Tŷ'r Ficer (Cartrefi Cymru OM Edwards)
← Glas Ynys | Cartrefi Cymru, O. M. Edwards gan Owen Morgan Edwards |
Y Garreg Wen → |
Mae Tŷ'r Ficer yn bennod yn Cartrefi Cymru casgliad o ysgrifau gan Owen Morgan Edwards (1858–1920) a chyhoeddwyd gyntaf gan Hughes a'i Fab, Wrecsam, ym 1896.
Testun
[golygu]Ty'r Ficer
Llawn o ddyfroedd oedd Llanymddyfri pan welais i'r lle gyntaf, er fod hynny yn niwedd mis Mehefin.
Bran a Gwydderig
A Thywi fynheddig
A Bawddwr fach fawlyd
Yn rhedeg drwy'r dre," —
nid yn unig yr oedd y rhain yn llifo dros y dolydd, ond yr oedd y glaw yn tywallt fel diluw. Yr oedd wedi golchi swyddogion y ffordd haearn yn lan; a thybiwn innau, wrth edrych o'r trên pan safodd yn Llanymddyfri, mai mewn dillad gwlybion y byddai raid i mi dreulio gweddill y dydd. Gwelwn nad oedd y dref yn ymyl, ac ni welwn gerbyd fuasai'n noddfa rhag y gwlaw. Ond, wedi disgyn, gwelais westy ar fy nghyfer, a medrais ei gyrraedd ar draws y ffordd cyn gwlychu at fy nghroen.
Daeth gwraig dawel, a sŵn penderfyniad yn ei llais, i'm croesawu. Yr oedd golwg gysurus ar bob peth yn y tŷ, yr oedd tân braf yn cynnau yn y parlwr cyn pen y chwarter awr, ac yr oedd pryd danteithiol o fwyd wedi ei arlwyo.
Yr oedd yno lyfrau hefyd, dyna'r gwahaniaeth rhwng gwesty Cymreig a gwestai eraill. Cefais ymgom a gŵr y ty;—y mae hyn yn rhan o fywyd fforddolyn, - a dywedodd bopeth wrthyf am grefydd a gwleidyddiaeth Llanymddyfri. Ond, fel gwestywr call, ni soniodd air am ei grefydd na'i gredo wleidyddol ei hun; ac yr wyf yn meddwl iddo fethu cael gweledigaeth eglur ar fy amryw dybiau innau. Gwr tawel oedd, yn siarad Cymraeg da.
Cyn huno, yn sŵn y glaw, bûm yn ceisio dyfeisio fath dref a welwn yfory, a fath dy oedd tŷ'r Ficer enwog. Yr oeddwn wedi gweld y lle o bell. Pan oedd fy nhrên yn croesi'r nentydd hyd ochr y mynydd, yr oeddwn wedi gweld dyffryn swynol i lawr oddi tanom, a gwastadeddau coediog niwliog draw. Ond cyn dychmygu darlun eglur yr oeddwn yng ngwlad gwsg. A chyn hir daeth yn ystorm yn fy mreuddwydion, a thybiais weled melltith y Ficer wedi dod ar Lanymddyfri, a'r dwfr yn ei chludo hi a minnau tua'r môr. Ond pan ddaeth y bore, yr oedd haul disglair ar bob peth, a minnau'n meddwl mor hyfryd oedd fy lle.
Wedi cael cyfarwyddiadau manwl, cychwynnais tua thŷ'r Ficer. Gadewais ysgol Llanymddyfri ar y de, a chefais fy hun cyn hir ym mhrif heol y dref. Wrth grwydro drwyddi, tybiwn mai tref yn prysur adfeilio ydyw Llanymddyfri. Ni welais ddim gwaith yn cael ei wneud yn unlle, ac nid oedd neb prysur yn y golwg. O'r negeseuwr i'r meddyg, yr oedd pawb yn rhodio'n hamddenol, fel pe mai unig amcan bywyd ydyw treulio'r dydd i ddisgwyl y nos a threulio'r nos i ddisgwyl y bore. Ni welwn gwsmer yn yr un o'r siopau; yr oedd pob siop fel pe'n hepian, a'r prentisiaid dan y cownter yn disgwyl diwrnod ffair. Gwelais siop lyfrau, arwydd sicr o ddiwylliant, ond ôl-rifynnau oedd yn y ffenestr, rhai'n traethu am faterion gwleidyddol na chymer ond yr hanesydd ddiddordeb ynddynt yn awr. Gwelais laswellt yn tyfu yn y farchnad, gwelais yriedydd yn golchi ei gerbyd y drydedd waith er pan gafodd gludo neb, gwelais saer yn cysgu yng nghanol ei shavings, gwelais gapel Wesleaid - pwy mor weithgar - wedi ei gau. Cyfarfyddais asiedydd deallgar, yr hwn ddywedodd lawer o hanes y dref i mi. Cyfeiriais fy ffon at laswellt oedd yn ceisio ymwthio i fyny rhwng cerrig yr heolydd, a gofynnais a oedd Llanymddyfri'n adfeilio Sicrhaodd fi nad oedd, ond ei bod yn sefyll, - yn cynyddu dim ac yn adfeilio dim.
