Cefn Brith (Cartrefi Cymru OM Edwards)

Oddi ar Wicidestun
Caer Gai Cartrefi Cymru, O. M. Edwards

gan Owen Morgan Edwards

Glas Ynys

Mae Cefn Brith yn bennod yn Cartrefi Cymru casgliad o ysgrifau gan Owen Morgan Edwards (1858–1920) a chyhoeddwyd gyntaf gan Hughes a'i Fab, Wrecsam, ym 1896.

Testun[golygu]

Os anghofiaf di, Jerwsalem, anghofied fy neheulaw ganu. Glyned fy nhafod wrth daflod fy ngenau oni chofiaf di, oni chodaf Jerwsalem goruwch fy llawenydd pennaf. — SALM CVII:5-6. Ar wyneb-ddalen "Supplication" John Penri dros Gymru.

CEFN BRITH

Yr oedd cyfaill i mi unwaith yn cyd-deithio yn y trên a'r diweddar Barch. J. Kilsby Jones, o Lanfair ym Muallt i Lanwrtyd. Ymhen tipyn wedi gadael Llechryd, dyma Mr Jones yn tynnu ei het, ac yn dweud, — "Yr ydym yn awr ar dir clasurol. A welwch chwi'r llwyn o goed acw? Dacw Gwm Llywelyn. A welwch chwi’r tŷ ar ochr y bryn i fyny acw? Dacw’r tŷ y ganwyd John Penri ynddo. John Penri a ddywedodd wrth yr Ymneilltuwyr am fynd i'r Amerig. Ie, yn y bwthyn acw y ganwyd y syniad am weriniaeth fawr y Gorllewin." Y mae'n sicr mai'r awydd am ryddid cydwybod, — yr awydd gafodd John Penri'n ferthyr iddo, — a roddodd fod i'r weriniaeth fawr honno. Ond nid am yr hyn a wnaeth Penri i'r Weriniaeth nas gwelsai ond trwy ffydd, nid am hynny y meddyliwn wrth ddisgyn yng ngorsaf Llangamarch ym mis Gorffennaf diweddaf, eithr am yr hyn a wnaeth dros Gymru, cyn rhoddi ei fywyd ieuanc i lawr drosti am bump o’r gloch y prynhawn, ar y nawfed dydd ar hugain o Fai, 1593.

Y mae ardal Llangamarch yn un o'r ardaloedd mwyaf mynyddig yng Nghymru, er nad yw Mynydd Epynt a mynyddoedd Aber Gwesin mor uchel â’u brodyr sy'n sefyll rhyngddynt a gwynt ac eira'r gogledd. Wrth fynd tua Llangamarch o Fuallt yr oeddem yn dringo i fyny o hyd, yng nghyfeiriad y mynyddoedd sy'n derfyn rhwng dyffrynnoedd y Gwy a dyffrynnoedd y Tywi. Teithiem i fyny dyffryn yr afon Dulas, un o ganghennau’r Gwy; o boptu i ni yr oedd rhes o fynyddoedd, a gwlad fryniog rhyngddynt, a thai ar y bryniau. Dyma'r trên yn aros ar lethr y dyffryn, mewn man cul arno. Ar y llaw dde y mae eglwys ar ochr y bryn, yr eglwys lle mae claddfa Cefn Brith, a'r eglwys lle'r huna Theophilus Jones, hanesydd Brycheiniog. I lawr oddi tanom, ar y chwith, y mae'r Dulas dryloyw ond yn rhy bell i lawr i ni glywed ei dwndwr ar ei cherrig a'i graean. Cerddais i lawr o'r orsaf, a sefais ennyd ar y bont sy'n croesi'r afon brydferth. Tra'r oeddwn yn edrych i fyny'r afon ar y glennydd coediog, ac ar y mynyddoedd oedd draw dan eu gorchudd llwyd o wlaw, clywn swn troed trwm, swn rheolaidd fel swn troed rheng o filwyr. Heddgeidwad oedd yno. "Rhagluniaeth a'i hanfonodd yma," meddwn wrthyf fy hun, "daeth i'r dim, caf ei holi am y ffordd."

"Ŵr braf," meddwn wrtho, "a welwch chwi'n dda gyfarwyddo dyn dieithr i Gefn Brith?"

"I don't know what you say, you should speak English."

