Straeon y Pentan/Het Jac Jones

Oddi ar Wicidestun
Enoc Evans, y Bala Straeon y Pentan

gan Daniel Owen

Edward Cwm Tydi

Het Jac Jones

Mi glywaist lawer gwaith fod gan y meddwl gryn lawer i'w wneud âg iechyd neu afiechyd y corff, a mae hyny yn ddigon gwir Dyma hanes i ti sy'n cyn wired a'r pader.

Wedi i mi dyfu i fyny'n llanc, yr oeddwn wedi glân laru ar weithio ar y ffarm, — yr oedd yn fywyd rhy lonydd i mi. Yr oeddwn wedi clywed fod cyflog da i lanciau yn ffactri gotwm yr Wyddgrug, a ffwrdd a fi yno i edrych am waith. Cyflogais yn union fel rhyw fath o was i'r spinners, ac yr oeddwn yn bur ddedwydd fy lle. Yr oedd yno lanc arall tua'r un oed a mi yn yr un swydd, — bachgen wedi colli un llygad, ond yn gweled gyda'i un fwy nag a welai bechgyn yn gyffredin gyda'u dau lygad. William James oedd ei enw, a bachgen direidus dros ben ydoedd, a daeth ef a minau yn ffrindiau mawr yn fuan. Byddai William a minau yn gyfranog mewn rhyw driciau ar y spinners yn feunyddiol Ond yr oedd yn ddealledig rhwng Wil a minau ein bod i gymeryd y bai bob yn ail. Os y fi a gyhuddid o wneud y cast, cymerai Wil James y bai, ac felly y gwnawn inau pan gyhuddid yntau. Felly byddem yn arbed un cerydd, a rhai garw am geryddu oedd y spinners. Giaffer y spinning-room oedd Thomas Burgess, un o'r dynion bryntaf a mwyaf amhoblogaidd gyda'r gweithwyr a welais erioed. Ond yr oedd Burgess yn hynod o hoff o gellwair a gwneud mân driciau gyda'r dynion oedd dan ei ofal, ac felly nid oedd Wil James a minau yn isel iawn yn ei ffafr.

Yr oeddwn wedi darllen yn rhywle fod yn bosibl perswadio dyn iach i fod yn sal, a dyn sal i fod yn iach, os na fyddai ei salwch yn un tost iawn. Un awr ginio soniais am hyn wrth Thomas Burgess, ac ebe fe, —

"Mae'n reit hawdd treio y peth bydae ti a Wil James yn rhoi eich penau yn nghyd sut i experimentio ar un o'r chaps yma. Os na fedr Wil ddyfeisio rhywbeth yn y ffordd yna, lle sal i ti a finnau dreio, achos cwtrin o fachgen ydi Wil." Syniai Wil yn gyffelyb am Burgess, mai cwtrin oedd yntau.

"Wyst di be," ebe Wil wrthyf un diwrnod, "mi leiciwn farw yr un funud a'r hen Burgess yma."

"Pam hyny?" ebe fi. " Am fod ganddo gymin i'w aped am dano," ebe Wil, "a thra y bydden nhw yn trin ei gês o mi fedrwn snecio i'r nefoedd heb i neb sylwi."

Pa fodd bynag, soniais wrth Wil am awgrymiad Thomas Burgess, a chyn nos yr oedd cynllun Wil yn barod. Yr oedd un o'r spinners, Jac Jones wrth ei enw, bob amser yn gwisgo top hat, ac yn ei gosod ar hoel tuallan i'r spinning-room. Cynllun Wil oedd rhwymo llinyn du main o gwmpas gwaelod yr het, wrth y cantel, a'i thynu i mewn chwarter modfedd, a mae chwarter modfedd, ti wyddost, yn ddau size mewn het, ac wed'yn perswadio Jac Jones fod ei ben wedi chwyddo. Yr oedd y cynllun wrth fodd yr hen Burgess. Bore dranoeth, cyn gynted ag yr aeth Jac Jones at ei waith, rhwymodd Wil y llinyn am yr het yn reit nêt, ac, yn ol y cynllun, eisinau i'r spinning-room, a dywedais wrth Jac, –

"John Jones, ydach chi ddim yn iach heddyw?"

