Glas Ynys (Cartrefi Cymru OM Edwards)

Oddi ar Wicidestun
Cefn Brith Cartrefi Cymru, O. M. Edwards

gan Owen Morgan Edwards

Tŷ'r Ficer

Mae Glas Ynys yn bennod yn Cartrefi Cymru casgliad o ysgrifau gan Owen Morgan Edwards (1858–1920) a chyhoeddwyd gyntaf gan Hughes a'i Fab, Wrecsam, ym 1896.

Testun[golygu]

GLAS YNYS

Pan fûm i drwyddi, tybiwn mai priodol iawn fyddai galw bro Elis Wyn yn Wlad Gwsg. Tybiwn fod rhywbeth yn ddieithr yn ei goleuni, a bod su esmwyth yn tonni trwy ei hawyr o hyd. Prin y teimlwn y gwahaniaeth rhwng bod yn effro ac ynghwsg ynddi. Yr oeddwn fel pe'n breuddwydio wrth gerdded drwyddi; a phan ddoi gwsg, nid oedd breuddwyd yn newid dim ar y wlad. Y mae delw'r wlad ar y gweledigaethau sydd wedi synnu ac wedi dychryn cymaint. Nis gallasai'r bardd ddychmygu fel y gwnaeth am y byd ac angau ac uffern, ond mewn gwlad fel hon.

Un peth trawiadol ynddi ydyw ei distawrwydd. Nid yn unig y mae'n ddistawach na gwlad boblog, lawn o bentrefydd; y mae'n ddistawach na mynydd-dir eang unig y Berwyn neu Bumlumon. Ni fûm mewn lle distawach erioed. Y mae'r don i'w gweled yn symud draw ymhell yn ewyn i fyny'r traeth, ond mewn distawrwydd perffaith. Y mae'r wylan yn ehedeg uwch ben; ond, o ran pob swn, gallai fod yn ddarlun o wylan ar ddarlun o awyr. Ac y mae'r mynyddoedd mawr yn gorwedd yn berffaith ddistaw yng ngwres y canol-ddydd haf; tybiwn fod y defaid a'r aberoedd yn cysgu arnynt.

Peth trawiadol arall yng ngwlad Bardd Cwsg ydyw cyfoeth ei lliwiau, ac amrywiaeth ei chymylau a'i llenni teneuon o niwl. Pan fo'r haul yn tywynnu y mae melyn a gwyn y traeth y tu hwnt i ddisgrifiad; pan fachludo'r haul, cyll y môr ei ddisgleirdeb ar unwaith, ac y mae golwg ddu frawychus ar y llu mynyddoedd mawr sydd o gwmpas Gwlad Cwsg. A nis gall neb ddarllen y tair Gweledigaeth heb adnabod niwl a tharth Harlech, a heb weled mor hoff yw Elis Wyn o gyferbynnu goleuni disglair a thywyllwch dudew. Fel Spenser a Milton yn llenyddiaeth Lloegr, y mae'n hoff o ddisgrifio goleu tanbaid neu'r fagddu ddilewyrch. Efe yw Rembrandt llenyddiaeth Cymru. Dacw belydryn yn gloywi o'r tu hwnt i gwmwl melynwyn, fel hwnnw welodd y Bardd Cwsg pan weddïodd yng ngafael y Tylwyth Teg, — "Gwelwn ryw oleuni o hirbell yn torri allan, O mor brydferth!"

Gwaith caled ar ddiwrnod gwresog yw dringo i fyny dan gysgod castell Harlech. Rhaid fod Bardd Cwsg wedi treulio llawer o amser yn yr hen gastell hwn; a hwyrach fod edrych i lawr dros ddibyn ei graig wedi ei helpu i ddychmygu am y ceulannau a'r dibynnau y gwelodd daflu'r colledigion drostynt yn ei Uffern. A'r ffrwd acw, tybiaf i mi weled darlun o honni fel un o raiadrau y Fall. Ond dyma ben y bryn o'r diwedd, a hen wr llygad-lon wedi bod yn fy ngwylio'n dringo.

