Straeon y Pentan/Y Ddau Fonner

Oddi ar Wicidestun
Nid wrth ei Big y mae Prynu Cyffylog Straeon y Pentan

gan Daniel Owen

Y Daleb

Y Ddau Fonner

DAU hen begor rhyfedd oedd William a Richard Bonner, ebai Fewyrth Edward. Mae genyf gof gweddol am y ddau, ond nid digon da i roi desgrifiad o honynt. Brodorion oedd y ddau o Wernymynydd, ger y Wyddgrug. Yr oedd William yn bregethwr, a Richard yn weinidog, nid anenwog, gyda'r Wesleyaid. Cydnabyddid Richard Bonner yn ddyn witi neillduol, ac nid oedd William ei frawd yn ddiffygiol o'r ddawn hono. Haner can' mlynedd yn ol, yr oedd yn ffaith adnabyddus mai William Bonner a'r "Hen Wadan" oedd y ddau ddyn cryfaf yn y plwy os nad yn y sir. Cariodd yr "Hen Wadan" ddeg troedfedd (cubic) o dderw solet ar ei ysgwydd, a chariodd William Bonner haner tunell o blwm Maeshafn (a gŵyr pawb fod plwm Maeshafn yn drymach na phlymiau eraill), mewn sach ar ei gefn, a barnwyd y ddau Samson yn Eisteddfod Genedlaethol Gwernymynydd, yn gyfartal, a rhanwyd у wobr. Yr oedd William Bonner, fel ei frawd Richard, yn bregethwr hynod o dderbyniol gyda'r brodyr y Wesleyaid, ac yn wir gyda phawb eraill. Mi wyddost o'r goreu mai ychydig iawn a dderbyniai pregethwyr cynorthwyol y pryd hwnw am eu gwasanaeth, ac y mae arnaf ofn na dderbyniant gymaint ag a haeddant yn ein dyddiau ni. Ond tybiai rhywrai yr adeg hono fel y mae llawer yn meddwl yn awr, fod pregethu yn talu yn gampus, a fod pobl y cadach gwŷn yn gwneud eu ffortun.

"Faint wyt ti'n gael am y pregethu 'ma Wil?" ebe Shon, Pant Glas, wrth William Bonner un tro, ac ebe William, —

"Wel, yr ydw i'n disgwyl y goron, wyddost, Shon."

"Diar anwyl!" ebe Shon, "coron y bore, coron y prydnawn, a choron y nos, dene bymtheg swllt? Pwy na fyddai'n bregethwr!"

Ni ddarfu i William fyn'd i'r drafferth i egluro i Shon mae y goron ysbrydol a olygai. Yr oedd William Bonner yn un o'r rhai cyntaf i gymeryd yr ardystiad dirwestol tua'r flwyddyn 1834 neu '35, a mawr oedd ei sel fel ei frawd Richard. Un tro yr oedd i draddodi darlith ar ddirwest yn Ngwernymynydd, a Thomas Owen, Tŷ'r Capel, y Wyddgrug, i fod yn gadeirydd iddo. Dyn od ryfeddol oedd y Thomas Owen yma, a mi fydd gen i stori i'w dweyd i ti am dano ryw noswaith pan gofia i. Pregethwr methadus oedd o, a mab i Richard Owen, y Bala. Ond yr oedd Thomas Owen er ei fod yn bregethwr ac yn ddyn duwiol iawn, fel pobl yn gyffredin y dyddiau hyny, braidd yn hoff o'i haner peint, cyn i'r symudiad dirwestol gymeryd lle, ac er fod Thomos yn mhlith y rhai cyntaf i ardystio, credai rhywrai ei fod yn cymeryd dropyn ar y slei. Clywsai William Bonner y sibrwd am ei gyfaill, ac wrth ddechreu ei ddarlith ar ddirwest, wedi i'r cadeirydd, sef Thomas Owen, gyflwyno y darlithydd i'r cyfarfod, ebe fe, —

"Gyfeillion, mae rhywrai yn taenu y stori yn y gymdogaeth yma fod ein cadeirydd parchus, Thomos Owen, a'i wraig Marged, yn yfed cwrw o bîg y tebot, ond celwydd mae'n nhw'n ddeyd yn chwilgorn-gafel-eu-gwddw, ynte, Thomos?" "Ie, neno dyn," ebe Thomos, "yfais i rioed ddyferyn o gwrw o big y tebot, na Marged chwaith," ac ni chwanegwyd y slander ar Thomos a'i wraig.