"Mae hynny'n orthrwm mawr," meddwn innau, "na chawn siarad Cymraeg a swyddogion cyflog mewn lle mor Gymreig â Llangamarch. Ffordd bynnag, er siarad Saesneg ag ef, a Saesneg llawer gwell na'i Saesneg ef hefyd, ni chefais ddim gwybodaeth ganddo. Gwelais yn eglur mai nid Rhagluniaeth wnaeth hwn yn heddgeidwad, ond prif-gwnstabl Seisnig. A rhyfeddwn yn fawr fy mod wedi camgymryd gwaith y naill am waith y llall. Ar ororau'r Deheudir y mae llawer o syniadau hen ddyddiau'r Lords Marchers eto'n aros, tybir gan yr awdurdodau mai llywodraethu'r Cymry yw eu gwaith, ac nid eu gwasanaethu. Ac y mae gormod o'u hen waseidd-dra yn y Cymry hyn eto, mwy o ofn plismon anwybodus o Sais nag o ofn Cymro gonest a chydwybodol. Ond tybed, er hyn, mai Sais uniaith ddylai ofalu am heddwch Llangamarch?

O'r bont cerddais i'r pentref, pentref bach ar lan yr afon dan gysgod bryn. Gofynnais i'r wraig gyntaf gyfarfyddais am y ffordd i Gefn Brith; atebodd hithau, cyn gynted â’r gwynt, drwy ofyn cwestiwn arall, ”I chi'n blongo iddi nhw?" Wedi i mi ddweud digon o fy hanes i'w boddloni, rhoddodd gyfarwyddiadau manwl i mi, a disgrifiadau maith o ffyrdd, trofeydd, coed, a thai. Anghofiais y rhan fwyaf wrth gerdded i fyny gyda glan yr afon; ac erbyn i mi holi yr ail waith yr oeddwn wedi mynd yn rhy bell o lawer hyd ffordd Llanymddyfri, ac wedi anghofio troi. Troais yn ôl; a gwelwn ffordd drol ar y llaw dde yn arwain o'r gwastad, ac yn dirwyn i fyny ochr y bryn. Cerddais innau hyd hon, ffordd leidiog is na'r caeau o'i chwmpas. Erbyn hyn yr oedd yn glawio'n drwm, a da oedd cael cysgod y gwrychoedd uchel trwchus. Bûm am gwarter milltir heb weled fawr ond bedw a gwern; yna, wrth i mi godi uwchlaw'r dyffryn, daeth y wlad agored i'r golwg, ac ambell lygedyn o haul arni trwy'r gwlaw. Wedi cyrraedd pen y bryn, cefais olygfa ogoneddus ar fryniau a dyffrynnoedd yn ymestyn i'r gorllewin. Bûm yn cerdded am beth, amser hyd ffordd wastad, gyda'r dyffryn ar y llaw dde, a mynyddoedd, at y rhai yr oeddwn yn dod agosach agosach, ar y llaw chwith. Ar odrau'r mynyddoedd hyn yr oedd ffriddoedd, llawer glyn cul coediog, a llawer hafan werdd. O’r diwedd does i olwg y tŷ ; nid oedd y pellter gerddais ond rhyw ddwy filltir a hanner, ond tybiwn ei fod yn ychwaneg, oherwydd fod cymaint o dynnu i fyny a bod y ffordd mor drom gan y glaw. Ond anghofiais fol lludded a dillad gwlybion wrth edrych ar yr olygfa welir o ymyl Cefn Brith.

Gwelwn lwybr yn mynd at wyneb y tŷ trwy ganol gweirglodd weiriog wlithog; ac yr oedd y ffordd yn rhoi tipyn o dro, ac yn mynd heibio'r adeiladau. I ba gyfeiriad bynnag yr edrychwn, gwelwn fynyddoedd yn edrych arnaf o’r tu cefn i fynyddoedd. I'r gorllewin, dros Gefn Gorwydd a phentref a chapel mawr, yr oedd mynyddoedd Llanwrtyd ac Ystrad Ffin; ac ar yr ochr arall yr oedd hafanau gwyrddion mynyddig, gydag ambell goeden griafol ac ambell fedwen yn ymddyrchafu mewn tlysni dan wlith y cawodydd a gwen yr haul. Dyma'r ardaloedd y bu John Penri yn meddwl am danynt pan yn ffoadur yn Lloegr a'r Alban, yr ardaloedd gafodd bryder ei fywyd a'i feddyliau olaf.