"Mi gewch ddiwrnod braf i weld y wlad heddyw," ebe’r hen ŵr a'm cyfeiriai o Harlech tua Glasynys, "mi fydd y dydd i gyd fel y pelydryn yna gyda hyn." A gwir a ddywedodd, cefais ddiwrnod poetha'r haf hwnnw. Y mae Harlech ar godiad tir serth, a rhaid cael un chwim iawn i ddod i fyny iddi o'r traeth heb golli ei wynt. Un stryd hir y tybiwn ei bod, o boptu i'r ffordd sy'n rhedeg hyd y bryniau, yn gyfochrog a glan y môr. Y mae'n lan, er nad oes adeiladau mawrion yn ei rhan hynaf. Hawdd gweled ei bod yn hen dref oddi wrth ei chastell ac amlder ei thafarnau. Trois ar y chwith, hyd ffordd Talsarnau, a chefais gwmni bardd am ran o'r ffordd. Toc gadewais y ffordd gysgodol sy'n rhedeg hyd fron y mynydd, a throais hyd lwybr i lawr i'r gwastadedd glas odditanaf. Ar ganol y gwastadedd gwelwn fryncyn yn codi, ac o bob tu iddo, — ar ochr y mynydd ac ar ochr y môr, — y mae amaethdy o'r enw Glasynys. Oddi ar ben y bryn y mae golygfa ardderchog ar fôr a mynydd. Ynys, mae'n ddiamau, oedd y bryn unwaith, ac yr oedd y gwastadedd yn fôr. Ar ein cyfer codai'r mynydd yn serth, gyda choed yn aml ar ei lethrau. Aml waith y bu Elis Wyn yn dringo i ael y mynydd acw; a dacw'r llecyn, hwyrach, oedd o flaen ei lygad pan yn darlunio ei weledigaeth gyntaf, —

"Ar ryw brydnawn-gwaith teg o haf hirfelyn tesog, cymerais hynt i ben un o fynyddoedd Cymru, a chyda mi ysbienddrych, i helpu'm golwg egwan, i weled pell yn agos, a phethau bychain yn fawr; trwy yr awyr denau eglur, a'r tes ysblennydd tawel canfyddwn ymhell bell, tros fôr y Werddon, lawer golygiad hyfryd. O hir drafeilio a'm llygaid, ac wedyn a'm meddwl, daeth blinder, ac yng nghysgod blinder, daeth fy Meistr Cwsg yn lledradaidd i'm rhwymo; ac a'i agoriadau plwm fe gloes ffenestri fy llygaid, a'm holl synwyrau eraill, yn ddiogel."

Cerddais dros y bryn bychan gan ddod i lawr at gefn Glasynys y bardd, - amaethdy a'i wyneb tua'r mynyddoedd. Gwelais ar unwaith ei fod Y Las Ynys, cartref y Bardd Cwsgwedi ei adeiladu fel y dylid adeiladu ty ar lethr craig; gyda drws i fynd oddi allan i'w ystafelloedd uchaf, ac mor naturiol ei safiad a phe buasai wedi codi, fel blodeuyn, yng nghwrs natur ar ochr y bryn. Curais wrth y drws, a daeth merch ieuanc i'w agor. Dywedodd fod croeso imi weled cartref y Bardd Cwsg, a ddangosodd i mi brif ystafelloedd y ty . Yr wyf yn cofio fod rhyw hanner arswyd arnaf wrth grwydro trwy'r ystafelloedd lle crëwyd golygfeydd ofnadwy Bardd Cwsg; a thybiwn mai hyfryd i'r bardd, pan fyddai ei ddychymyg wedi ei arwain trwy erchyllterau uffern a'r fall, oedd sylweddoli ei fod ef mewn lle mor hyfryd.

Yr oedd llwybr Elis Wyn rhwng ei gartref a'i eglwys, rhwng Glasynys a Llanfair. Y mae Glasynys rhyw ddwy filltir o Harlech i'r gogledd, ac y mae eglwys Llanfair rhyw ddwy filltir o Harlech i'r de. Bûm yn Llanfair hefyd, lle y gorwedd Elis Wyn mewn bedd dinod, bron anadnabyddus. Y mae'r daith o Harlech i Lanfair yn fwy digysgod na'r daith i Lasynys, ar wres neu ar gurlaw, ond nid yw'n llai hyfryd. Wedi tynnu i fyny’r rhiw oddi wrth y môr, a gadael yr hen gastell gwgus ar ein hol, trown ar y de.

