Straeon y Pentan/Tomos Mathias

Oddi ar Wicidestun
Cŵn Straeon y Pentan

gan Daniel Owen

Ysbryd y Crown

Tomos Mathias

ERBYN hyn, ebe F'ewyrth Edward, mae yr hen Waterloo veterans wedi myn'd i gyd, mi debygaf. Yr wyf yn cofio amryw o honyn nhw'n dda, ac yn eu plith Tomos Mathias. Yr oedd Tomos yn byw mewn ty bychan tu ol i'r Blue Bell, Maesydre, Wyddgrug. Un o'r tai lleiaf a welais yn y mywyd oedd tŷ Tomos, ac fe ddwedid mai rhyw brydnawn ar ol noswylio y gwnaeth Jac, y saer, sef y perchenog, y tŷ, ac fod Tomos yn derbyn llythyr ynddo bore drannoeth. Prun bynag am hyny, dyna'r tŷ lleiaf a welais erioed. Mi faset yn medrud estyn pob peth oedd yn y gegin heb godi oddiar dy eistedd, a 'doedd y siambar ddim ond just ffit o le i wely. Yr oedd pobol yn deud, pan fu Tomos yn sal ryw dro, mai drwy y ffenest y dangosodd ö ei dafod i'r doctor, yr hwn oedd isio gwybod stâd ei stymog. Ond wn i ddim oedd hyny'n wir ai peidio. Yn y caban bach yma y bu Tomos a Beti ei wraig yn byw lawer o flynyddoedd. Yr oedd Tomos wedi bod mewn rhai brwydrau, ac yn un o honynt — wn i ddim ai yn Waterloo y bu hyny — cipiwyd darn o asgwrn ei ben i ffwrdd, tipyn tu ucha'r coryn. Ond fe ddaru doctoriaid y fyddin neud job nêt ryfeddol ar ben yr hen greadur, drwy roi plât arian dros y twll rhag i'w fenydd o fod yn y golwg. Mi welais y plât arian â'm llygaid fy hun ddegau o weithiau. Dwedai Tomos y byddai yn amal heb yr un geiniog, ond na fyddai byth heb arian. Derbyniai chwe' cheiniog y dydd o bension am ymladd dros ei wlad; ond bob chwarter blwyddyn y cai yr arian gan Sergeant-Major Evans. Hen begor rhyfedd oedd y major, ond stori arall ydi hono.

Yn gyffredin, yr oedd Tomos cyn llawened a'r gog, a phob amser mor ddiniwed a'r golomen. Ond yr oedd ynddo un bai pwysig — yr oedd yn ffond ryfeddol o gwrw, ac nid oedd Beti yn ddirwestreg. Er mor ddiniwed oedd y ddau hen ben, yr oeddynt yn baganiaid enbyd, a 'doedd ganddynt ymron ddim syniad am grefydd. Elai Tomos i'r eglwys unwaith bob tri mis — sef y Sabboth o flaen y pension, er mwyn i'r Sergeant Major Evans gofio ei fod yn fyw. Rhoddid trust i Tomos hyd i swm neillduol gan Mali Dafis, y siop fach, a chan un neu ddwy o dafarnau, i aros diwrnod y pension. Wedi myn'd at farc y trust, byddai Tomos a Beti yn dlawd iawn. Ond y peth cyntaf a wnai yr hen sowldiwr wedi derbyn ei arian, — ac yn hyn yr oedd yn siampl i lawer yn y dyddiau hyn, — oedd myn'd o gwmpas i dalu ei ddyled, ac yna, fel yr oedd gwaetha'r modd, gwariai ef a Beti y gweddill am gwrw. Ond, fel y dwedais, byddai yn brinder mawr arnynt am wythnosau cyn diwrnod y pension, a llawer sgil a wnai Tomos i gael diferyn. Ar adeg felly, un tro aeth Tomos at ŵr diarth oedd newydd agor tafarn yn y gymydogaeth, a gofynodd, —

"Ddyn glân, gai beint o gwrw gynoch chi?"

"Cewch, os oes gynoch chi arian," ebe'r tafarnwr.

"Fydda i byth heb arian," ebe Tomos, ac estynodd y dyn y ddiod iddo. Wrth ei weld heb neud osgo i dalu, ebe'r tafarnwr, —

"Lle mae'r pres, ddyn?"

"Does gen i ddim prês, ond y mae gen i arian," ebe Tomos, a thynodd ei het a dangosodd iddo y plât arian ar dop ei ben. Synodd y tafarnwr yn fawr, ac ni rwgnachodd am iddo gael ei neud am dro.

Un noson oer yn y gaeaf, yr oedd Tomos a Beti yn sgrythu o flaen mymryn o dân oedd yn y grât, ac yr oedd yn glem wyllt arnynt, oblegid nid oedd ond wythnos hyd ddiwrnod y pension, Ochneidiodd Beti yn llwytlog, ac ebe hi, —

"Wyst di be, Tomos, mi leiciwn bydawn i yn y nefoedd."

"Be ddeudest di?" ebe Tomos.

"Y leiciwn i yn y nghalon bydawn i yn y nefoedd," ebe Beti.

"Ho, felly'n wir," ebe Tomos, "mi leiciwn inne bydawn i yn y dafarn a pheint o gwrw o mlaen."

"Yr hen sgrwb," ebe Beti, "yr wyt ti 'n wastad am y lle gore."

Mi fedrwn adrodd i ti amryw o bethau cyffelyb am Tomos a Beti Mathias, ebe F'ewyrth Edward, ond dyna ddigon i ddangos i ti mor anwybodus a diniwed oedd yr hen bobol er's talwm, ac mor ddiolchgar y dylech chi, bechgyn yr oes hon, fod am eich manteision addysg a'r Ysgol Sul a'i breintiau.