Straeon y Pentan/Y Daleb

Oddi ar Wicidestun
Y Ddau Fonner Straeon y Pentan

gan Daniel Owen

Enoc Evans, y Bala

Y Daleb

DYMA un o'r ystorïau yr ymhyfrydai fy Ewyrth Edward ei hadrodd, am ei bod yn wir bob gair, fel y dywedai:—

Mi wyddost fod yr achos Methodistaidd yn y dref yn hen achos — un o'r rhai hynaf yn y Sir. Nid oedd pobl er's talwm yn cyfranu haner cymaint a chrefyddwyr y dyddiau hyn, ac nid oedd cymaint o anghen. Er bod gweinidog a dau bregethwr yn perthyn i'r achos yn y dref, ac mewn rhan yn gwneud gwaith bugail, ni byddai neb yn meddwl rhoi dimai iddynt am eu llafur. Caent ychydig am bregethu a dyna'r cwbl. Ond er cyn lleied a gyfrenid, yr oedd y cyfeillion wedi talu am y capel er's rhai blynyddoedd, ac yr oedd ganddynt arian yn llaw y trysorydd. Go ddisut y byddai yr hen bobl yn trin y materion arianol—yr oedd y cwbl yn cael ei adael i ddau o'r blaenoriaid, a phawb yn ymddiried ynddynt fel dynion gonest, ac ni byddai neb o honynt yn gofyn am gael gweled eu cyf rifon, a phe gwnaethai rhywun hyny buasent yn ei ystyried yn insult. Yn wir, ni wyddai eu cyd-flaenoriaid eu cyfrinach — yn unig derbynient eu hadroddiad ddiwedd blwyddyn yn eithaf tawel. Yn y dyddiau hyny byddai llawer yn dyfod o bell o ffordd i gapel y dref, yn enwedig o Wernhefin, ac yn eu plith ddau frawd — dau ffermwr cyfrifol. Yn mhen amser gwnaeth y ddau frawd apêl am gael dechreu achos yn Ngwernhefin, am fod cerdded deirgwaith i'r dref ddwy filldir o ffordd yn feichus. Caniatawyd y cais gan bobl y dref, ac yn fuan codwyd capel bychan yno i gadw Ysgol Sul y bore, ac i gynal oedfa y prydnawn gan y pregethwr a ddigwyddai fod yn y dref. Fel hyny y bu am rai blynyddoedd nes sefydlu canghen eglwys yno, pryd y gwnaed Edward a Thomas Williams — y ddau frawd — yn flaenoriaid yn Ngwernhefin. Yn mhen rhai blynyddoedd yr oeddynt wedi talu cost adeiladu y capel bach o fewn deugain punt, ac o herwydd y gwyddid fod gan gyfeillion y dref arian mewn llaw, gofynwyd am fenthyg deugain punt yn ddilôg, ac y telid yr arian yn ol pan fyddai galw, yr hyn a ganiatawyd. Wedi cael benthyg yr arian, aeth cyfeillion Gwernhefin yn ddifater am dalu eu dyled. Perthynai i eglwys y dref wr o'r enw John Evans, gŵr blaenllaw iawn gyda'r achos, a'i brif hynodrwydd oedd meithder ei weddïau. Byddai ein gliniau wedi cyffio bob tro y gelwid ar John Evans i weddïo. Er i ddewis blaenoriaid gymeryd lle amryw weithiau yn y dref yn ystod arosiad John Evans yno, gadawyd ef bob tro heb ei ddewis. Ond gwnai John Evans y diffyg i fyny drwy weddïo gyhyd a thri bob tro y cai gyfleusdra. Yn mhen yr hwyr a'r rhawg daeth angen am arian ar bobl y dref, a galwyd ar gyfeillion Gwernhefin i dalu y deugain punt yn ol. Wedi cael llawer cyngherdd, darlith a thê parti, casglwyd yr arian. Aeth blynyddoedd heibio, ac erbyn hyn yr oedd financiers eglwys dref wedi meirw, a John Evans wedi symud i Wernhefin, ac wedi ei ddewis yn flaenor yno. Fel y gwelsent yn y dref, felly y gwnaethant yn Ngwernhefin — cadwai y ddau frawd bob cyfrinach arianol iddynt eu hunain, ond yr oeddynt yn ddynion o gymeriad tryloew, ac o dduwioldeb diamheuol. Oddeutu blwyddyn wedi dewisiad John Evans yn flaenor, bu farw un o'r ddau frawd, sef Edward, a syrthiodd yr holl gyfrinach i fynwes Thomas yn unig. Yn fuan, am ryw reswm neu gilydd, ystyfnigodd John Evans, a gwrthodai gymeryd unrhyw ran gyhoeddus yn y capel. Deuai i'r moddion yn gyson i edrych dan ei guwch. Un nos Sul, yn y seiat, ar ol ei gymhell yn daer i ddyweyd gair ac iddo yntau wrthod, ebe Thomas Williams —

"John Evans, beth sydd arnoch chi? Yr ydach chi er's tro yn gwrthod gwneyd dim ' pwy sydd wedi'ch tramgwyddo? gadewch i ni glywed."