Cefais dy'r Ficer ymron ym mhen uchaf y dref. Pasiais ef heb ei weled, a chyrhaeddais y bont, lle y dangoswyd mynwent ar fryn uwch ben i mi, — Llanfair ar y bryn, man bedd Williams Pant y Celyn. Troais yn ôl, ac ar y llaw chwith gwelwn dy oedrannus, ac ychydig o ôl gofal arno. Meddyliwn wrth ei weled am hen fonheddwr wedi torri, ac yn goroesi ei gyfoeth mewn cot ddu lom a het dolciog a throwsus du seimlyd rhy fyr i guddio ei esgidiau drylliog. Daeth hen wraig, debyg iawn i'r tŷ, i'r drws i gynnig dangos y lle i mi, gan ostwng yn ei garrau wrth gynnig. Y mae ambell ddernyn o bren cerfiedig a phlastr yn dangos mor fawr ydyw'r cyfnewidiad ddaeth dros y tŷ hwn. Unwaith bu yn orwych, yn awr y mae ei ystafelloedd cyfanheddol yn gartrefi llwm i dlodion Llanymddyfri.
Daeth rhyw brudd-der drosof wrth adael yr ystafelloedd tywyllon gwag lle y goleuwyd "Cannwyll y Cymry." Meddyliais am y noson y safodd ceffyl heb ei farchog wrth ddrws y Ficer, tra yr oedd corff llofruddiedig ei unig fab yn y Tywi. Meddyliais am lawer bore y bu'r Ficer yn cychwyn allan i rybuddio mewn amseroedd enbyd, ac i rybuddio'n ofer, —Mene Tecel, tre Llanddyfri,
Pwysodd Duw hi yn dy frynti;
Ni chadd ynnot ond y sorod,
Gochel weithian rhag ei ddyrnod.
Bore codais gyda'r ceiliog,
Hir ddilynais yn dy annog
Droi at Dduw oddi wrth dy frynti,
Ond nid oedd ond ofer imi.
Cenais iti'r udgorn aethlyd
O farn Duw a'i lid anhyfryd,
I'th ddihuno o drwmgwsg pechod,
Hwrnu er hyn 'rwyt ti yn wastod.
Cenais bibau, ond ni ddawnsiaist,
Tost gwynfannais, nid alaraist;
Ceisiais trwy deg a thrwy hagar,
Ni chawn gennyt ond y gwatwar
Esau werthai ei 'tifeddiaeth
Am y ffiolaid gawl ysywaeth;
Tithau werthaist deyrnas nefoedd
Am gawl brag, do, do, o'm hanfodd.
Ond, pa beth bynnag fu ei hanes, y mae Llanymddyfri'n annwyl i bob Cymro, ac yn annwyl yng ngolwg y nefoedd, oherwydd o honni hi y daeth y Ficer Pritchard a Pher Ganiedydd Cymru.
Cerddais drachefn drwy'r dref, gadewais y castell ar y chwith, gadewais y dref o'm hol, a does i fynwent Llandingad. Yma, meddir, y claddwyd y Ficer, ond nid edwyn neb le ei fedd. Yn wir dywed traddodiad nad ydyw yma mwy, ond fod yr afon wedi rhuthro drwy'r fynwent unwaith, ac wedi cario'r corff i'r môr.
Dychwelais trwy'r dref gysglyd dawel i'r gwesty i gael bwyd; ac yn y prydnawn cychwynnais tua'r castell. Saif ar dalp o graig yn ymgodi ar lan yr afon. Yr oedd dannedd y graig i'm hwyneb wrth i mi nesáu ato, a gwelwn yr eiddew yn ymglymu am ei fur toredig. Cerddais rhyngddo a'r afon, a dringais y bryn. Y mae'n sicr fod llawer o dref Llanymddyfri wedi ei hadeiladu a'i gerrig. Nid oes ond dau ddarn o'r mur trwchus yn aros, y darn agosaf at y dref, ond yr anhawddaf cael cerrig o honno. Y mae'r gornel, gyda thwr mae'n debyg, wedi syrthio, ac yr oedd coed yn estyn eu canghennau dros y muriau oddi ar ben y bryn y tu allan. Gwelwn ddrysau y bu'r gwylwyr yn esgyn ar hyd iddynt i'r muriau unwaith. Tawel iawn ac unig ydyw'r adfail, o'i cymharu ag ef y mae eglwys a mynwent Llandingad, welwn dros gornel y bryn, yn lle byw. Bu Gruffydd ab Rhys yn gwarchae arno, yn adeg amddiffyn Cymru. Cymerodd Rhys ei fab ef yn 1202; ac wedi hynny bu Gwenwynwyn, Rhys Ieuanc, a Rhys Grug yn ymladd yn ei ŵydd. Llawer un fu farw yn y ffos sydd eto i'w gweled yn amgylchu darnau'r castell,- ond mwynach yw'r olygfa geir o honno heddyw na golwg ar ei hanes. Y mae gwastadedd bychan gwyrdd rhyngddo a'r afon, y mae'r dref ar y gwastadedd oddi tano, ac onid ofer i mi geisio darlunio prydferthwch dyffryn y Tywi?