Y mae mwy o Harlech i'w weled wrth fynd i Lanfair nag wrth fynd i Lasynys. Wedi cerdded drwy ystryd gweddol hir, deuir i lecyn dymunol iawn dan goed, ar gyfer prif westy'r lle. Y mae golwg brydferth iawn oddi yma drwy'r coed ar y môr sy’n mhell oddi tanodd, ac y mae pob trofa newydd ar y ffordd yn hyfrydwch. Creigiau, coed, mynydd, a’r môr, - nid oes braidd dy yn y cilfachau hyn heb olygfeydd o'i ffenestri y buasai cynllunydd palas brenin yn falch o honynt. Ond yn fuan iawn yr ydym yn gadael yr hen dref ar ein holau, ac yn teithio hyd ffordd deg ar y dibyn uwch ben y môr, a'r hen gastell du gwgus yn ein gwylied o'n hol.

Dyma ffordd y bu Bardd Cwsg yn ei cherdded filoedd o weithiau, ac y mae golygfeydd ei weledigaethau o'n hamgylch heddyw, er bod syniadau gwlad wedi newid llawer er yr adeg y bu yn ei cherdded ddiweddaf, tua chant a thrigain o flynyddoedd yn ôl.

Aml dro, y mae’n ddiamau, bu Elis Wyn yn edrych ar ddyffrynnoedd fel dyffryn Nancol; ac i'w feddwl ef, fel i feddwl pawb yn yr oes honno, yr oedd yr aruthredd rhamantus yn erchylldra di-drefn. Yn ei freuddwydion y mae'r cwm mynyddig yn ymddangos yn uffern, lle gwelai'r colledigion, a'r ysbrydion aflan

"a phigffyrch yn eu taflu i ddisgyn ar eu pennau ar heislanod gwenwynig o bicellau geirwon gwrthfachog, i wingo gerfydd eu hymenyddiau; ymhen ennyd, lluchient hwy ar eu gilydd yn haenfeydd, i ben un o'r creigiau llosg, i rostio fel poethfel. Oddi yno cipid hwy ymhell i ben un o fylchau y rhew a'r eira tragwyddol; yna yn ôl i anferth lifeiriant o frwmstan berwedig, i'w trochi mewn llosgfeydd, a mygfeydd, a thagfeydd o ddrewi anaele."

Weithiau tybiwn ein bod yn adnabod rhai o gymoedd Meirion, hyd nes y dadlennir y darlun erchyll i gyd, —

"Tu isaf i'r gell yma gwelwn ryw gwm mawr, ag ynddo megis myrdd o domennydd anferth yn gwyrddlosgi; ac erbyn nesáu gwybûm wrth eu hudfa mai dynion oeddynt oll, yn fryniau ar eu gilydd, a'r fflamau cethin yn clecian trwyddynt."

Nid un yn gwenu ar bechod oedd Elis Wyn. Y mae'n amhosibl cael darluniad mor ddychrynllyd o feddwdod ac aflendid ac anghrefydd, hyd yn oed ym mhregethau'r Diwygiad, ag yn ei weledigaethau ef. Ac nid arbed y boneddigion na'u cynffonwyr. Ychydig o lafurwyr welodd yn uffern; ac o'r rhai welodd, os oedd rhai wedi dod yno am gau talu'r degwm, yr oedd eraill wedi dod oherwydd gadael eu gwaith i ddilyn boneddigion. Oes y boneddigion oedd y ddeunawfed ganrif; hwy oedd yn rheoli mewn llan a llys. Hwy oedd yn y fyddin, hwy oedd yn ustusiaid, hwy oedd yn rheoli ymhob man. A dysgeidiaeth pulpudau'r oes oedd fod yn rhaid ymostwng iddynt. Ond trinnir yr ustusiaid a'r cyfreithwyr a'r physygwyr yn ddiarbed yng ngweledigaethau Bardd Cwsg. Ie, unwaith clywodd chwerthin yn uffern, —

