Storïau o Hanes Cymru cyf I/Ceiriog

Oddi ar Wicidestun
Cranogwen Storïau o Hanes Cymru cyf I

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Daniel Owen

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
John Ceiriog Hughes
ar Wicipedia





CEIRIOG

25.
Ceiriog.
Bardd y Werin.

1. Y mae llawer bardd da wedi codi yng Nghymru. Dyma enwau rhai ohonynt.

2. Dafydd ap Gwilym, Goronwy Owen, Eben Fardd, Dewi Wyn, Alun, Hiraethog, Islwyn, Mynyddog, Ceiriog, Eifion Wyn.

3. Nid oes neb o'r rhai hyn yn fyw heddiw. Ond bydd Cymry'n darllen eu gwaith tra byddo'r iaith Gymraeg yn bod.

4. Y mae beirdd da yng Nghymru o hyd. Efallai fod rhai ohonynt yn feirdd mwy na neb a fu yng Nghymru o'u blaen.

5. Y mae mwy o ddarllen wedi bod ar waith Ceiriog nag a fu ar waith un bardd arall yng Nghymru hyd yn hyn.

6. Paham hynny? Y mae Ceiriog wedi canu'n syml nes bod pawb yn deall ei waith. Y mae teimlad calon Cymro ym mhob un o'i gerddi.

7. Ganed ef yn 1832. John Hughes oedd ei enw. Cymerodd ei enw barddol oddi wrth yr afon a rêd drwy ei hen ardal—Glyn Ceiriog.

8. Pan oedd yn ieuanc iawn aeth i Fanceinion yn glerc yng ngorsaf y ffordd haearn. Yr oedd hiraeth mawr arno yno.

9. Lle llawn o sŵn oedd yr orsaf ym Manceinion. Yr oedd Ceiriog yn meddwl o hyd am ardal dawel ei febyd, lle'r oedd y grug a'r eithin yn eu blodau, a dim i'w glywed ond si'r nant a chân yr adar.

10. Dyma'r pryd y canodd ei gân fach dlos i "Nant y Mynydd." Dyma hi:

11. Nant y mynydd, groyw, loyw,
Yn ymdroelli tua'r pant,
Rhwng y brwyn yn sisial ganu,—
O na bawn i fel y nant!

12.Grug y mynydd yn eu blodau,—
Edrych arnynt hiraeth ddug
Am gael aros ar y bryniau
Yn yr awel efo'r grug.

13.Adar mân y mynydd uchel
Godant yn yr awel iach,
O'r naill drum i'r llall yn hedeg—
O na bawn fel deryn bach!


14.Mab y mynydd ydwyf finnau,
Oddi cartref yn gwneud cân,
Ond mae nghalon yn y mynydd,
Efo'r grug a'r adar mân.


15. "Alun Mabon" yw enw un o'i brif weithiau. Dyma un pennill o'r gerdd honno:

16.Aros mae'r mynyddoedd mawr,
Rhuo trostynt mae y gwynt,
Clywir eto gyda'r wawr
Gân bugeiliaid megis cynt.
Eto tyfa'r llygad dydd
O gylch traed y graig a'r bryn,
Ond bugeiliaid newydd sydd
Ar yr hen fynyddoedd hyn.

Ar arferion Cymru gynt
Newid ddaeth o rod i rod,
Mae cenhedlaeth wedi mynd
A chenhedlaeth wedi dod.

Wedi oes dymhestlog hir
Alun Mabon mwy nid yw,
Ond mae'r heniaith yn y tir
A'r alawon hen yn fyw.

17. Dyma ddarn o gân fach arall:

Mae'n Gymro byth pwy bynnag yw,
A gâr ei wlad ddinam:
Ac ni fu hwnnw'n Gymro 'rioed,
A wado fro ei fam.

Aed un i'r gad a'r llall i'r môr,
A'r llall i dorri mawn;
A chario Cymru ar ei gefn
A wna y Cymro iawn.

'Does neb yn caru Cymru'n llai,
Er iddo grwydro'n ffôl;
Mae calon Cymro fel y trai
Yn siwr o ddod yn ôl.



Nodiadau[golygu]