Storïau o Hanes Cymru cyf I/Griffith Jones

Oddi ar Wicidestun
Ficer Pritchard Storïau o Hanes Cymru cyf I

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Charles o'r Bala

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Griffith Jones, Llanddowror
ar Wicipedia





GRIFFITH JONES YN DYSGU PLANT I DDARLLEN

14.
Griffith Jones.
Ysgolion i Gymru.

1. Sut y daeth yr ysgol bob dydd gyntaf i Gymru? Nid oedd plant Cymru gynt yn gwybod dim am ysgol.

2. Hyd yn oed yn amser John Penry, yr Esgob Morgan, a'r Ficer Pritchard, ac yn hir ar ôl hynny, nid oedd yma un math o ysgol ar gyfer plant y werin.

3. Yr oedd yma ambell ysgol i rai mewn oed, os byddai ganddynt ddigon o arian i dalu am fynd iddi.

4. Yr oedd y bobl gyffredin yn anwybodus iawn. Yr oedd hyn yn pwyso'n drwm ar feddwl rhai dynion da oedd yn byw'r amser hwnnw.

5. Un o'r rhai hyn oedd y Parch. Griffith Jones, Llanddowror, Sir Gaerfyrddin. Ganed ef yn 1684.

6. Wedi cael addysg aeth yn offeiriad i Landdowror. Ei awydd mawr oedd dysgu'r bobl.

7. Yr oedd tlodi mawr yn y wlad, ac nid oedd y bobl eu hunain bobl eu hunain yn meddwl llawer am addysg. Yr oedd yn rhaid gwneud rhywbeth i'w denu i ddysgu.

8. Prynodd Griffith Jones dorthau o fara, a'u rhannu i'r bobl dlawd wrth ddrws yr eglwys.

9. Daeth llawer i gael y torthau, a gofynnodd yntau iddynt a gâi ef eu dysgu i ddarllen.

10. Yr oedd yn dda gan y bobl gydsynio, er mwyn boddio un oedd mor garedig tuag atynt.

11. Dysgodd hwy cystal fel y daethant yn fuan iawn i fedru darllen y Beibl.

12. "Yn awr," ebe Griffith Jones, "rhaid i chwi sydd wedi dysgu ychydig ein helpu ni i ddysgu eraill."

13. Gwnaethant hynny gyda phleser. Aeth un i'r fferm hon ac un arall i'r fferm arall yn athro.

14. Pan fyddai pobl un ardal wedi dysgu tipyn, âi'r athrawon ymlaen i ardal arall.

15. Fel hyn dysgodd miloedd o bobl, hen ac ieuainc, ddarllen ac ysgrifennu.

16. Ar yr un pryd, gan mai'r Beibl oedd eu llyfr darllen, daethant i wybod ei wersi ac i fyw'n well.

17. Yr oedd pobl yn falch iawn pan ddeuai athro i'w hardal hwy. Ysgol i'r plant a geid yn y dydd, ac yn yr hwyr deuai'r bobl mewn oed ar ôl gorffen eu gwaith.

18. Yn 1760, yr oedd 215 o ysgolion Griffith Jones yng Nghymru, a miloedd o ysgolheigion, o'r chwe blwydd oed i'r deg a thrigain.

19. Yr oedd Griffith Jones yn bregethwr heb ei ail yn ei ddydd. Gallasai fod wedi ennill safle dda iddo'i hun yn yr eglwys.

20. Gwell na hynny, yn ei olwg ef, oedd gweithio'n galed er mwyn dysgu ei gyd-genedl. Hyn oedd diben ei fywyd.

21. Cafodd roddion o lyfrau ac arian i'w helpu. Gwelwyd gwerth ei waith pan oedd yn fyw. Cofir amdano fel un o gymwynaswyr ei wlad.

Nodiadau[golygu]