"A mi yn dyfod allan o'r gilfach ryfeddol honno, mi a glywn gryn siarad; ac am bob gair y fath hyll grechwen a phed fuasai yno bum cant o'r cythreuliaid ar fwrw eu cyrn gan chwerthin. Ond erbyn i mi gael nesáu i weled yr ameuthyn mawr o wenu yn uffern, beth ydoedd ond dau o bendefigion newydd ddyfod, yn dadleu am gael parch dyledus i'w bonedd; ac nid oedd y llawenydd ond digio’r gwir boneddigion. Palff o ysgwier a chanddo drolyn mawr o femrwn, sef ei gart achau, ac yno yn datgan o ba sawl un o'r Pymtheg Llwyth Gwynedd y tarddasai ef; pa sawl Ustus o heddwch, a pha sawl Sirydd a fuasai o'i dy ef. 'Hai, Hai,' ebe un, 'nid ych chwi ond aer y fagddu, fflamgi brwnt, prin y teli i ti lety noswaith,' eb efe, 'ac eto ti a gâi ryw gilfach i aros dydd:' a gyda'r gair, dyma'r ellyll ysgethrin a'i bicfforch yn rhoi iddo, wedi deg tro ar hugain yn yr wybr danbaid, ond oedd ef yn disgyn i geudwll allan o'r golwg."

Y mae'n hawdd gweld athrylith Elis Wyn oddi wrth y gosb rydd i bob un yn uffern. Nis gwyr y darllenydd yn iawn beth i'w wneud wrth ddarllen hanes y gosb, pa un ai dychryn ai chwerthin, gan mor anisgwyliadwy ydyw'r gosb, ac eto mor naturiol. Y meddw, y rhegwr, yr aflan, y rhodreswr, y chwedleuwr,— y maent i gyd yn y fro erchyll honno wrth eu hen waith. Er esiampl, cymerer y pedwar ffidler oedd newydd farw, ac oedd yn eu bywyd wedi bod yn fwy lwcus am gynulleidfa na'r person, —

"'Ffwrdd, ffwrdd, a'r rhai hyn i wlad yr anobaith,' ebe'r brenin ofnadwy; 'rhwymwch y pedwar cefn-gefn, a theflwch hwy at eu cymheiriaid, i ddawnsio yn droednoeth hyd aelwydydd gwynias, ac i rygnu fyth heb na chlod na chlera."

Ond dyma Lanfair yn y golwg. Dacw'r eglwys y bu Elis Wyn yn gwasanaethu ynddi, a'r lle y claddwyd ef. Y mae gwlad agored brydferth Llanfair a Llanbedr o'n blaenau. Y mae’r môr gryn bellter oddi tanom, a thraw ar ei lan wele eglwys fechan Llandanwg. Pentref bychan ydyw Llanfair, rhyw ychydig o dai o boptu i'r ffordd. Gydag i mi gyrraedd y pentref ymgasglodd lliaws o'r plant, rhai yn awyddus am rywbeth i'w weled neu i’w wneud, o'm cwmpas. Nid oedd yr un o honynt wedi clywed gair am Elis Wyn nac am weledigaethau Bardd Cwsg. Yr oeddynt yn foddlon iawn i'm gwasanaethu, a medrodd un o honynt gael allwedd y fynwent ac allwedd yr eglwys i mi. Saif yr eglwys hir a'i thalcen i'r mynydd, o fewn mynwent lawn a threfnus.

Yr oedd hanner arswyd arnaf wrth fynd i'r eglwys, ac yr oedd y plant a'm dilynent mor ddistaw â phe gwybuasent fod Bardd Cwsg, un ddychmygodd weled pethau mor ofnadwy, yn huno yno. Y mae'r allor yn llenwi y pen agosaf i'r mynydd o'r eglwys, o fur i fur. Hysbyswyd fi fod lle'r allor yn fyrrach unwaith, a bod lle i un set rhwng yr allor a'r mur. Tan y set honno, set Glas Ynys, a gladdwyd y Bardd Cwsg; ond erbyn hyn y mae'r allor dros ei orweddle. Ac ni wyddai plant ei bentref, oedd mor ddistaw â llygod yn yr eglwys dawel, ddim am ei waith nac am ei enw.

