Storïau o Hanes Cymru cyf I/Cranogwen

Oddi ar Wicidestun
Syr Owen M. Edwards Storïau o Hanes Cymru cyf I

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Ceiriog

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Sarah Jane Rees (Cranogwen)
ar Wicipedia





CRANOGWEN

24.
Cranogwen.
Agor drws i Ferched Cymru.

1. Y mae llawer pentref bach tlws ar lan y môr yn Sir Aberteifi. Y mae un ohonynt wedi dyfod yn enwog am fod un o brif ferched Cymru wedi ei geni a'i magu yno.

2. Llangrannog yw'r lle hwn. Yno y ganed Sarah Jane Rees yn 1839. Yno y claddwyd hi yn 1916.

3. Fe'i galwodd ei hun Cranogwen" ar ôl y pentref bach. Daeth Cymru gyfan yn fuan iawn i wybod am yr enw hwnnw.

4. Yr oedd yn hoff iawn o ddysgu. Pan fu farw hen ysgolfeistr y pentref cafodd hi'r swydd yn ei le.

5. Y mae'r rhan fwyaf o fechgyn glan y môr am fod yn forwyr. Bu'r ysgolfeistres ieuanc yn dysgu'r grefft honno i do ar ôl to o fechgyn.

6. Peth rhyfedd yw meddwl am ferch ieuanc yn dysgu gwaith bechgyn i fechgyn !

7. Gwnaeth Cranogwen yn ystod ei hoes lawer o bethau nad oedd neb ond bechgyn wedi eu gwneud o'r blaen.

8. Yr oedd yn fardd da. Pan nad oedd ond pump ar hugain oed, enillodd wobr am gân yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth.

9. Yr oedd rhai o feirdd mwyaf Cymru yn cynnig am y wobr honno. Nid oeddynt yn fodlon iawn i ferch eu curo.

10. Bu Cranogwen yn darlithio ac yn pregethu hefyd. Yr amser hwnnw nid oedd llawer o ferched yn gwneud gwaith felly.

11. Nid oedd pawb yn fodlon i Granogwen ei wneud ar y dechrau. Daethant i weld y gallai hi ei wneud cystal ag un dyn.

12. Bu'n olygydd hefyd. Hi oedd y ferch gyntaf yng Nghymru i wneud gwaith o'r math hwn.

13. "Y Frythones" oedd y llyfr yr oedd hi'n olygydd arno. Deuai allan bob mis.

14. Merched oedd fynychaf yn ysgrifennu iddo. Merched oedd yn ei ddarllen. Dysgu merched Cymru oedd ei waith. Lledu bywyd merched oedd ei amcan.

15. Yn amser Cranogwen nid oedd neb yn meddwl llawer am roi addysg i ferched. Bernid bod dysgu cadw tŷ'n ddigon iddynt hwy.

16. Barnai Cranogwen y dylai merched gael yr un cyfle â bechgyn i ddysgu'r hyn a fynnent.

17. Gwnaeth hi ei gorau gyda'r "Frythones," fel y gwnaeth Ieuan Gwynedd gyda'r "Gymraes," i'w dysgu i feddwl, ac i wneud bywyd yn fwy diddorol iddynt.

18. Heblaw hyn, galwodd Cranogwen ar ferched De Cymru i ymuno â'i gilydd yn un cwmni mawr i ddysgu pobl i fyw'n sobr.

19. Enwodd y cwmni'n "Undeb Dirwestol Merched y De." Gwneir gwaith mawr gan hwn o hyd.

20. Fel hyn dysgodd hyn dysgodd Cranogwen ferched i feddwl drostynt eu hunain, i bwyso arnynt eu hunain, ac i gydweithio â'i gilydd.

21. Dysgodd hefyd y gall merched ddewis eu cwrs mewn bywyd yr un fath â bechgyn. Dangosodd hyn yn ei bywyd ei hun.

22. Yr oedd syniadau fel hyn yn newydd a rhyfedd yn ei hamser hi. Erbyn heddiw y mae pawb yn addef eu bod yn iawn.

23. Fel Buddug a Gwenllian, yr oedd Cranogwen yn arweinydd da. Fel hwynt-hwy, bu hithau'n ddewr iawn, ond nid ar faes y gad.

24. Carodd Gymru a gwnaeth wasanaeth da i'w hoes.

Nodiadau[golygu]