Storïau o Hanes Cymru cyf I/Syr Owen M. Edwards

Oddi ar Wicidestun
Henry Richard Storïau o Hanes Cymru cyf I

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Cranogwen

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Owen Morgan Edwards
ar Wicipedia





SYR O. M. EDWARDS

23.
Syr Owen M. Edwards.
Llyfrau i Bawb.

1. Yn ystod y ganrif ddiwethaf, pan â'i plant Cymru i'r ysgol am y tro cyntaf, nid oeddynt yn deall yr athro'n siarad.

2. Er mai Cymraeg oedd iaith y plant i gyd, Saesneg oedd iaith yr ysgol. Ni châi neb o'r plant ddarllen, nac ysgrifennu, nac adrodd, na hyd yn oed siarad Cymraeg.

3. Yr oedd y bobl a ofalai am addysg Cymru'n meddwl mai gwell a fyddai cael dim ond un iaith drwy Brydain i gyd. Yr oeddynt am i bawb siarad Saesneg.

4. Wedi eu dysgu fel hyn yn blant, aeth llawer o'r Cymry eu hunain i feddwl yr un fath â hwy. Credent eu bod yn fwy parchus pan fyddent yn methu â siarad Cymraeg.

5. Aethant i feddwl mai iaith pobl dlawd yn unig oedd y Gymraeg.

6. Ni wyddent ei bod yn iaith brenhinoedd a dynion mawr ymhell cyn i'r Saeson ddyfod dros y môr i'r wlad hon.

7. Nid oedd neb wedi eu dysgu am Garadog, ac Arthur, a Dewi Sant, a Hywel Dda, a Llywelyn, a Glyn Dŵr, a dewrion eraill Cymru.

8. Fel hyn aeth nifer y bobl oedd yn siarad Cymraeg yn llai bob dydd. Yr oedd llawer yn gwneud eu gorau i anghofio'r hen iaith.

9. Y mae ceisio anghofio'n hiaith ein hunain yn beth mor ffôl â cheisio anghofio'n mam neu'n tad.

10. Cyn iddi fynd yn rhy ddiweddar, cododd llawer o ddynion da i ddysgu'r bobl am werth eu hiaith. Un o'r rhai a wnaeth fwyaf â'r gwaith hwn oedd Syr Owen M. Edwards.

11. Daeth allan â llu o lyfrau Cymraeg da, yn ddigon rhad fel y gallai pawb eu prynu.

12. Fel hyn daeth pobl i wybod am y pethau rhagorol a ysgrifennwyd gan Gymry yn eu hiaith eu hunain. Nid oedd yr ysgolion wedi dysgu neb am y rhai hyn.

13. Daeth â "Cymru'r Plant" a'r "Cymru" allan bob mis. Ei amcan oedd dysgu ei gyd-genedl—y plant a'r bobl mewn oed—i fod yn falch eu bod yn Gymry, ac i fod yn falch o'u hiaith.

14. Erbyn hyn, dim ond pobl anwybodus iawn sydd am wadu eu gwlad a'u hiaith. Y mae gwaith Syr Owen M. Edwards, ac eraill a fu'n gweithio gydag ef, yn dwyn ffrwyth.

15. Ysgrifennodd Syr Owen lawer o lyfrau i blant ac i bobl mewn oed. Heblaw hynny, anogodd eraill i ysgrifennu.

16. Gwaith plant a phobl ieuainc oedd llawer o ysgrifau "Cymru'r Plant" a'r "Cymru." Fel hyn magodd do o lenorion a beirdd. Amcan ei fywyd oedd "codi'r hen wlad yn ei hôl."

17. Ganed ef yn Llanuwchllyn yn 1859. Bu farw yn 1920.

Nodiadau[golygu]