Straeon y Pentan/Tubal Cain Adams

Oddi ar Wicidestun
Ysbryd y Crown Straeon y Pentan

gan Daniel Owen

Fy Annwyl Fam fy Hunan

Tubal Cain Adams

O BOB math o greulondeb, mi fyddaf yn meddwl, ebai F'ewyrth Edward, mai creulondeb at greaduriaid mudion ydyw y gwaethaf; am y rheswm na fedr y creaduriaid hyny, druain, ddwyn tystiolaeth yn erbyn eu poenydwyr, ac am eu bod yn fwy analluog i am ddiffyn ac i ymgeleddu eu hunain. Pan oeddwn yn hogyn, mi welais lawer o fechgyn creulon, ond neb tebyg i Tubal Cain Adams. Mae o a phawb o'i deulu erbyn hyn wedi meirw, onide fuaswn i ddim yn dweyd y stori hon wrthyt. Ac wedi i ti ei chlywed, hwyrach y dwedi di ei bod yn debyg iawn i stori hen wrach, ac yn sawru yn gryf o ofergoeledd yr oes o'r blaen. Ond y mae yn ddigon gwir, a chei ddweyd beth a fynost am dani.

Torwr ceffylau oedd tad Tubal Cain Adams, ac nid oedd yntau yn un o'r rhai mwyaf tirion. Mi welais ambell geffyl yn crynu drwyddo wrth glywed ei lais, ac yn edrych ar ei chwip gyda llygaid a'u llon'd o arswyd. Nid oeddym ni, yr hogiau, un amser yn hoffi i Tubal dd'od i gyd chware â ni, am y rheswm y byddai agos yn wastad yn gofalu brifo rhai o honom. Wedi iddo fynafyd un o honom, dwedai bob amser mai damwain oedd y cwbl; ond gwyddem yn burion ei fod yn ymhyfrydu rhoi poen i rywun. Felly nid oedd Tubal yn cael ei hoffi gan neb, a byddai gan ein rhïeni, yn enwedig ein mamau, ryw gŵyn feunyddiol yn ei erbyn. Tubal a'm dysgodd sut i hela adar. Mae yn dda gan y nghalon i fod y chware drwg hwnw wedi ei roi i lawr. Y ffordd y byddem yn gwneud oedd cymeryd bawb ei ffon, a myn'd un o bobtu'r gwrych, a dechreu ei guro nes y codem aderyn, ac yna hela y creadur bach o'r naill ben i'r gwrych i'r llall, os na 'hedai ar draws y cae, ac os felly, byddem wedi colli yr aderyn hwnw. Byddai y dryw bach yn fynych yn ein concro yn lân, âi o'r golwg fel pe buasai y ddaear wedi ei lyngcu, ac hwyrach, wedi i ni fyn'd bellder oddiwrtho, clywem ef yn twitian yn ddigon talog Anfynych y gadawai y robin goch y gwrych, ond 'hedai o'r naill gangen i'r llall, yn ol a blaen, nes ein blino, neu i ni ei flino ef. Mi gofiaf byth am y tro olaf y bum yn hela adar efo Tubal Cain Adams. Ar fore Nadolig rhewllyd yr oedd hyny. Yr oeddym wedi codi robin goch, ac wedi ei redeg yn ol a blaen yn hir, pryd y safodd robin ar gangen wedi llwyr flino. A mi ddychmygaf y munyd yma weled ei frest goch fach brydferth yn codi ac yn gostwng yn gyflym, gan fel yr oedd ei galon yn curo. Cymerodd Tubal afael ynddo, a'r foment hono torodd blood vessel i'r creadur gwirion, a ffrydiai y gwaed drwy ei bîg bach, yna cauodd ei lygaid disglaer, plygodd ei ben, a bu farw ar gledr llaw Tubal. Daeth y fath bangfa o euog rwydd drosof nes y methais beidio crïo. Wrth fy nyweled yn crïo, rhoddodd Tubal glewten i mi yn fy nghlust, lluchiodd robin i'r awyr, a tharawodd ef gyda'i ffon pan oedd yn disgyn, nes oedd ei blu yn gawod dros y lle. Effeithiodd yr amgylchiad yn fawr arnaf, a phan ddwedais y stori wrth fy inam, gwnaeth i mi fyn'd ar fy ngliniau i ofyn maddeuant Duw am y creulon deb, i'r hyn yr oeddwn yn ddigon parod. Ond giynodd y teimlad o euogrwydd ynof amser inaith, ac nid ydwyf y funyd hon, yn fy hen aint, yn hollol rydd oddiwrtho. Mi fedrwn adrodd llawer o greulonderau Tubal Cain Adams i ti, ond un eto yn unig, at yr hyn a ddwedais, y soniaf am dano.

Yn mhen blynyddau ar ol stori y robin goch, crebychai fy nghroen pan glywais, a hyny gan ficar y plwy, fod Tubal wedi tynu nyth aderyn bronfraith a thri o rai bach ynddo. Cymerodd y nyth a'r adar bach adref, ac aeth yn syth at Robert Lewis, y teiliwr, a dwedodd fod ei fam yn gofyn ain fenthyg siswrn bach, siswrn tori tyllau botymau. Wedi cael y siswrn, a phan oedd yr adar bach yn agor eu pigau am fwyd, torodd Tubal dafodau y tri. Daeth y creulondeb dychrynllyd i glustiau y ficar, yr hwn a aeth ato ac a roddodd y wers oreu iddo a gafodd yn ei fywyd, a dwedodd wrtho y byddai Duw yn sicr o dalu iddo am y fath weithred ysgeler. Dychrynodd Tubal gryn dipyn, a bu yn well bachgen byth. Hyny fu. Pan oedd Tubal oddeutu deunaw mlwydd oed, ar fore Nadolig, clywais ei fod yn sâl iawn. Eis i edrych am dano, a chefais ef bron yn rhy lesg i allu siarad. Yr oedd wedi tori blood vessel, ac wedi colli llawer o waed. Ebai fe, — "Edward, wyt ti'n cofio am y robin goch er's talwm?" "Ydwyf yn burion," ebe finau. "Dyma dâl i mi, yntê?" ebai fe, a thorodd i grïo. Ond gwellhaodd Tubal o'r afiechyd yn mhen llawer o fisoedd, ond ni bu byth yn gryf. Pan oedd Tubal yn chwech ar hugain oed, priododd. Yr oedd o yr adeg hono yn gweithio fel gwas ffarmwr. Yn mhen oddeutu blwyddyn ganwyd iddo ferch, a chyn pen pum' mlynedd yr oedd ganddo dair o ferched. Ond hyn oedd yn rhyfedd — a dyma ydyw pwynt y stori — yr oedd y tair hogen yn fudion, ni ddwedodd un o honynt air erioed. A'r hyn oedd ryfeddach fyth, yr oedd y tair yn clywed yn burion, achos y mae byddardod yn mron yn ddieithriad yn blaenori mudandod. Bu y fam farw ar enedigaeth yr olaf o'r genethod, ac effeithiodd cyflwr gresynus ei blant gymaint ar Tubal Cain Adams, fel y gwywodd yntau yn fuan. Cymerwyd yr hogenod i'r tloty, ac yno o un i un buont hwythau feirw. Dyna'r stori i ti, a gwna fel y mynot â hi, ebai F'ewyrth Edward.