Troais i unig westy'r pentref i ofyn lluniaeth, oherwydd yr oedd erbyn hyn yn hen brynhawn. Tra'r oedd y forwyn yn gosod y lliain ar y bwrdd mewn parlwr bach cysurus ddigon, gofynnais iddi,—

"Yn yr eglwys yma y claddwyd Elis Wyn o Lasynys, ynte?"

"Hwyrach wir, syr, ond 'doeddwn i'n nabod mo honno fo."

Yr oedd gwr y gwesty gerllaw, ac amryw las hogiau yn y gegin, ond nid oedd yr un o honynt yn gwybod dim am Elis Wyn. Dywedodd un y gallai'r ysgolfeistr fod yn gwybod, fod llawer o bethau yng nghadw yn ei ben ef, ond ei fod ar ei wyliau ar hynny o bryd.

Wedi tê troais yn ôl tua Harlech, a daethem at y ffordd sy'n arwain i lawr at Landanwg a min y môr. Gwelwn mai rhibin hir iawn o ffordd ydoedd, ond daeth awydd angerddol drosof am weled gorweddfan Siôn Phylip. Ac i lawr a mi, hyd ffordd ddigon tolciog, nes cyrraedd ty neu ddau heb fod nepell o lan y môr. Dywedwyd wrthyf na fu claddu ym mynwent Llandanwg ers blynyddoedd, ac nad oes un math o wasanaeth ynddi'n awr. Croesais ffrwd ddwfr, a chefais fy hun mewn cae gwyrdd o flaen yr eglwys. Yr oedd y llecyn yn un hyfryd ar y nawn haf hwnnw. Chwythai awel dros y môr, ag iechyd ar ei haden, ac yr oeddwn yn meddwl fod y ffrwd oedd ar golli yn y môr yn berffaith gloyw, fod y glaswellt yn berffaith wyrdd, a bod yr awyr yn berffaith bur.

Bechan iawn ydyw'r eglwys, a dieithr yr olwg arni. Ni welais ond llwybr i fynd ati, a hwnnw'n eithaf anodd ei gael. Y mae porth i fynd trwyddo i'r fynwent, ar gyfer ffenestr fawr y dwyrain. Y mae drws yr eglwys i'r stormydd a’r môr. Saif yr eglwys yn llythrennol ar fin y môr, ac y mae'r tywod luchiwyd gan ystormydd hyd ei llawr. "Llan dan wg y môr" ydyw ystyr ei henw, ebe un hen ramadegydd gyfarfyddais. Mynwent unig a thawel, hyd yn oed ymysg mynwentydd, ydyw. Y mae'r eglwys yn wag oddigerth fod yno ychydig o hen goed derw. Anaml, yn sicr, y bydd neb yn torri ar unigedd y fan. Y mae enwau ffermydd yr ardal ar y cerrig beddau, ond yr wyf yn meddwl mai anaml y cleddir yno'n awr. Gwelais fedd Siôn Phylip, wedi tipyn o chwilio ymysg y twmpathau gleision a'r cerrig beddau mwsoglyd. Y mae yng nghysgod yr eglwys, yn union dan ffenestr y dwyrain. Wrth dynnu’r mwsogl oddi ar y ddwy lythyren a'r dyddiad a'r englyn sydd ar y garreg, ceisiwn gofio peth o Gywydd yr Wylan, cywydd gorau Siôn Phylip. Ac yn sicr ddigon yr oedd gwylan unig yn hofran uwch fy mhen, fel pe'n gwylio bedd y bardd a'i darluniodd.

