Neidio i'r cynnwys

Straeon y Pentan/Enoc Evans, y Bala

Oddi ar Wicidestun
Y Daleb Straeon y Pentan

gan Daniel Owen

Het Jac Jones

Enoc Evans, y Bala

OES, y mae genyf gof gweddol am Enoc Evans, y Bala, ebai F'ewyrth Edward. Ddaru Enoc a finau ddim ei hitio hi yn dda iawn, — yr oedd ef wedi dod i'r byd dipyn yn rhy fuan, a minau dipyn yn rhy hwyr, ac felly ni ffurfiwyd fawr o gwentans rhyngom. Ond mi glywais lawer o son am Enoc fel un oedd yn ddarllenwr diail, ac yn hoff iawn o adar. Nid oedd neb yn ei bwyll yn dyfod yn hwyr i'r oedfa pan fyddai Enoc i bregethu, oblegid ei glywed yn darllen y bennod oedd y trêt. Nid oedd, fel y clywais ddynion o farn yn dweyd, yn rhyw helynt o bregethwr. Yn y dyddiau hyn, Castle Street, yn yr Wyddgrug, ydyw yr ystryd iselaf a butraf yn y dref. Nid wyf yn meddwl fod ac na fu i un tŷ ddrws cefn gydag un eithriad, ac y mae y nifer mwyaf o'r tai erbyn hyn wedi eu datgan yn anghymwys i neb drigo ynddynt. Ond у mae i'r hen ystryd hanes cysegredig iawn. Pe gallasai Castle Street adrodd ei hanes ei hun, fe fuasai ganddi lawer iawn i'w ddweyd, a hwnw o ddyddordeb neillduol. Yn y tŷ cyntaf ar y llaw dde y trigai yr hen Angel Jones, y blaenor enwog y canodd Glan Alun farwnad gampus iddo. Yn y caban hwn y magodd Angel deulu mawr, ac y gwnaeth fusnes anferth fel teiliwr. Nid oes i'r tŷ ond dwy 'ystafell wely, ac un fechan fach arall ar ben y grisiau, ac eto, mor ryfedd ydyw meddwl, hwn oedd prif gartref rhai o brif enwogion y pwlpud Cymreig am lawer o flynyddoedd yn eu hymweliadau â'r dref. Yn y tŷ bychan distadl hwn y cysgodd Eben. a Thomas Richards, William Havard, Roberts, Amlwch, John Elias, y ddau Jones o Lanllyfni, Henry Rees, a llu eraill, pan ddeuent i'r Wyddgrug i bregethu, ac yn eu plith Enoc Evans, y Bala.

Yn nhop Castle Street trigai cymeriad rhyfedd — yr wyt yn ei gofio yn dda — o'r enw William Jones, teiliwr fyth. Wrth yr enw Cwil yr adnabyddid ef yn gyffredin. Dyn byr, gorsyth ydoedd, bob amser yn gwisgo dress coat a top hat. Nid oedd Cwil na Chymro na Sais, ond yr oedd ganddo grap ar y ddwy iaith. Egwan iawn oedd ei alluoedd meddyliol, a bu am dri mis ar ol tyfu i fyny yn ceisio dysgu y pader, ac yn y diwedd bu raid iddo roi yr ymdrech heibio fel bad job. Dau beth a hoffai Cwil yn fwy na dim arall, sef cwrw ac adar. Byddai yn cael term hir weithiau, a chlywais ef yn dweyd ei fod wedi colli tri diwrnod o'i oes na wyddai ddim am danynt. Yr oedd Cwil wedi cael wythnos o spri, a chysgodd o nos Sadwrn hyd fore Mercher heb ddeffro. Yr oedd Cwil bob nos Sadwrn o'r flwyddyn ar ol cael ei gyflog, ac ymolchi a shafio, yn myn'd at ei ddiod i'r Talbot, ac yn yfed mor drwm fel na wyddai ddim wrth adael y dafarn ond mae "troi ar y dde" oedd y ffordd gartref. Ond un Sadwrn perswadiwyd ef gan gyfaill i fynd i'r "Eagle and Child," yr ochr arall i'r heol. Wrth gychwyn gartref y noson hono cofiodd Cwil am y rheol ddieithriad o "droi ar y dde," a chafodd ei hun fore Sul wrth Bentre Hobin, ar ffordd Wrexham, yn gorwedd yn môn y clawdd, ac yn methu drinad pa fodd a fu iddo fethu yn ei land-marks. Ond fel y dwedais, yr oedd Cwil yn hoff iawn o adar — yn fwy felly na chwrw. Un tro pan oedd Enoc Evans yn pregethu yn yr Wyddgrug, digwyddodd yr ben Angel son wrtho am adar Cwil Jones. Aeth Enoc yno ar ei union, a bu Cwil ac yntau yn siarad am adar hyd haner y nos, a buasent wedi parhau hyd y bore oni buasai i Angel fyn'd i nol ei lodger.

