Straeon y Pentan/Nid wrth ei Big y mae Prynu Cyffylog
← Doli'r Hafod Lom | Straeon y Pentan gan Daniel Owen |
Y Ddau Fonner → |
Nid wrth ei Big mae Prynu Cyffylog
PAID byth a chymeryd pobl wrth eu golwg, neu yr wyt yn lled debyg o gael dy siomi weithiau. Mae yna hen air Cymraeg, – 'Nid wrth ei big y mae prynu cyffylog.' Yr wyf yn cofio pan oeddwn yn las-hogyn yn byw efo nhad a mam yn Cefnmeiriadog, fod Wil Williams, mab y ffarm nesaf atom, a minau yn gyfeillion mawr; ac o herwydd fod ein rhieni mewn gwell amgylchiadau na rhai o'r ffermwyr tlodion oedd o'n cwmpas, ein bod yn meddwl tipyn o honom ein hunain. Mi glywi rywrai yn dweyd nad ydyw yr oes yn gwella dim. Lol i gyd; mae hi wedi gwella llawer. Prin y gwelid y pryd hwnw fachgen i ffermwr yn darllen llyfr da, os na fyddai ei fryd ar fyn'd yn bregethwr. Ein prif ddifyrwch yr adeg hono, fel y mae gwaethaf adrodd, oedd chwareuon ffol, megys rhedeg, neidio, prison bars, ymladdfeydd, ac ymladd ceiliogod. Er nad oedd neb o honom yn darllen papyr newydd, yr oeddym yn dyfod i wybod rywfodd am yr ymladdfeydd yn Lloegr a Chymru, ac mewn hanes yr oeddym mor gydnabyddus â Bendigo Caunt, Tipton Shlasser, Tom Sping, Welsh Jim, a Tom Cynah, ag ydyw bechgyn yr oes hon âg enwau Owen Thomas. John Thomas, a phregethwyr mawr eraill. Un gwylmabsant yr oedd miri mawr i fod yn Ninbech, ac yr oedd Wil Williams a minau er's wythnosau yn cynilo ein ceiniogau i fyn'd yno. Yr wyf yn cofio ein bod ein dau wedi cael dillad newydd, côt a gwasgod felfet, a chlos rhesog, ac hefyd watch a chadwen steel a sêl a chragen wrthi, a'n bod yn meddwl ein hunain yn gryn foneddigion. Dychymygem fod dagrau yn rhedeg, nid yn unig o lygaid, ond hefyd o ddanedd ein cyfoedion llai ffortunus. Y pryd hwnw yr oedd coach fawr yn rhedeg drwy Lanelwy i Ddinbech, ac oddiyno i'r Wyddgrug, ac oddiyno i Gaer. Bore y gwylmabsant yr oedd Wil Williams a minau, yn ddigon gorchestol mi goeliaf, er's amser yn Llanelwy yn disgwyl am y goach fawr, ac yn edrych ar ein watches bob rhyw dri munud, er mwyn i bawb ddeall fod genym y fath declyn gwerthfawr. Pan ddaeth y cerbyd i mewn, er mwyn dangos pa mor foneddig oeddym, cymerasom ein heisteddle ar y bocs, wrth ochr y driver, er y gwyddem y byddai raid i ni dipio y gyrwr am y fraint. Yr oedd dyn ar y bocs o'n blaen, — gŵr oddeutu pymtheg ar hugain oed,-llwm a gostyngedig yr olwg. Gwisgai gột lwyd, a chanfyddem fod y gôt a'i pherchenog yn gydnabyddus â'u gilydd er's llawer blwyddyn. Yn ddigon hyfion, gofynasom i wr y gột lwyd newid ei eisteddle er mwyn i ni gael eistedd yn nes at y driver a symudodd yntau yn ufudd heb rwgnach gair. Hen fraddug cydnerth, corffol, oedd y driver a'i drwyn mor goch nes y tybiem ei fod yn taflu ei wawr ar bobpeth yr elem heibio iddynt. Gwyddem fod y gyrwr yn gryn ymladdwr, a dyna pam yr oeddym mor awyddus am gael eistedd yn nesaf ato, - er mwyn i ni gael clywed am ei orchestion ef ei hun, ac eraill yn yr un line, yn yr hyn ni chawsom ein siomi. Wrth gwrs, ei orchestion ei hun a gawsom ganddo yn gyntaf, ac yr oeddym ninau a'n geneuau yn agored wrth glywed am ei fuddugoliaethau. Yn y dyddiau hyny yr oedd cryn son am Welsh Jim yn mhlith y light weights, a Thwm Cynah ymhlith yr heavy weights, – y ddau o'r Wyddgrug, fel y gwyddost. Cymro glân oedd Twm, er mae Cynah oedd ei enw."