Bu Elis Wyn yn darllen gwasanaeth yr eglwys yma, yn swn y môr. Tybed ei fod wedi cerdded hyd y traeth, gan synfyfyrio, i aros i'r plwyfolion ddod? Ai ar y llecyn hwn, wrth syllu ar y feisdon, y dychmygodd yr ymddiddan rhyngddo a Thaliesin Ben Beirdd, pan y gofynnodd Taliesin iddo am y prydydd, — "Pa le mae'r pysgodyn sy'r un lwnc ag ef? Ac mae hi yn fôr arno bob amser, eto ni thyr y môr heli mo'i syched ef."

Yr oedd y nos yn dod, a'm ffordd innau i'm llety yn hir. Nosodd arnaf cyn i mi ddod i'r ffordd fawr, ac ni welwn wahaniaeth rhwng daear a môr. Nid oedd arnaf llai nag ofn yn y gwyll, yr oeddwn wedi meddwl cymaint yn ystod y dydd am y bodau erchyll ddarlunnir gan Fardd Cwsg. Gan nad oedd ond amlinellau llymion y wlad i'w gweled, yr oeddwn bron a meddwl weithiau fy mod yn y dyffryn hwnnw ddarlunnir yng "Ngweledigaeth Angau yn ei Frenhinllys isaf", —

"Mi'm gwelwn mewn dyffryn pygddu anfeidrol o gwmpas, ac, i'm tyb i, nid oedd diben arno; ac ymhen ennyd, wrth ambell oleuni glas, fel cannwyll ar ddiffodd, mi welwn aneirif, O! aneirif, o gysgodion dynion, rhai ar draed, a rhai ar feirch, yn gwau trwy eu gilydd fel y gwynt, yn ddistaw ac yn ddifrifol aruthr; a gwlad ddiffrwyth, lom, adwythig, heb na gwellt na gwair, na choed nac anifail; a chwipyn, er maint oedd y distawrwydd o'r blaen, dyma si o'r naill i'r llall, fod yno ddyn bydol."

Y mae'n debyg fod Bardd Cwsg wedi llenwi bywydau llawer a dychrynfeydd, wedi gwneud pob nos yn llawn o ellyllon, ac wedi dyrysu synhwyrau llawer un. Pa ryfedd fod y llyfr hwn wedi effeithio cymaint ar fywydau dynion? Mor dryloyw yw ei arddull, mor gain a naturiol ei Gymraeg! Ac mor rhyfedd ydyw ei ddychymyg pan yn crwydro trwy'r eangderau dychrynllyd hynny, pan yn dilyn o'i ledol ar ôl milwyr disglair Lusiffer wrth iddynt deithio fel mellt hyd y fagddu hyll!

Rhyfedd ac ofnadwy ydyw'r pethau ddarlunnir ganddo, ac nid heb ychydig ofn y medrir meddwl am danynt ar ffordd unig fel hon wedi nos. Cyn i oleuadau Harlech ddod i'r golwg, yr oedd fy meddwl wedi troi at emyn y Bardd Cwsg, emyn sy'n dangos beth fuasai ei weledigaeth ym Mharadwys pe'r ysgrifenasai hi,—

"Myfi yw'r Atgyfodiad mawr,
Myfi yw gwawr y bywyd;
Caiff pawb a'm cred, medd f'Arglwydd Dduw,
Er trengi, fyw mewn eilfyd.

"A'r sawl sy'n byw mewn ufudd gred
I mi, caiff drwydded nefol
Na allo'r angau, brenin braw,
Ddrwg iddaw yn dragwyddol.

"Yn wir yn wir, medd Gwir ei hun,
Pob cyfryw ddyn sy'n gwrando
Fy ngair gan gredu'r Tad a'm rhoes,
Mae didranc einioes ganddo."

NODYN[golygu]

Merch Hafod Lwyfog, Bedd Gelert, oedd gwraig Elis Wynn o Lasynys, — Lowri Llwyd wrth ei henw. Hysbyswyd fi na chladdwyd Elis Wynn dan allor eglwys Llanfair. Yr oedd set Glasynys wrth dalcen yr allor, a than honno y claddwyd "Bardd Cwsg." Ond, erbyn heddyw, y mae allor yr eglwys newydd wedi ei hestyn dros y set a thros y bedd.