Straeon y Pentan/Ysbryd y Crown
← Tomos Mathias | Straeon y Pentan gan Daniel Owen |
Tubal Cain Adams → |
Ysbryd y Crown
FEL y mae'r Nadolig yn agosau, ebe F'ewyrth Edward, mae'n gwneud i mi feddwl fel y byddai pobol er's talwm yn adrodd hanes ysbrydion wrth y tân ar hirnos gauaf tua'r adeg hon ar y flwyddyn. Mae addysg a phregethiad yr Efengyl wedi gwneud cyfnewidiad mawr yng Nghymru o fewn fy nghôf i, er nad ydw i ddim yn hen iawn. Yr ydw i'n cofio pan oeddwn yn llanc yn Sir Ddinbech, fod pobol yn gyffredinol yn credu mewn ymddanghosiad ysbrydion, a mi fedrwn enwi i ti amryw leoedd y byddent yn deud fod rhwbeth yn trwblo yno. Yn wir, yr oedd rhai pobol lled barchus yn credu yn 'u clone fod, nhw wedi gweled ysbryd neu rywbeth na fedrent ei esbonio. Ond yr oedd dy daid yn Fethodist selog, fely gwyddost, ac yn ddig iawn wrth ofergoeledd y cymdogion, ac mi gymerodd lawer o drafferth efo ni i'n dysgu a'n goleuo i beidio rhoi coel ar bob stori wirion am ysbrydion. Erbyn i mi dyfu i fyny yn llanc, yr oeddwn yn meddwl nad oedd genyf flewyn o ofn hyny o ysbrydion oedd yn y byd. Ond un tro mi ges allan nad oeddwn mor ddewr ag yr oeddwn yn meddwl y mod i. Ac fel hyn y bu. Yr oedd y nhad a Fewyrth Pitar yn lled debyg o ran eu hamgylchiadau — yn bobol a chryn dipyn o'u cwmpas, ond yr arian yn gyffredin yn brin. Yr oedd pymtheng milltir rhwng ein tŷ ni a'r Llwybr Main, y ffarm a ddaliai F'ewyrth Pitar. I gyfarfod rhyw amgylchiad, fe fenthyciodd y nhad ddeugen punt gan f'ewyrth, ac fe addawodd eu talu yn ol yn ddiffael ar yr ugein fed o fis Tachwedd, sef y dydd o flaen diwrnod rhent y Llwybr Main. Yr oedd ar f'ewyrth eu heisieu yn bendant i gyfarfod y rhent, ac yr oedd y cigydd a brynai ddefaid y nhad wedi addaw yn sicr dalu haner cant o bunau i ni bythefnos cyn y byddai y deugain punt yn angenrheidiol. Ond er addaw, ni ddaeth y cigydd yn mlaen yn ol ei air, a bu raid i nhad egluro ei sefyllfa iddo a gwasgu arno, ac addawodd yntau ar ei wir y cai yr arian yn brydlon.
Yr oedd yn auaf cynar y flwyddyn hono, a'r eira a'r rhew ar y ddaear er's dyddiau. Yr ugeinfed o Dachwedd a ddaeth a'r cigydd heb ddangos ei wyneb, ac yr oedd y nhad wedi darn wirioni wrth feddwl am yr helynt a achosai i F'ewyrth Pitar. Ond dwedai fy mam y byddai y cigydd yn sicr o ddod, ac am i ni gymeryd amynedd. Aeth yn brydnawn a'r cigydd heb ddyfod, a phrotestiai nhad na chai byth ddafad ganddo mwyach. Ond tua thri o'r gloch cyrhaeddodd y cigydd a thalodd yr haner can punt. Erbyn hyn yr oedd y nhail ar y drain wrth feddwl am bryder Fewyrth Pitar, a chynygiais inau fyn'd â'r arian i'r Llwybr Main y noson hono. Mynai y nhad i mi fyn'd ar gefn ceffyl, ond o herwydd fy mod yn awyddus i gael aros am rai dyddiau yn y Llwybr Main, dewisais gerdded yno. Yr oedd wedi dechre tw'llu cyn i mi gychwyn, ac i dori cwt y ffordd eis dros y mynydd. Nid oeddwn wedi gadael cartre haner awr pryd y dechreuodd fwrw eira yn enbyd. Cerddais a cherddais, ac i dori'r stori yn fer, collais y ffordd. Yr oedd yr eira, yr hwn oedd yn dod i lawr yn dameidia mawr, wedi gwneud pob man yn ddieithr i mi, a cherddais am oriau heb wybod i ble yr oeddwn yn myn'd, ac yr oedd y dieithrwch, y distawrwydd, a'r ffaith fod gen i ddeugain punt yn fy mhoced wedi fy ngwneud reit nerfos. Ond yr oeddwn wedi gofalu rhoi rifolfar llwythog yn mhoced frest y nghôt, rhag lladron. Nis gwn am ba hyd y bum yn cerdded, ond yr oeddwn wedi blino yn enbyd, achos mi wyddost fod cerdded milldir mewn eira yn fwy trafferthus na cherdded tair ar dir sych. Gwyddwn ei bod yn myn'd yn hwyr, ac ofnwn y byddai raid i mi orwedd yn yr eira gan mor flinedig oeddwn, pryd y gwelwn oleu fel goleu canwyll drwy ffenest, a chyfeiriais tuag ato. Wedi i mi ddyfod at y goleu, cefais ei fod yn dod o ffenest tŷ bach tlawd yr olwg. Curais y drws, a daeth gŵr y tŷ, yr hwn oedd ar fin myn'd i'w wely i'w agor, a chyfarwyddodd fi i'r ffordd dyrpeg. Wedi cyraedd y typeg dechreuais gofio y ffordd, er fod yr eira yn rhoi golwg ddieithr ar bobman. Cofiais fod tafarndy yn ymyl o'r enw y Crown. Penderfynais nad awn gam pellach na'r dafarn, oblegid yr oedd genyf eto dair milltir o ffordd i'r Llwybr Main, a minau wedi blino cymaint fel mai prin y gallwn roi y naill droed heibio'r llall, ac yr oedd yn dal i fwrw eira. Ofnwn fod pobol y Crown wedi myn'd i'r gwely, a choelia fi, da gan fy nghalon oedd gweled goleu yn ffenest y gegin. Yr oeddwn ymron yn rhy finedig i guro y drws, pryd y daeth gŵr ieuanc i agor, gan fy ngwadd i fewn. Dywedais wrtho am fy sefyllfa, ac y byddai raid i mi gael gwely yno. Aeth i nol ei fam, ac wedi i mi fyn'd dros yr un stori wrthi hithau, ac i'r ddau siarad yn gyfrinachol, ebe'r fam,—
"Mae'n ddrwg gen i, syr, na fedrwn ni roi llety i chi, er mor dost ydi'r nosweth. 'Does gynon ni ond un ystafell heb fod ar iws, a deud y gwir i chwi, y mae rhwbeth yn trwblo yn hono, fel na fydde fo ddiben yn y byd i chi geisio cysgu ynddi." "Mi gymeraf fy siawns am hyny," ebe fi.