Cododd John Evans ar ei draed, ac ebe fe –

"Thomas Williams, newch chi ateb y cwestiwn yma—ddaru chi dalu y deugain punt hyny ddaru eglwys Gwernhefin fenthyca gan eglwys у dref?" ac eisteddodd i lawr, ac yr oedd pawb wedi eu syfrdanu, a neb yn fwy na Thomas Williams ei hun.

"Eu talu? " ebe Thomas Williams, "do debyg, ac y mae'r receipt genyf yn tŷ. Yr wyf yn ofalus iawn i gadw pob receipt"

"Purion," ebe John Evans, "dowch â hi yma, os medrwch chi."

Credai pob enaid yn y cyfarfod, oddigerth John Evans, y gallai Thomas Williams dd'od â'r receipt yn mlaen, ac wedi myned allan o'r cyfarfod ymosododd amryw o'r brodyr ar John Evans am ei haerllugrwydd. Ond yr unig beth a ddywedai ef oedd — "Aroswch dipyn bach i edrach a feder o gael y receipt" Yr oedd i Thomas Williams deulu mawr a pharchus, ac aeth pob un o honynt ati dranoeth i chwilio am y receipt.

Yr oedd yn y tŷ ganoedd lawer — rhai o honynt yn haner cant oed, ond methwyd yn glir a dyfod o hyd i'r receipt angenrheidiol, ac yr oedd trueni Thomas Williams a'r teulu yn fawr arnynt. Trowyd pob peth i fyny yn tŷ, а chwiliwyd yn fanwl bob cilfach a chornel, ond i ddim pwrpas. Methai yr hen wr gysgu na bwyta, ac erbyn y seiat ganlynol yr oedd ei gnawd wedi curio.

Ar ol y gwasanaeth dechreuol yn y seiat cododd John Evans ar ei draed, ac ebe fe:—

"Thomas Williams, ddaethoch chi â'r receipt am y deugain punt gyda chi heno?"

"Naddo," ebe'r hen flaenor. "Yr wyf fi a'r plant wedi chwilio ein goreu amdani, ond hyd yn hyn wedi methu d'od o hyd iddi. Ond yr wyf yn sicr fy mod wedi talu'r arian, ac yr wyf yn meddwl fod yr eglwys yma yn credu fy ngair. Mi âf i'r dref y fory at ferch Owen Jones, ac y mae yn ddiamau fod yna ddangosiad yn hen lyfrau ei thad fy mod wedi talu yr arian. Mae Owen Jones a fy mrawd yn eu beddau, onidê gallasent hwy dystio i wirionedd yr hyn yr wyf yn ei ddyweyd."

"Yr wyf wedi bod yn y dref o'ch blaen," ebe John Evans, "ac nid oes yn mhapurau Owen Jones ddim dangosiad eich bod wedi talu, ac nid oes neb yn eglwys y dref yn cofio i chi dalu dimai o'r arian."

"Duw yw fy marnwr," ebe Thomas Williams "mi delais yr arian yn onest, ac yr wyf yn teimlo'n sicr y gallaf eto ddangos fy mod yn dyweyd y gwir."

Gwnaeth Thomas Williams ymofyniadau manwl ymhlith cyfeillion y dref, ac ymhlith eraill, ond nid oedd neb yn cofio iddo dalu yr arian. Erbyn hyn yr oedd y peth wedi myn'd yn siarad y wlad, ac amryw o aelodau Gwernhefin wedi myn'd i gredu fel John Evans. Ond daliai y mwyafrif yn dŷn yn y grediniaeth fod Thomas Williams yn ddyn gonest, canys yr oedd yn ŵr mewn amgylchiadau da ac arian heb fod yn brofedigaeth iddo. Thomas Williams a'r teulu oedd wedi bod yn brif gefn i'r achos am haner oes, ac nid oedd un tŷ wedi bod yn agored i dderbyn pregethwyr yn yr ardal ond Trosygareg, sef eu tŷ hwy. Aeth pethau o ddrwg i waeth, a gellir yn hawddach ddychmygu teimladau Thomas Williams a'r teulu na'u darlunio. Dygwyd yr achos i'r Cyfarfod Misol, a phenodwyd dau weinidog a blaenor i fyn'd i Wernhefin "ar achos neillduol," a chredid gan lawer y torid Thomas Williams nid yn unig o fod yn flaenor ond o fod yn aelod hefyd.

