hadau hyn cyfyd byddin o wŷr arfog. Wedi iti frwydro â hwy a'u lladd bob un y cei'r fraint o wynebu'r sarff dan bren y Cnu Aur. Y mae'n rhaid cyflawni'r holl bethau hyn rhwng codiad a machlud haul un dydd."
Gwelai Iason y wên filain a chwaraeai ar wyneb y brenin Aetes, a cherddai siom ac ofn trwy ei galon. Er hynny, ni ddangosodd ei ofn i'r brenin, ond gan hyderu y caffai gymorth y dduwies Hera, dywedodd yr wynebai'r holl beryglon drannoeth. Yna cododd ac aeth yn ôl i'w long i gysgu'r nos.
Ni chysgodd Medea y nos honno. Yn y dolydd a'r coed casglodd lysiau a gwreiddiau prin, a rhoes hwy mewn crochan mawr gan weu swynion o'u hamgylch. Gyda'r wawr aeth i gyfarfod Iason at y llong.
"Pam y mynni di farw ar antur fel hon?" gofynnodd iddo.
"Nid oes arnaf ofn marw," atebodd Iason.
"Nid dewrder a ennill iti'r Cnu Aur."
Syllodd Iason i ddwfn eu llygaid duon a gwelodd ei bod yn ei garu.
"Beth, ynteu?" gofynnodd iddi.
"Cymer yr ennaint hwn," ebe Medea, "ac ira dy holl gorff a'th arfau ag ef. Ni'th glwyfir wedyn gan arf na gwenwyn na thân."
Ufuddhaodd Iason, ac wedi gwrando ar eraill o gynghorion Medea, brysiodd i lys y brenin.
"Felly, fe ddaethost?" meddai Aetes. "Credwn y buasit ti a'th gyfeillion wedi dianc mewn ofn ymhell cyn i'r wawr dorri."
"Y mae'r haul yn dringo'r nef," meddai Iason wrtho. "Yr wyf yn barod."
Arweiniodd y brenin ef i faes ag ynddo aradr fawr haearn. Tan y ddaear yn rhywle clywid rhu'r ddau darw. Gadawyd Iason ei hun ar y cae, a chydiodd yn dynn yn ei darian gan roddi ei gleddyf a'i waywffon o'r neilltu. Yn sydyn, â'u sŵn yn ysgwyd y ddaear, rhuthrodd y teirw tuag ato, ac yr oedd y tân o'u ffroenau'n llosgi'r coed a'r gwair yn lludw. Gwthiodd Iason ei darian i'w hwynebau, a phan welodd ei gyfle, cydiodd yng nghorn un ohonynt, ac â thro sydyn hyrddiodd ef ar ei gefn. Tynnodd â'i holl nerth yng nghynffon y llall nes ei gael ar ei liniau wrth ochr y cyntaf. Yna trawodd yr iau haearn ar eu hysgwyddau a rhwymodd hwy wrth yr aradr drom. Gwrandawai gwŷr y llys a chyfeillion Iason mewn dychryn ar ruadau'r teirw, a gwelent hwy'n nogio a chicio'n wyllt. Ond ymlaen yr âi'r aradr drwy'r maes gan dorri cwys ar ôl cwys yn y tir. Erbyn canol dydd yr oedd y maes i gyd wedi ei rychu, a gyrrwyd yr anifeiliaid blinedig yn ôl i'w cell dan y ddaear.
A gwg ar ei wyneb, rhoes Aetes helm yn llawn o ddannedd dreigiau gwenwynig i Iason, a cherddodd yntau ar hyd pob rhych gan hau'r had rhyfedd ynddynt. O'r ddaear gyffrous cododd rhengau o filwyr arfog, pob un â helm ar ei ben a gwaywffon hir yn ei law. Na, nid byddin o wŷr llonydd a diymadferth mohonynt, ond tyrfa ffyrnig yn dyheu am waed. Gan ddilyn cyngor Medea, safodd Iason o'r neilltu heb na chleddyf na gwaywffon yn ei law, a chydiodd mewn carreg fawr. Taflodd hi i ganol y milwyr, a thrawodd ddau ohonynt i'r llawr. Yna neidiodd y ddau hynny ar eu traed gan ruthro ar ei gilydd, ac yn fuan yr oedd y maes i gyd yn ferw o wŷr yn ymladd. Â'i bwys ar ei waywffon, gwyliai Iason y brwydro ffyrnig, a chyn llithro o'r haul i'r môr, nid oedd un o'r rhyfelwyr yn fyw. Fel y syrthient i'r llawr, llyncai'r ddaear hwy, a thyfai glaswellt a blodau yn eu lle.
Brysiodd Iason at y brenin Aetes i hawlio'r Cnu Aur.
"Cawn siarad am hynny yfory," meddai'r brenin yn sarrug, a throes ymaith gyda'i filwyr i'r llys.
Wrth y llong eisteddodd Iason a'i gymrodyr gan ddyfalu pa gynllun a gaent i dwyllo'r ddraig. Daeth Medea atynt yn ddirgel ac ofnus.
"Y mae fy nhad yn cynnull ei wŷr," meddai, "a phen bore yfory rhuthra'i fyddin arnoch a'ch lladd. Y mae hefyd am fy lladd i, oherwydd gŵyr mai trwof fi y llwyddodd Iason heddiw. Yn awr, Iason, tyrd ar frys, a mi a'th arweiniaf at y Cnu Aur. Gwnewch chwithau'r llong yn barod i hwylio ar unwaith."
Gefn nos dilynodd Iason Fedea drwy wyll y goedwig hyd lwybrau y methai pelydrau'r lloer dreiddio atynt. Ymhen ysbaid cydiodd Medea'n dynn yn ei fraich.
"Edrych," meddai mewn islais.
Ar bren heb fod nepell i ffwrdd gwelai Iason ogoniant euraid y Cnu Aur, a'i harddwch fel harddwch y machlud ym Mai. Rhoes gam eiddgar ymlaen, ond yna syrthiodd ei lygaid ar y sarff wenwynig, a'i chorff hir, llachar, yn nyddu o amgylch y pren.
"Aros di yma," sisialodd Medea, a dechreuodd ganu'n isel gan agosáu'n araf at y sarff a'i swyno â'i llais pêr. Gan ddal i ganu, irodd Medea lygad y sarff ag olew o fêl a llysiau prin, ac ymhen encyd syrthiodd yr anghenfil i gysgu. Aeth Iason ymlaen yn llechwraidd a chamodd dros y corff gloyw. Yna cydiodd yn y Cnu Aur, a rhuthrodd y ddau ymaith drwy'r goedwig at y llong.
Crogwyd y Cnu Aur ar hwylbren yr Argo, ac ymaith â'r llong fel march yn rhusio. Canai Orffeus gân newydd ar ei delyn, a gwrandawai Iason a Medea arno gan syllu'n dyner ym myw llygaid ei gilydd.
Yr oedd taith hir ac enbyd o'u blaen, a niwl ac ystormydd a pheryglon yn eu haros. Ond stori hir arall yw honno.