Ar ol hyn gofynai Cwil yn feunyddiol i Angel, — "Hengel, pryd mae y bird merchant yn dwad yma i pygethu eto?" A phan ddeuai Enoc Evans ar draws gwlad i'r Wyddgrug, y peth cyntaf a wnai, cyn cael tamaid o fwyd, oedd ymweled a Cwil, ac ymgomio am yr adar, a llawer tro buasai Enoc wedi anghofio ei ymborth a'r oedfa a'r cwbl yn nghwmni Cwil, oni bai fod Angel yn ymyl. Un tro yr oedd Enoc Evans wedi cymeryd ffansi anghyffredin at canary oedd yn meddiant Cwil, — yr oedd yn dotio ato fel cantwr, ac eisteddodd yr hen begor i wrando arno am oriau. Y waith gyntaf y daeth Enoc i'r Wyddgrug wed'yn—ar ol rhoi ei geffyl i fynu yn y "Black Boy," aeth yn syth i edrych am Cwil Jones, ac wedi llygadu o gwmpas y tŷ, ebai fe, – "Lle mae'r canary campus hwnw wedi myn'd, William Jones? "

"Mae'r cath wedi lladd o, Mistar Hifans," ebe Cwil.

"Eich cath chi oedd y syrffet, William? " gofynai Enoc.

"Dim peryg," ebe Cwil, "mi lladdwn pob cath yn y byd dawn i'n medryd."

"Mi nawn ninau'ch helpio chi, William," ebe'r hen bregethwr.

"Mae'n da gen i'ch clywed chi'n deyd, Mistar Hifans," ebe Cwil, ac ychwanegodd gydag ochenaid, "Do, mi ddaru cath John Bowen i ladd o, a faswn i dim yn cymyd y mhwyse o aur am y deryn hwnw, Mistar Hifans. A mi deuda i chi be neis i a fo, syr, — y cath gwyddoch, - mi dalies o ar dydd Sadwrn pan odd o'n dwad i'r tŷ i edrych am deryn arall, a mi rhos o mewn bocs a clo arno, a bore Sul mi lodies fy pibell a mi cymes stôl i'r gardd, a mi noles y cath a mi croges o yn y pren fale, a mi steddes ar y stôl i cymyd mygyn i edrach arno fo'n marw, a mi ces fy revenge."

"A syrfio'r slwt yn reit," ebe Enoc yn selog, ac ychwanegodd, — "Mi welaf, William, fod gynoch chi adar bach yma?"

"Hoes, Mistar Hifans," ebe Cwil, "ond gwelsoch chi rioed ffasiwn trafferth ces i i cael nhw. Mi treies un giar efo celiog ene am wsnose, a nae'r dau dim byd a'u gilydd; ond mi rois giar arall efo'r celiog, a mi ces adar bach toc, a ma hyny yn digon o profedigeth ma nid ar y celiog rodd y bai."

"Diar anwyl galon!" ebe Enoc.

"Enoc Evans, mae hi'n amser myn'd i'r capel," ebe Angel yn y drws; a thorwyd ar seiat y ddau hen gono.

Nid cynt yr oedd yr oedfa drosodd nag y brasgamodd Enoc o flaen Angel i'r Castle Street. Pan ddaeth Angel i'r tŷ cafodd fod Nancy wedi gwneud y super yn barod, ond nid oedd dim son am Enoc Evans. Dyfalodd Angel yn mha le yr oedd yr hen bregethwr, ac ymaith ag ef i dŷ Cwil Jones, a chafodd y ddau drachefn mewn dîp disgwrs am yr adar.