Noswaith y prawf a ddaeth, ac fel y dygwydda ar achlysuron cyffelyb nid oedd ewin yn ol yn y seiat hono. Edrychai Thomas Williams yn guchiog a phenderfynol, ac edrychai ei fechgyn yn benuchel, a dywedai rhywrai mai gweddusach fuasai iddynt aros gartref neu ynte gadw eu penau i lawr. Wedi i'r gweinidog ieuengaf ddarllen a gweddïo, gan gyfeirio ar y weddi fwy nag unwaith at yr achlysur anghyfforddus, ac wedi i'r plant adrodd eu hadnodau a chael eu hanfon adref, gosododd y gweinidog hynaf yr achos y daethent yno o'i blegid yn glir a phwysig o flaen yr eglwys, ac nid heb arddangos llawer o ofid calon, canys yr oedd efe a'r cyhuddedig wedi bod yn gyfeillion mawr. Yna yn bur dyner gofynodd i'r hen flaenor beth oedd ganddo i'w ddyweyd drosto ei hun? Cododd Thomas Williams ar ei draed yn nghanol distawrwydd fel y bedd, a dywedodd, mor agos ag y gallaf gofio fel hyn:—

"Benthyciwyd y deugain punt bymtheng mlynedd ar hugain yn ol, a mi telais inau nhw bum 'mlynedd ar hugain i ddydd Mercher diweddaf. Er pan ddaeth John Evans â'r cyhuddiad yn fy erbyn, gellwch yn hawdd ddych'mygu fy nheimladau. Nid wyf ar hyd yr amser wedi cysgu na bwyta ond ychydig. Yr wyf fi a'r plant o'r diwrnod hwnw hyd heddyw wedi chwilio am y receipt yn mhob cornel o'r tŷ, ond yn hollol ofer; ac yr oedd meddwl am eich dyfodiad yma heno, a'r achlysur o hono, fel pe buasai rhywun yn rhoi cyllell yn fy nghalon. Am y canfed tro fe ddarfu i'r plant a minau chwilio'r tŷ o'r top i'r gwaelod am y receipt heddyw, ond i ddim pwrpas. Pan oeddym yn ceisio cymeryd cwpaned o dê, mi a ddywedais wrthynt:— 'Wel blant, fe gaiff eich tad ei ddiarddel heno, ond y mae fy nghydwybod yn lân o'r bai a roir yn fy erbyn,'" ac yn y fan hon torodd yr hen flaenor i lawr, a bu raid i ni aros mynyd iddo adfeddianu ei hun pryd yr ychwanegodd:— "Ar ol tê mi glöis fy hun yn y parlwr i aros amser y seiat, ac os gweddïais erioed mi weddïais heno. Yr oeddwn yn teimlo fod Duw yn delio yn o galed efo hen was. Rhaid i mi gyfadde fy ngwendid fy mod wedi edliw tipyn iddo. Mi ddeudes wrtho y mod i wedi treio ei wasanaethu er yn hogyn, fy mod wedi cyfranu at ei achos yn ol fel yr oedd o wedi fy llwyddo yn y byd, y mod i wedi agor fy nhŷ i groesawu ei weision ar hyd y blynyddau, a mi ofynais iddo a oedd o'n myn'd i'm mwrw ymaith yn amser henaint a phenllwydni, a wn i ddim ddaru mi beidio awgrymu wrtho nad oedd hyny ddim yn honourable. P'run bynag mi deimlais yn well wedi deyd fel yna wrtho; a mi adawais y cwbl iddo, ond cystal a deyd wrtho hefyd y byddai i mi ei watchio sut y gwnai o â fi. Yr oedd eto dipyn o amser tan adeg y seiat, a mi feddyliais y treiwn i ddarllen tipyn i aros yr amser. Mi estynais oddiar y shilff hen gyfrol o'r DRYSORFA, a mae Duw yn gwybod fy mod yn deyd y gwir, yn y lle yr agorodd y llyfr yr oedd y receipt! Mi waeddais dros bob man — receipt! receipt! receipt! a dyna'r plant at y drws gan feddwl fy mod wedi dyrysu yn fy synwyrau, a fuasai hyny ddim yn rhyfedd, a doeddwn i ddim yn cofio y mod i wedi cloi y drws, ac yr oeddwn yn dal waeddi receipt! Wedi i mi dawelu ac agor y drws mi aethon ar ein gliniau. — Dyma'r receipt Mr. E—, ac yr ydach chi yn eitha cyfarwydd â llaw Owen Jones," ac eisteddodd Thomas Williams i lawr, a rhaid i mi ddyweyd nad oedd prin wyneb sych yn y lle.

"W—w—wel, Mr. Williams," ebe Mr. E— "mae llawer o bethau da wedi bod yn y DRYSORFA, er mai fi, y Golygydd, sydd yn dyweyd hyny, ond dyna'r peth goreu gawsoch chi ynddi erioed."

Fedra i ddim darlunio i ti, ebe fy Ewyrth Edward, ein teimladau y noson hono. Yr oedd pawb yn wylo o lawenydd oddigerth John Evans. Edrychai ef fel pe buasai wedi ei saethu. Ond credai rhai fod John Evans yn eithaf gonest yn ei dybiaeth er iddo gamgymeryd. Ni fu fyw fawr wedi hyn, ac ymddangosai fel dyn wedi tori ei galon.