Ydw, machgen i, pam roeddat ti'n gofyn?"

"O dim," ebe ti, "ond y mod i'n meddwl fod gynoch chi dipyn o chwydd yn eich arleisiau."

"Nag oes, neno dyn, yr ydw i'n cael iechyd campus, diolch am dano," ebe Jac.

Oddeutu saith o'r gloch aeth Wil ato, a dywedodd, —

"John Jones, dydach chi ddim yn edrach run fath ag arfer bore heddyw; oes gynoch chi boen yn y'ch pen?"

"Nag oes, neno diar; ond oedd Ned yn gofyn yr un peth gyne; be naeth i ti feddwl?"

"Wn i ddim," ebe Wil, "ond y mae rhywbeth yn edrach yn od yn ych pen chi, fel bydae chi wedi cael dyrnod un ochr. Gadewch i mi weld yr ochr arall. Na, mae'r ddwy ochr run fath; y fi ddaru ffansio, ddyliwn," a ffwrdd a Wil at ei waith.

Rhyw bum munud cyn amser brecwest, aeth yr hen Burgess ato, a dywedodd, —

"Dyma ti, Jac, fuost di mewn rhyw sgarmes

neithiwr? Rwyt wedi bod yn slotian efo'r hen ddiod eto, achos y mae dy ben di fel meipen gron; neu wyt ti wedi cael clefyd y penau sydd o gwmpas rwan?"

"Phrofes i ddyferyn ers wythnos, a mae mhen i gystal a phen yr un o honoch chi," ebe Jac, yn gwta.

"Gobeithio dy fod yn dweyd y gwir," ebe Burgess, ac ymaith ag ef.

Pan oedd Jac yn myn'd i'w frecwest, ac yn ceisio rhoi ei het am ei ben, ni fedrai yn ei fyw. Edrychodd ai nid oedd wedi cymeryd het rhyw un arall, ond cofiodd nad oedd neb yn gwisgo top hat ond efe, ac yr oedd ei enw, yr hwn yr oedd wedi ei ysgrifenu â'i law ei hun tu mewn iddi. Cafodd fenthyg cap i fyn'd i'w frecwest, a chariai yr het yn ei law. Ni ddaeth Jac Jones at ei waith ar ol brecwest. Ganol dydd galwodd Burgess i edrych am dano, a chafodd ef yn ei wely, yn dioddef gan boenau mawr yn ei ben. Dywedodd Burgess wrth Jac mai y clefyd yn ddiau ydoedd, ond fod meddyginiaeth wedi ei ddarganfod i'w wella ar unwaith, ac y deuai a'r cyffyr iddo y prydnawn hwnw, wedi i'r felin stopio. Aeth Burgess a minau i edrych am Jac y noson hono, a chymerasom dipyn o sweet oil mewn potel gyda ni. Tra yr oedd Burgess a gwraig Jac yn y llofft, yn cymhwyso y sweet oil at ei ben, yr oeddwn inau yn y gegin yn tynu y llinyn oddiar yr het; ac er mwyn dangos mor effeithiol oedd y feddyginiaeth, anfonodd Burgess y wraig i nol yr het a gallodd Jac ei rhoi am ei ben yn hwylus. Yn wir, gan gymaint o'r sweet oil oedd ar ei ben, llithrai yr het braidd yn rhy esmwyth, a da oedd fod gan Jac glustiau go fawr i'w hatal rhag iddi fyn'd dros ei wyneb. Ond rhyfedd, ni ddarfyddodd y poenau yn union deg, er i'r chwydd gilio ar unwaith, a bu Jac Jones ar y clwb am wythnos cyn ail ddechreu gweithio. Ni chafodd wybod am y cast am dair wythnos, ac ni faddeuodd byth i ni.

Dyma stori arall i ti, ddigon tebyg, ebe fy Ewyrth Edward, ond caf adrodd hono eto hwyrach.