"Purion," ebe'r wraig, "ond dyna fi wedi deud yn onest wrthoch chi," a ffwrdd a hi i barotoi tamed o swper i mi, ac i ddweud wrth y ferch am wneud y gwely yn barod. Pan oeddwn yn cymeryd swper, holais y wraig am yr ysbryd, pryd y cefais y stori yn llawn ganddi. Yn fyr, yr oedd yn rhywbeth tebyg i hyn. Eu heiddo hwy eu hunain oedd y dafarn, ac yr oeddynt wedi cadw stori'r ysbryd oddiwrth bawb, rhag gwneud niwed i'r tŷ, ond yr oeddynt ar frys am gael ei werthu. Nid oedd neb wedi clywed yr ysbryd ond y fam a'r mab, ac nid oeddynt wedi sôn gair wrth y ferch, yr hon oedd yn bur wael ei hiechyd, rhag ei dychrynu, a rhoisant siars arnaf finau i beidio sôn wrthi, ac ebe'r fam, —
"Mae y bachgen yma a finau yn ei glywed bob nos ymron, ac weithiau fwy nag unwaith yr un noswaith, ond diolch i'r Tad, dydw i ddim yn meddwl fod y ferch wedi clywed dim oddiwrtho, ond y mae hi yn cysgu yn y garret gefn."
"Beth fyddwch yn ei glywed?" gofynais inau.
"Wel," ebe hi yn ddistaw, gan edrych tua'r drws rhag ofn i'r ferch glywed, "mi fyddwn ynclywed rhwfun yn agor y drws — 'does ene'r un clo arno—ac yn union deg yn ei gau o wed'yn. Yn yr ystafell ene bu farw fy ngŵr ryw flwyddyn yn ol, a mi dendiodd yr eneth yma gymaint arno nes y collodd ei hiechyd, a mae gen i ofn drwy nghalon iddi glywed y peth sy'n trwblo, achos mi fydde'n ddigon am ei bywyd hi, a waeth gen i bydawn i odd'ma yforu, cawn i rwbeth tebyg i bris am y tŷ."
Yn y funud daeth yr eneth i mewn, a gosododd ganwyll ar y bwrdd i mi, a dywedodd fod fy ngwely yn barod, a chanodd nos dawch. Yr oedd golwg wywedig a syn arni, a hawdd oedd genyf gredu nad oedd yn iach. Euthom i gyd i'n gwelyau. Yr oedd y tair ystafell lle y cysgwn i, y mab, a'r fam ar yr un landing, a, chysgai y ferch yn rhywle yn nhop y tŷ. O herwydd fy mlinder a stori'r ysbryd, ni fedrwn yn fy myw gysgu. Yr oeddwn wedi rhoi fy rifol far ar fwrdd bychan yn fy ymyl. Yn mhen rhai oriau, tybiais glywed rhyw swn oddiallan i'r ystafell. Goleuais y ganwyll y foment hono, a chydiais yn y rifolfar, oblegid yr oeddwn yn benderfynol os cawn allan mai rhyw ddihiryn oedd yn aflonyddu ar y bobol ddiniwed hyn, y gwnawn ychydig dyllau ynddo. Ond pan, y funyd nesaf, yr agorodd y drws, euthum i grynu fel deilen, ac yn fwy felly pan welwn ferch ifanc yn ei dillad nos yn dod yn syth at fy ngwely. Gan edrych yn dyner yn fy llygaid, ebe hi yn ddistaw, —
"Ydach chi'n well, nhad bach?" Yna trodd ar ei sawdl, cauodd y drws ar ei hol, ac ni welais mo honi wed'yn tan y bore. Merch y tŷ ydoedd druan, yn codi drwy ei hun. Yr oedd ei phryder a'i gofal am ei thad yn ystod ei afiechyd wedi etfeithio ar ei nerves, ac er y dydd y claddwyd ef, yr oedd wedi bod yn codi drwy ei hun. am flwyddyn gron heb yn wybod iddi ei hun nag i'w mam a'i brawd. Felly, mi fum yn foddion i roi ysbryd y Crown i lawr, ac yr oedd diolchgarwch y fam a'r brawd i mi yn ddiderfyn. Buom yn gyfeillion byth, ac ar fy nhrafel byddwn yn myn'd i'r Crown fel bydawn yn myn'd gartre, ebe F'ewyrth Edward.