"William Jones," meddai Enoc, "beth ydi'r achos nad ydach chi ddim yn cadw dim ond y canaries a'r nicos yma? Ydach chi ddim yn hoff o adar eraill?"

"Hydw, Mistar Hifans," ebe Cwil, "yr hydw i'n hoff o pob sort o hadar. Ond mi gwelwch bod y tŷ dipyn yn bwchan, a mae deryn pranweth a deryn du isio cage mawr, a mae nhw tipyn yn budron. Ond faswn i dim yn hidio am hyny dase gen i lle iddyn nhw, Mistar Hifans. A mi deuda i chi peth arall, ma Hangel yn gwbod cystal a mine, roddwn i'n ffond sobor o lark, a rodd gen i un unweth na weles i rioed i sort o. Fi daru fagu o, a rodd o'n cantwr na chlywes i rioed i bath o. A rodd o mor dof fel roddwn i yn i cymyd o weithie i'r siop weithio, ma Hangel yn gwbod. Wel un tro mi cymes o i'r siop weithio, a rodd yno dyn, i enw fo odd George Roberts, rodd o'n canu yn reglws — y cantwr bâs gore clywsoch chi rioed, — ond dodd gynfo dim parch i deryn da. Wel, mi cymeres y deryn i'r siop ydw i'n deud wrthoch chi, Mistar Hifans, a rol i mi fynd ar y bwrdd, mi dalies y lark ar cledyr fy llaw — rodd o mor dof – a mi deudes, dene ti, George, deryn na welest di rioed i sort o. A be daru George neud, heb i mi meddwl, mi cymodd labwt a mi tarodd fi tan fy penelin, a mi ês i llysmer. Pan dois i ata fy hun mi ofynes, lle ma lark fi, George? a mi gweles fy lark wedi marw ar y bwrdd, ar ol hyny mi cymes syrffet at cadw lark."

"Wel, y dyn annuwiol a dideimlad," ebe Enoc. "Beth ddaru chi—?"

"Enoc Evans, mae'n bryd i chi ddod i'r tŷ ers meityn," ebe Angel.

Mi fum yn aros am dipyn yn y Bala, ebe F'ewyrth Edward, ac yn ystod yr amser hwnw mi adwaenes ddau fab i Enoc Evans. Saer maen oedd un, a Dafydd oedd ei enw, os wyf yn cofio yn dda. Y pryd hwnw yr oedd yn adeg isel ar grefydd, a'r gwaith yn slac. Er mwyn cael ychwaneg o waith gadawodd Dafydd grefydd ac aeth i'r Eglwys. Ond yn y man ymwelodd diwygiad crefyddol â thref y Bala, ac yr oedd yn amser hyfryd ar y cyfeillion yn yr hen gapel. Un noson seiat, pan oedd y diwygiad yn ei wres, daeth Dafydd yn ol i'w hen gartref, ac aeth Doctor Lewis Edwards i ymddyddan ag ef. Yr oedd yr ymgom mor agos ag y gallaf gofio fel hyn —

"Wel, Dafydd Evans, beth wnaeth i chwi droi yn ol?" gofynai y Doctor.

"Ffilio bod yn gyfforddus adeg y diwygiad yma yn yr hen Eglwys ene," ebe Dafydd.

"Y mae yna bobl dda iawn yn yr Eglwys," ebe y Doctor.

"Oes," ebe Dafydd, "rhai da iawn am edrach ar ol y corffyn, yn eich curo chi yma yn arw am hyny. Yr oeddwn i'n cael mwy o waith o lawer yn yr Eglwys na phan oeddwn i'n arfer dod yma. Ond rhai go sâl ydyn nhw am edrach ar ol yr ened."

" Wel," ebe'r Doctor, "yr oeddwn yn clywed fod pobl yr Eglwys hefyd yn edrych ar ol yr enaid. Yn y diwygiad yma yr oedd genych yn yr Eglwys gyfarfodydd gweddio fel ninau yn y capel, ond oedd?"

"Oedd, Mr. Edwards," ebe Dafydd, ond wyddoch chi'r gair ddoth i'm meddwl i wrth eu gweled nhw wrthi?"

"Na wn i'n siwr," ebe'r Doctor.

"A'r swynwyr a wnaethant yr un pethau," ebe Dafydd, a chwarddodd y Doctor nes oedd ei ochrau yn mynafyd.