Adeg ryfedd oedd yr adeg y bu Meredydd Henri yn disgwyl John adref o'r ysgol i'r lle mynyddig hwn. Yr oedd teimlad angerddol dros undeb Lloegr, yn wladol ac yn eglwysig. Dyma'r adeg yr oedd Elisabeth yn "Faerie Queene" i Loegr a Chymru, dyna'r adeg yr aeth Lloegr drwy beryglon oddi wrth alluoedd pabaidd Ewrop, dyna'r adeg y dangosodd Shakespeare mai aflwydd ddaw i wlad lle y gwrthwynebir y brenin, eneiniog Duw. Ufuddhau i'r frenhines, caru'r eglwys genedlaethol, a diolch i Ragluniaeth am gael byw yn yr amser hwnnw dyna dybiai ysbryd yr oes oedd dyletswydd dyn. Ac i Gymro, beth oedd mor unol â’i natur? Ond yr oedd yn yr amaethdy mynyddig hwn un welodd hanes oesoedd i ddod, un dangosodd yn glir beth fyddai dyfodol Cymru. Gwelai fod yr eglwys yn esgeuluso Cymru, ac yn gwrthod rhoi yr efengyl iddi yn ei hiaith ei hun; teimlodd rym yr efengyl a gwelai Gymru yn ei phechodau. Agorodd tosturi a phryder ei lygaid, a daeth mab yr amaethwr yn broffwyd ei wlad.

Ganwyd John Penri yng Nghefn Brith, yn y tŷ sydd o'm blaen, yn 1559. Aeth i Gaergrawnt yn bedair ar bymtheg oed, ac yno clywodd y Piwritaniaid cyntaf, — rhai ddywedai nad oedd y Diwygiad wedi ei orffen. A fe allai iddo gael cipolwg ar wirionedd mawr y dyfodol,—y medrai gwlad fod yn gadarn ac unol heb grefydd genedlaethol y gellid goddef i gydwybod pob dyn ffurfio ei grefydd ei hun. O'r brifysgol, deuai Penri i fynyddoedd Brycheiniog yn ystod ei wyliau, a nis gallai llai na theimlo mor ofergoelus oedd Cymru, - gwlad oedd wedi colli ei Phabyddiaeth, a heb gael eto ddim yn ei lle. Yn 1586 daeth i Rydychen, ac yma, y mae'n debyg, yr ysgrifennodd ei bamffled ar sefyllfa resynus Cymru, y pamffled anfonodd yn 1587 i'r frenhines a'r senedd. Dychrynodd y pamffled hwnnw lawer, a pha ryfedd, oherwydd gofynnid ynddo am hawl i leygwyr Cymru bregethu'r efengyl. Er i'r hyn ddywedid ynddo gael ei ddweud yr y Senedd hefyd, gwysiwyd Penri o flaen yr awdurdodau eglwysig, o flaen yr Archesgob Whitgift a'r esgobion. Rhaid maddeu llawer i'r rhain pan gofiwn mai cred eu hoes oedd fod yn rhaid, er diogelwch, lladd pob gwrthryfel yn erbyn sefydliadau cenedlaethol. Dywedasant wrth Benri nas gellid goddef ei syniad nad oedd clerigwr na phregethai yn weinidog Crist. Cyhoeddodd yntau ryfel yn erbyn yr awdurdodau trwy ddweud y collai ei fywyd cyn y rhoddai'r syniad hwnnw i fyny.

Yn 1588, blwyddyn yr oedd Lloegr yn hanner addoli ei brenhines a'i heglwys wedi'r Armada, blwyddyn Beibl yr Esgob Morgan, yn y flwyddyn honno cyhoeddodd Penri bamffled arall. Mewn iaith huawdl, condemnia'r ymgais ffôl i "geisio achubiaeth i ddynion trwy ddarllen iddynt yr hyn na fedrant ddeall"

"Ychydig salmau, gydag un bennod o'r Testament Newydd yn Gymraeg, - oherwydd ni siaradodd yr Hen Destament Cymraeg yn ein dyddiau ni, er ei fod, er llawenydd mawr i mi, yn barod i'w argraffu, - hyn yn unig yn cael ei ddarllen mewn dull gresynus, heb un mewn deg yn ei ddeall, ai dyma'r moddion, ysywaeth, a ordeiniodd Duw i hysbysu i bawb yng Nghymru beth yw cymdeithas y dirgelwch?"

