Storïau o Hanes Cymru cyf I/Y Brenin Arthur
← Dewi Sant | Storïau o Hanes Cymru cyf I gan Elizabeth Mary Jones (Moelona) |
Hywel Dda → |
YMADAWIAD ARTHUR
5.
Y Brenin Arthur.
Ofer son bod Bedd i Arthur.
1. Yn hanes yr Hen Gymry y mae mwy o sôn am y Brenin Arthur nag am un brenin arall. Yn erbyn y Saeson y bu ef yn ymladd.
2. Yr oedd mor ddewr ac mor hoff gan ei bobl nes i rai fynd i gredu nad dyn oedd, ond duw.
3. O gylch bord gron y byddai Arthur a'i wŷr bob amser yn eistedd i fwyta. Nid oedd neb felly'n uwch ei safle na'r llall.
4. "Gwŷr y Ford Gron" y gelwid hwy. Yr oedd y brenin yn hoff o bob un ohonynt, a hwythau bob un yn hoff o'r brenin.
5. Yr oedd Modred, nai Arthur, am fod yn frenin yn lle ei ewythr. Ym Maes Camlan y bu'r frwydr olaf rhwng y ddau.
6. Y mae llu o storïau tlws am Arthur. Dyma un amdano pan oedd yn mynd o'r byd hwn.
7. Pan welodd Bedwyr, un o Wŷr y Ford Gron, fod y brenin ar farw, aeth ag ef o'r maes i lecyn glas yn ymyl nant.
8. "Bedwyr," ebr Arthur, "dos â'm cleddyf, a thafl ef â holl nerth dy fraich i'r llyn sydd acw. Yna tyred yn ôl ar frys a dywed i mi pa beth a weli."
9. Ni bu cleddyf mor hardd â chleddyt Arthur gan neb erioed. Yr oedd ei garn o aur pur a gemau.
10. Ni fynnai Bedwyr ei fwrw i'r llyn. Yn lle hynny, taflodd ef i'r brwyn ac aeth yn ôl at Arthur.
11. "Beth a welaist?" ebr Arthur. "Dim ond y don ar y dŵr, ebe Bedwyr.
12. "Nid wyt yn dywedyd y gwir," ebr Arthur. "Onid fy ffrind wyt ti? Dos eto, a thafl y cleddyf i'r llyn."
13. Aeth Bedwyr eto, a'i galon yn drist, ond ni fynnai golli cleddyf mor hardd am byth.
14. Yr oedd am ei gadw er cof am Arthur. Aeth yn ôl eto a'r cleddyf o hyd yn y brwyn.
15."A deflaist ti'r cleddyf?" ebr Arthur.
"Do, Arglwydd."
"Beth a welaist?"
"Dim ond y don ar y dŵr."
16. Aeth y brenin yn ddig iawn. Bedwyr!" ebr ef, "gwae di oni wnei yn ôl fy ngair y tro hwn. Dos ar frys, neu byddaf farw."
17. Cododd Bedwyr y cleddyf, a'i daflu â holl nerth ei fraich i'r llyn.
18. Ar hynny daeth llaw wen i fyny o'r dŵr a dal y cleddyf, a'i droi dair gwaith o gylch. Yna aeth y llaw a'r cleddyf o'r golwg yn y llyn.
19. Aeth Bedwyr yn ôl ar frys i roi'r hanes i Arthur. Caria fi at lan y llyn," ebr Arthur.
20. Daeth cwch dros y llyn tuag atynt. Yr oedd tair brenhines ynddo mewn dillad gwynion.
21. Codasant y brenin yn dyner, heb ddywedyd gair na gwneud dim sŵn, a mynd ag ef i'r cwch.
22. Yna aethant yn ôl dros y llyn, a gadael Bedwyr yn unig ar y lan.
23. Bu'r Cymry am amser hir yn credu mai mynd i ryw ynys i wella'i glwyf a wnaethai Arthur. Ni fynnent gredu ei fod wedi marw.
24. Dywed stori arall mai mewn ogof y mae Arthur a'i Wŷr,—pob un a'i wisg o ddur amdano, a phob un yn cysgu, am ei bod yn nos ar Gymru.
25. Pan dyr y wawr, a Chymru wedi deffro, daw Arthur eto i arwain y genedl i fuddugoliaeth.
26. Dyna pam y dywedir weithiau, "Deffro! Mae'n Ddydd!"