Storïau o Hanes Cymru cyf I/Henry Richard
← Hugh Owen | Storïau o Hanes Cymru cyf I gan Elizabeth Mary Jones (Moelona) |
Syr Owen M. Edwards → |
HENRY RICHARD
22.
Henry Richard.
Apostol Heddwch.
1. Rhwng y bryniau yng ngogledd Sir Aberteifi y mae hen dref fach dawel, dlos. Tregaron yw ei henw.
2. Y mae Tregaron erbyn hyn yn enwog. Oddi yno aeth un dyn mawr allan i'r byd i wneud ei waith.
3. Mewn man amlwg yn y dref y mae heddiw gof-golofn iddo. Y dyn mawr hwnnw oedd Henry Richard.
4. Ganed ef yn 1812. Yr oedd felly'n byw'r un amser â Ieuan Gwynedd, Hiraethog a Hugh Owen. Yn 1888 y bu farw.
5. Mab i weinidog oedd. Daeth yntau'n weinidog ei hun ar eglwys yn Llundain. Wedi hynny bu'n Aelod Seneddol.
6. Ar hyd ei oes gweithiodd yn galed dros Gymru. Gyda Ieuan Gwynedd, gwnaeth ei orau i ddwyn yn ôl enw da Cymru ar ôl helynt 1847.
7. Gwnaeth ei ran hefyd i godi Cymru mewn addysg. Bu ef a dynion da eraill yn arwain ei wlad ar amser pwysig yn ei hanes.
8. Ond gwnaeth Henry Richard rywbeth na wnaethai'r un Cymro arall o'i flaen. Hwnnw oedd gwaith mawr ei fywyd ef. Am y gwaith hwnnw y cofia'r byd amdano.
9. Henry Richard ac un dyn arall,—Elihu Burrit o America—oedd y rhai cyntaf i geisio cael cenhedloedd y byd i setlo'u cwerylon heb ryfel.
10. Sut y gallai dau ddyn felly ddwyn i ben waith mor fawr? Y mae dechrau i bopeth.
11. Galwodd y ddau ar nifer o bobl o bob gwlad i ddyfod at ei gilydd i siarad am y peth. Daeth dau cant o bobl ynghyd. Ym Mrussels, yn 1848, y bu hyn.
12. Hon oedd y "Gynhadledd Heddwch gyntaf. Ar ôl hynny bu Henry Richard yn teithio trwy Ewrop yn ceisio dysgu pobl mai peth drwg a ffôl yw rhyfel.
13. Y mae plant pob gwlad wedi eu dysgu mai yn 1815 y bu brwydr Waterloo. Peth mwy pwysig oedd Cynhadledd Heddwch Brussels yn 1848.
14. Bu llawer Cynhadledd Heddwch wedi'r un gyntaf honno. Gwnaed llawer o waith. Bu llawer llai o ryfel yn y byd.
15. Bu Henry Richard yn gweithio gyda'r peth hwn tra bu fyw. Bu'r Cymro o Dregaron yn nhrefi mwyaf Ewrop, yn siarad â mawrion pob gwlad, er mwyn eu cael i sefyll yn erbyn rhyfel.
16. "Apostol Heddwch" y gelwid ef. Aeth dylanwad da'r Cymro hwn dros y byd.
17. Nid yw rhyfel wedi peidio â bod eto, ond y mae gwaith Henry Richard yn dwyn ffrwyth.
18. Yn 1928, bu Cynhadledd Heddwch arall ym Mharis. Yno addawodd pymtheg o wledydd mwyaf y byd beidio â mynd i ryfel. Y mae sŵn eraill yn dyfod i'w dilyn.
19. Un waith bob blwyddyn er 1922 y mae neges yn mynd oddi wrth blant Cymru at blant pob gwlad arall yn gofyn iddynt helpu gyrru rhyfel o'r byd.
20. Y mae'r pethau hyn yn sicr o ddwyn ffrwyth yn y man. Pan ddaw pobl ieuainc y gwledydd i adnabod ei gilydd yn well, bydd yn fwy anodd eu cael i ryfela â'i gilydd.
21. Y mae gwaith mawr wedi ei wneud oddi ar y Gynhadledd gyntaf honno yn 1848, ac y mae'n mynd yn ei flaen o hyd.
22. Da yw cofio mai Cymro oedd un o'r ddau a'i cychwynnodd.
23. Bydd yn beth da iawn i Gymru ac i'r byd pan ddaw delfryd Henry Richard i ben.