Trydd at yr esgobion yn gynhyrfus,—

"O chwi esgobion Cymru, y rhai a ddibrisia ei enw Ef, os gofynnwch ba fodd y dibrisiasoch ef, atebir mai trwy gynnig y cloff a'r dall a'r anafus i weinidogaeth yr Arglwydd, gan ddweud nad ydyw hyn yn ddrwg. Felly dibrisiwch enw Duw trwy ddweud nad oes eisiau gofalu am ei wasanaeth. Wrth weled eich bod chwi eich hunain yn gwybod, a bod holl Gymru'n gwybod, eich bod wedi rhoddi yn yr alwedigaeth gysegredig ddynion cnafaidd a drwg fu'n crwydro drwy'r wlad dan enw ysgolheigion, afradloniaid a gwyr gweini wnaeth y weinidogaeth yn noddfa olaf iddynt; wrth weled eich bod yn gadael yn y weinidogaeth rai y gwyddys eu bod yn buteinwyr a meddwon a lladron a rhai'n tyngu'n erchyll, rhai y dywed Job mai gwaelach na'r ddaear ydynt, - oni ddywedwch, trwy hyn oll, nad oes eisiau gofalu am wasanaeth yr Arglwydd? Os goddefwch hwynt, ac os arhoswch eich hunain yn lladronllyd o faes eich dyletswydd, a ydych chwi'n meddwl am anrhydedd yr Arglwydd ac am iachawdwriaeth ei bobl?"
Mewn adeg ogoneddus yn hanes a llenyddiaeth Lloegr yr ymddangosodd y llyfr chwerw hwn, pan oedd pob un yn tybied mai ei ddyletswydd oedd cynnal breichiau'r frenhines Gymreig oedd ar orsedd Lloegr a'r Iwerddon a Chymru. Dyma gyfnod gwladgarwch ar ei gryfaf, oes aur Eglwys Loegr a llenyddiaeth Seisnig. Ond nid oes Gymro fedr ddarllen llyfr Penri heb gydymdeimlo ag ef yn llwyr, a hynny ymhell cyn dod at y geiriau olaf,—

"Your poore countrey-man, who in all dutiful good will hath wholy dedicated himself to doe you good in the Lorde.

IOHN PENRI."


Humble application John Penri Yr oedd ar lywodraethwyr Cymru ofn yr iaith Gymraeg, yr oedd y gyfraith yn gwahardd i'r un swyddog ei siarad, a gwelodd Penri nad oedd obaith i Gymru oddi wrth y frenhines na'r Senedd, - yr oedd pregethwyr lleyg a chyfraniadau gwirfoddol yn bethau rhy newydd.

Dihangodd i'r Alban rhag ei erlidwyr, ond ni fedrai aros mewn heddwch yno, gan ei gariad angerddol at Gymru. Daeth yn ôl i Lundain, gan ddisgwyl cael caniatâd i fynd i Gymru i bregethu, ac ymunodd a'r ddiadell o Annibynwyr oedd yno. Yr oedd ei erlidiwr ar ei ôl, a gwysiwyd ef o flaen y Court of High Commission, llys eglwysig y frenhines. Cyhuddid ef ar gam o ysgrifennu'r Martin Mar - Prelate Tracts, rhai y mae eu hysbryd chwerw gwawdlyd yn annhebyg i ysbryd tyner a difrifol ei ysgrifeniadau ef. Ychydig o obaith am gyfiawnder oedd i un garcherid gan weinidogion y Tuduriaid; ac yn 1592 yr oedd Penri yng ngharchar, wedi rhoddi i fyny bob gobaith am gael byw. Peth anodd iawn oedd marw mor ieuanc, yn dair ar ddeg a’r ugain oed. Peth anodd iawn oedd marw a gwaith mor fawr i’w wneud, rhoddi'r efengyl i Gymru dywyll dlawd.

O garchar caeth, ysgrifennodd yn nechrau Ebrill, 1593, at ei wraig a'i bedair geneth fach. Nid oedd ganddo ddim i'w adael iddynt ond Beibl bob un. Gofyn iddynt, os medrent rywbryd, wneud rhywbeth dros ryw blentyn o Gymru, ac yn enwedig i'w fam oedrannus oedd wedi aberthu drosto pan yn fyfyriwr.

Ac yng Nghefn Brith yr oedd ei fam yn byw, a'i frodyr a'i chwiorydd oedd i ofalu am ei enethod bach na wyddent eto beth oedd gweddi. Ond gadewch i ni anghofio'r dienyddiad hwnnw,—gwyr yr hen oruchwyliaeth yn llofruddio proffwyd y newydd,—ac edrych pa fath le yw ei gartref, dri chan mlynedd ar ôl iddo ei adael.

Es i fyny at y tŷ hyd y ffordd, yr oedd gormod o wlith ar y llwybr. Yr oedd dyn ar ben das gwair yn ei doi, a dywedodd fod "llawer o hynafiaethwyr" yn dod i edrych y lle, — yn enwedig o Landrindod a Llanwrtyd ym misoedd yr haf. Es heibio'r beudy, ac i'r buarth,—lle wedi ei amgylchynu bron gan adeiladau. Ar un ochr i’r ysgwâr y mae’r tŷ, a phorth o'i flaen, a'r coed yn ei gysgodi o’r tu ôl. Yr oedd golwg dawel arno, fel pe buasai wedi ei adael fel y mae er amser Meredydd Penri. Nid oedd dim arwyddion bywyd ond y cunogau llaeth oedd newydd eu golchi yn y porth, a'r hen gi defaid gododd ei ben cysglyd i edrych arnaf.