"Y gwir am dano," ebe y gyrwr, "y mae gormod o lawer yn cael ei wneud o Twm Cynah. Mi faswn yn leicio ei gael i sefyll o mlaen i am ryw ddau funud, er na weles i rioed mo'r dyn. Mi faswn yn dangos iddo fod yna Gymro arall yn y byd."
Synai Wil a minau at wroldeb a gallu y gyrwr. Ni ddywedai y gŵr a'r gột lwyd air o'i ben, ond tybiais weled gwên yn llithro dros ei wynebpryd pan ganmolai y gyrwr ei hun, yr hyn a'm cythruddodd nid ychydig. Wedi i ni flino son am ymladdwyr, fel hogiau drwg a disynwyr, dechreuasom wneud gwawd o bawb yr elem heibio iddynt ar hyd y ffordd, ac ni arbedwyd gŵr y gột lwyd genym. Yn wir cymerasom hyfdra mawr arno, ond dioddefai bobpeth yn dawel a digyffro, yr hyn a barodd i Wil a minau ei flino yn fwy. O'r diwedd cyrhaeddodd y goach fawr fuarth y Crown, Dinbech, lle yr oeddynt yn newid y ceffylau a'r gyrwr hefyd. Wedi i ni ddisgyn o ben y goach, safai y gyrwr yn ein hymyl, gan ddis gwyl cael ei dipio, ac er mwyn actio'r gŵr boneddig rhoddais swllt iddo, ac felly gwnaeth Wil. Yna gwelem ŵr y gôt lwyd yn ffymblo ei logellau yn hir, ac yn y man estynodd i'r gyrwr ddwy geiniog. Gwelaf wyneb y gyrwr yn glasgochi, a dechreuodd dafodi gŵr y gôt lwyd yn enbyd.
"Pa fusness oedd gan ryw garp fel chi ddod ar y bocs,' ebe fe; 'lle i foneddigion ydi'r bocs, ac oni bai y bydde'n ffiaidd gen i daro swp o esgyrn fel chi, mi rown i chi gurfa y cofiech am dani."
"Mi naech?" ebe'r gŵr llonydd; ac erbyn hyn yr oedd amryw wedi hel o'n cwmpas. "Mi naech?" ebe fe; "be bydae chi'n treio?" a thaflodd y gôt lwyd oddiam dano.
Yr oedd y gyrwr yn anterth ei ddedwyddwch am gael cyfleusdra i roi curfa i ŵr y ddwy geiniog. Ond druan o hono! Tarawodd y gŵr llonydd ef nes oedd yn chwyrnellu, ac na wyddid pa ben iddo oedd uchaf. Ond daeth ymlaen drachefn, i fyn'd drwy yr un oruchwyliaeth yn gymwys, ac erbyn hyn nid oedd y gyrwr yn awyddus i godi oddiar lawr. Ac ebe gŵr y gôt lwyd, —"Os bydd ar y brolgi yna eisiau gwybod rhywbeth yn mhellach am danaf, fy enw yw Twm Cynah; yr wyf yn byw yn Maesydref, Wyddgrug," a cherddodd yn hamddenol i'r Crown.
Yr oedd Wil a minau erbyn hyn wedi dychrynu yn fawr, ond gwnaethom, yr wyf yn meddwl, y peth goreu allasem ei wneud dan yr amgylchiadau,— euthom ar ei ol i'r tŷ i erfyn ei bardwn, ac i gynyg talu am hyny a ddymunai o ddiod. Ond ebe Twm Cynah, a dyma ydyw y wers, —
"Dydw i ddim yn yfed, diolch i chi, fechgyn, a chymerwch air o gyngor gen i. Pan ewch oddicartre y tro nesaf, gofalwch am gymeryd rhywun i edrych ar eich holau. Yr wyf yn maddeu i chwi eich camymddygiad, am fy mod yn gwybod mai diffyg synwyr oedd yr achos o hono. Cymerwch ofal na byddant yn eich cau i fyny yn y tŷ mawr yna sydd yn ymyl. Ond hwyrach fod gynoch chi ddigon o synwyr i gofio hyn, — peidiwch byth a chymeryd pobol wrth eu golwg, a pheidiwch byth a gwawdio pobol hyd y ffordd, yn enwedig merched a hen bobol ddiniwed. Pan oeddych yn gwawdio yr hen wr hwnw cyn cyraedd y dre, fum i rioed dan у fath demtasiwn ag i'ch taflu chi'ch dau a'r driver hefyd dros y gwrych, yr hyn a fedraswn yn hawdd. Peth arall, pan glywch chi rywun yn canmol ei hun yr un fath a'r driver yna, penderfynwch mae lob ydyw."
Anghofiais i byth gyngor Twm Cynah, a mi fu yn wers i mi am fy oes, ebe F'ewyrth Edward.