Storïau o Hanes Cymru cyf I/Ficer Pritchard
← Yr Esgob Morgan | Storïau o Hanes Cymru cyf I gan Elizabeth Mary Jones (Moelona) |
Griffith Jones → |
TŶ'R FICER, LLANYMDDYFRI
13.
Ficer Pritchard.
Goleuo Cymru.
1. Y mae mwy nag un dyn mawr wedi ei eni a'i fagu yn ardal Llanymddyfri. Un o'r ardal honno oedd y Ficer Pritchard.
2. Ganed ef yn 1579. Pan oedd yn ddeunaw oed aeth i Rydychen. Ar ôl hynny bu am beth amser yn offeiriad yn Lloegr.
3. Cyn hir cafodd ddyfod yn ôl i Gymru. Daeth yn Ficer Llandingad, ei hen blwyf. Yn y plwyf hwn y mae Llanymddyfri.
4. Yr oedd y Ficer yn drist iawn pan welodd sut yr oedd pobl ei hen ardal yn byw.
5. Yr oeddynt yn anwybodus iawn. Ni wyddent yn aml pa beth oedd yn dda na pha beth oedd yn ddrwg.
6. Nid oedd neb wedi eu dysgu pa fodd i fyw. Gwelodd y Ficer mai hyn oedd ei waith ef.
7. Credai mai trwy bregethu iddynt y gallai wneud hyn. Nid oedd gwell pregethwr nag ef yn y wlad. Deuai pobl o bell ac agos i wrando arno.
8. Ond gwelai'r Ficer nad oedd un o bob cant ohonynt yn deall ei eiriau nac yn medru darllen y Beibl.
9. Er bod y Cymry wedi cael y Beibl yn eu hiaith eu hunain, yr oedd, ar yr amser cyntaf hwnnw, yn rhy ddrud i bob teulu ei brynu.
10. Dim ond yn yr Eglwys ar y Sul y caent glywed ei ddarllen. Nid rhyfedd eu bod yn anwybodus iawn ac yn isel eu moes.
11. Ceisiodd y Ficer feddwl am ryw ffordd i'w gwella. Gwelodd mor hoff o ganu oeddynt. Clywai hwynt yn canu hen ganeuon gwael bob dydd.
12. Gwnaeth nifer fawr o benillion ar yr un mesur â'r caneuon hyn, yn dangos y ffordd i fyw'n iawn, ac yn rhai hawdd i'w cofio a'u canu.
13. Dysgid y penillion hyn yn yr eglwys. Aeth y bobl yn hoff iawn ohonynt. Canent hwy wrth eu gwaith, ac aethant trwy'r wlad i gyd.
14. Gwnaed y penillion yn llyfr. Ei deitl yw "Cannwyll y Cymry." Daeth y llyfr â golau i Gymru mewn amser tywyll iawn, a daeth newid mawr ar fywyd trwy Gymru gyfan.
15. Gwnaeth y Ficer lawer o bethau da eraill yn ei fywyd. Rhoddodd lawer o arian i helpu'r tlawd ac i sefydlu ysgol yn ei dref ei hun.
16. Ond ei waith mwyaf oedd "Cannwyll y Cymry." Gwnaeth y llyfr hwnnw fwy o les i Gymru na'r un llyfr arall ond y Beibl.
17. Dyma ddau bennill ohono:
Deffro, cyfod, di ddiogyn,
Dos a dysg gan y morgrugyn.
Mae e'n casglu y cynhaeaf
Fwyd a lluniaeth erbyn gaeaf.
18.Amser casglu ydyw'r hydref,
Pob rhyw ffrwythau tuag adref.
'R hwn ni heuo'i had mewn amser,
Ni bydd casgliad hwn ond prinder.