Ond am Richard Bonner yr oeddwn yn meddwl son wrthot ti heno, 'blaw mod i yn ramblo. Clywais ef yn pregethu fwy nag unwaith, ond yr oeddwn yn rhy ieuanc i dderbyn unrhyw argraff, ond yn unig ei fod yn ddyn ysmala. Clywais hefyd yn ddilynol ddegau o ystraeon digrif yn ei gylch, ond ar hyn o bryd nid oes ond dwy yn aros yn fy nghof. Y mae i'r Wesleyaid gapel a elwir Tafarn y Celyn, neu fel y seinir ef ar dafod gwlad Tafarn gelyn, mangre ar y ffordd o'r Wyddgrug i Lanarmon. Ar un adeg yr oedd hen wreigan ffyddlon a duwiol iawn o'r enw Begws yn aelod dichllynaidd yn nghapel Tafarn-gelyn. Tlawd oedd ei hamgylchiadau, a derbyniai yr hen wreigan ychydig elusen plwy. Ar hyd y blynyddau cadwai Begws fochyn, a phan ddeuai yn hyn a hyn o faint gwerthai ef i dalu rhent ei bwthyn. Ond un tro darfu i ryw ysgerbwd o ddyn ladrata mochyn Begws, yr hyn a fu yn brofedigaeth fawr iddi. Teimlai yr eglwys yn Tafarn-gelyn yn dost dros yr hen wreigan yn ngwyneb ei cholled, a phenderfynasant, yn gristionogol ddigon, wneud casgliad iddi yn yr oedfa nos Sabboth. Richard Bonner oedd i bregethu noswaith y casgliad, a gofynodd y blaenoriaid iddo ddweyd gair ar yr amgylchiad, oblegid yr oeddynt yn awyddus i ddigolledu yr hen Begws druan, ac ebe Bonner cyn i'r casglyddion fyn'd o gwmpas, —

Wel, gyfeillion, yr ydan ni i gyd yn nabod Begws — does ganddi ddim yn spâr ag iddi gael llonydd gan chiwladron, a mi wn y rhoiff pob un gymaint ag a fedr o yn y casgliad hwn ond y dyn a ddygodd fochyn y greadures dlawd. Mi ellwch fod yn siwr na roiff y dyn a ddygodd y mochyn ddim dimai ar y plât!"

Cyfranodd pob enaid rhag iddo gael ei dybied yn euog o ladrata mochyn Begws, ą, chafodd yr hen wraig fwy nag a gollasai.

Yr oedd Richard Bonner yn wr cryf a chadarn, a mi wyddost pan fo gweinidog Wesleyaidd wedi teithio am nifer penodol o flynyddau yn y weinidogaeth fod ganddo hawl i osod ei hun ar restr yr uwchrif, sef yw hyny, ymryddhau oddiwrth ofalon cylchdaith. Yr oedd yr hen Fonner wedi gwasanaethu yn ffyddlon am y cyfnod angenrheidiol, ac mewn cyfarfod taleithiol fe wnaeth gais am gael ei ystyried yn uwchrif. Nid oedd y frawdoliaeth yn gweled ei ffordd yn glir i ganiatau hyn am y rheswm nad oedd ganddynt neb ar y pryd mewn golwg i gymeryd ei le, neu rywbeth arall, ac ebai llywydd y dalaeth fel rhagymadrodd i berswadio Mr. Bonner i alw ei gais yn ol, –

"Wel, Mr. Bonner bach, mi wyddom oll fod genych hawl i ofyn am gael eich gwneud yn supernumerary; ond yr ydych, hyd yn hyn, yn gryf, nid ydych yn pesychu, ac yr ydych yn pregethu yn dda —"

"Ni chafodd y llywydd fyn'd ddim pellach cyn i'r hen ŵr pert godi ar ei draed, ac ebai fe, –

"O diar, os eisieu pesychu sydd, mi fedra i besychu cystal a run o honoch chi, ond os ydach chi am aros nes i mi bregethu yn sal mi fyddaf am byth heb gael yngwneud yn supernumerary."

Nid wyf yn cofio sut y terfynodd gyda golwg ar gais Mr. Bonner, ond dyna ddigon i ti i ddangos pertrwydd y dyn a'i wit barod. Os nad oes bywgraffiad wedi ei wneud i Richard Bonner, y mae yna waith difyr a buddiol yn aros rhywun.