Storïau o Hanes Cymru cyf I/Daniel Owen

Oddi ar Wicidestun
Ceiriog Storïau o Hanes Cymru cyf I

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Gofyniadau

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Daniel Owen
ar Wicipedia





DANIEL OWEN

26.
Daniel Owen.
Nofelydd i Gymru.

1. Magodd Cymru ar hyd yr oesau lu o ddynion mawr mewn llawer cylch.

2. Bu llawer ohonynt yn ymladd dros ryddid, y naill â'r cleddyf a'r llall â'r pin ysgrifennu. Treuliodd llawer eu holl fywyd i geisio codi eu cyd-genedl.

3. Bu yma lawer o feirdd o amser Dafydd ap Gwilym a chyn hynny hyd ein dyddiau ni.

4. Bu yma eraill yn ysgrifennu llyfrau ar lawer pwnc er mwyn dysgu a goleuo'r bobl.

5. Mewn un math o ysgrifenwyr bu Cymru'n brinnach na'r rhan fwyaf wledydd y byd. Am amser hir iawn ni chafwyd yma nofelydd.

6. Bu llawer yn ceisio ysgrifennu storïau yn ystod y ganrif ddiwethaf. Un yn unig a ddaeth yn fawr yn y cyfeiriad hwn. Daniel Owen oedd hwnnw.

7. Ganed ef yn yr Wyddgrug yn 1836. Bu ei dad farw pan nad oedd Daniel ond baban.

8. Yr oedd ganddo fam dda a diwyd. Gwnaeth hi ei gorau dros ei bachgen.

9. Cafodd fynd i'r ysgol ac i Goleg y Bala, er mwyn bod yn bregethwr. Gwael iawn oedd ei iechyd ar hyd ei oes.

10. Ar ôl bod yn y Bala am dair blynedd gorfu iddo adael y Coleg am nad oedd yn iach.

11. Gorfu iddo eto beidio â phregethu o gwbl. Yr oedd hyn yn siom mawr iddo.

12. Ar ôl hyn y dechreuodd ysgrifennu ei nofelau. Efallai na fyddai wedi eu hysgrifennu onibai iddo fethu â mynd ymlaen â'i waith fel pregethwr.

13. Ni fedrai ennill digon o arian i gael bwyd a dillad wrth ysgrifennu, felly agorodd siop dilledydd yn yr Wyddgrug.

14. Yn y dref honno y bu fyw hyd ddiwedd ei oes, ac yno y bu farw yn 1895, pan nad oedd ond 59 mlwydd oed. Yno y mae ei fedd, a chofgolofn iddo.

15. Dyma enwau ei nofelau: Y Dreflan, Rhys Lewis, Enoc Huws, a Gwen Tomos. Ysgrifennodd hefyd Straeon y Pentan.

16. O'r rhai hyn Rhys Lewis yw'r fwyaf adnabyddus. Y mae'r cymeriadau sydd yn hon mor rial â phe baent wedi byw a bod yn y byd.

17. Y mae pob Cymro darllengar yn adnabod Wil Bryan, Abel Hughes, Mari Lewis, Tomos a Barbara Bartley, Bob, a Seth, a Rhys Lewis ei hun.

18. Dim ond nofelydd gwir fawr a fedrai greu cymeriadau byw fel hyn. Ni chafwyd erioed gystal darlun o fywyd gwerin Cymru ag a geir yn Rhys Lewis.

19. Er bod llawer nofel ac ystori Gymraeg wedi eu hysgrifennu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, hyd yn hyn ni chododd Cymru nofelydd mwy na Daniel Owen.

20. Nid oes yma neb a haedda'n well nag ef y teitl o Nofelydd Cymru.

Nodiadau[golygu]