Storïau o Hanes Cymru cyf I/Hywel Dda

Oddi ar Wicidestun
Y Brenin Arthur Storïau o Hanes Cymru cyf I

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Gwenllian

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Hywel Dda
ar Wicipedia





6.
Hywel Dda.
Gwell Cyfraith.

1. Yn amser Alfred Fawr, brenin y Saeson, yr oedd brenin da iawn gan y Cymry. Ei enw oedd Hywel.

2. Am ei fod mor dda ac mor hoff gan ei bobl, daeth pawb i'w alw yn Hywel Dda.

3. Am beth amser dim ond ar un rhan o'r wlad yr oedd yn frenin. Yr oedd mwy nag un brenin yng Nghymru ac yn Lloegr yr amser hwnnw.

4. Cyn diwedd ei oes daeth Hywel yn frenin ar Gymru i gyd.

5. Nid oedd yn hoff o ymladd. Gwell ganddo ef oedd cadw ei wlad

HYWEL DDA

mewn trefn, a gweld ei bobl yn dysgu pethau newydd o hyd.

6. Yr oedd Hywel yn ddigon call i weld bod yn rhaid iddo ddysgu llawer ei hun os oedd i arwain ei bobl yn iawn.

7. Nid oedd nac ysgol na choleg yn y wlad hon. Nid oedd llyfrau chwaith.

8. Yr unig ffordd i ddysgu oedd mynd ar hyd y byd a gweld sut oedd pobl eraill yn byw.

9. Felly aeth Hywel am dro i Rufain dinas fwyaf y byd yr adeg honno. Yr oedd yn daith bell iawn dros fôr a thir.

10. Dysgodd Hywel lawer ar y daith honno. Bu'n well brenin nag erioed wedi dyfod yn ôl.

11. Gwaith mawr ei fywyd oedd dysgu'r gyfraith i'r bobl.

12. Yr oedd rhai pobl yn gwneud drwg heb wybod ei fod yn ddrwg. Ni wyddent pa beth oedd yn iawn, na pha beth nad oedd yn iawn.

13. "Rhaid i bob Cymro gael cyfle i wybod y gyfraith," ebe Hywel. 14. Felly galwodd brif ddynion pob rhan o'r wlad i'w blas yn Hen-Dŷ- Gwyn-ar-Dâf.

15. Whitland y gelwir y dref hon heddiw, ond gwell fyddai cadw yr enw Cymraeg hardd.

16. Yno gwnaed rhestr o ddeddfau Cymru, a'u hysgrifennu mewn llyfr, a'u darllen i'r bobl.

17. Bu deddfau Hywel Dda yn ddeddfau i Gymru am amser hir.

Daeth pobl llawer gwlad ac oes i wybod amdanynt.

18. Er eu hysgrifennu yn yr amser pell hwnnw, darllenir hwy heddiw a gwelir eu gwerth.

19. Heblaw eu bod yn ddeddfau da ceir ynddynt lawer o hanes Cymru gynt. Dangosant sut oedd y bobl yn meddwl ac yn byw.

20. Ymladd, lladd, a llosgi a wnâi brenhinoedd eraill yn amser Hywel. Carai ef heddwch, a bywyd da i'w bobl.

21. Yn y flwyddyn 928 yr aeth i Rufain. Yn y flwyddyn 1928 bu plant pob ysgol yng Nghymru yn cofio amdano, ar ôl mil o flynyddoedd.

22. Nid oes neb yn siwr pa bryd y bu farw.

Nodiadau[golygu]