Es ymlaen heibio’r tŷ i'r caeau. Rhedai aber grisialaidd i lawr o'r mynydd, ac yr oedd coeden wag wedi ei gwneud yn gafn i'r pistyll. A thraw yr oedd y gweirgloddiau hyfryd, a'r mynydd y tu hwnt iddynt. Nid oedd yno greigiau nac ysgythredd, dim ond mawredd esmwyth a thawelwch. Yr oedd edrych ar drumau prydferth Mynydd Epynt yn rhoi gorffwys i'r meddwl, nid y gorffwys sy'n arwain i ddiogi, ond y gorffwys sy'n arwain i waith. Dyma orffwys fel gorffwys y nefoedd, gorffwys sy'n deffro'r meddwl ac yn ei gryfhau at waith. Nid rhyfedd mai meddwl effro a gweithgar oedd meddwl John Penri. Ni fedd y mynyddoedd hyn fawredd mynyddoedd y gogledd, rhywbeth hanner y ffordd rhwng Bro Morgannwg a'r Wyddfa ydynt. Ac nid rhyfedd mai eu prydferthwch hwy, o'r holl fynyddoedd, ddarganfyddwyd gyntaf, gan rai o'r ardaloedd hyn,—John Dyer a Henry Vaughan. Bûm yn syllu'n hir ar y coed unig welwn hyd drumau'r mynyddoedd, ac yna'n edmygu lliwiau'r rhedyn a'r ysgaw a'r drain. Trois wedyn i wylio'r gwenoliaid oedd wedi nythu tan y bondo, ac yna mentrais i’r tŷ.

Es trwy'r porth, a gwelwn ddrws cegin fawr yn agored ar y llaw dde. Cegin eang, isel do, hen ffasiwn oedd, a llawer o gig moch yn crogi oddi wrth y trawstiau. Yn y pen draw yr oedd lle tan isel, ac ychydig o dan wiail ynddo. Wrth y pentan yr oedd gwr canol oed, a gofynnais hen gwestiwn iddo,— "Sut yr ydych chwi heddyw?"

"Gweddol fach, gweddol yn wir, dewch ymlan. Mi ges yr anwyd yn y gaua," meddai, dan besychu, "ac mi cesho fe wedin yn y mish bach dewch ymlan."

Eisteddais tan fantell y simdde, ac agorodd ci oedd yn cysgu ar y pentan ei lygad i edrych arnaf, fel pe'n drwgdybio fod fy mryd ar gynnwys y crochan enfawr oedd ar y tân. Tybiai’r gwr mai prynu gwlân oedd fy mwriad, a gofynnodd ai ni wyddwn beth oedd pris y gwlân 'nawr. Llonnodd pan ddywedais ei fod yn codi ychydig, ond gwelodd ar unwaith mai nid porthmon oeddwn. Yr oedd ganddo, meddai, bedwar neu bum cant o ddefaid yn pori ar y mynyddoedd. Tra'r oeddwn yn syllu ar yr hen ddodrefn derw, daeth cwestiwn wedyn, - yr oedd ar wr y tŷ awydd gwybod o ba grefydd yr own. Atebais innau trwy ddweud peth wyddai eisoes, sef mai Bedyddiwr oedd ef. "Pwi wedodd wrthich?"

"Ddywedodd neb; ond gwelaf ddarlun Spurgeon a darlun Christmas Evans, a dyma Emau Robert Jones, Llanllyfni. A glywsoch chwi hanes Robert Jones yng nghanol y chwarelwyr meddwon?"

"Naddo i."

"Wel, codi ei ddwylaw yn eu canol a wnaeth, a diolch fod gan Dduw uffern i roi'r fath rai ynddi."

"Gweid difrifol oedd e, cofiwch chi. O'r North yr ych chi'n dod?"

Wedi gwrando tipyn ar hanes y fro, gofynnais a gawn weld y rhannau hynaf o’r tŷ . Dywedodd y gwr fod croeso i mi ei weld i gyd. Aethom trwy ddrws y gegin yn ôl, a gwelem fynedfa hir yn rhedeg gyda mur yr wyneb. Rhwng y fynedfa hon a mur y cefn yr oedd dwy ystafell, yn edrych i'r gadlas, ystafelloedd oerion lleithion, ac yn llaethdai y defnyddid hwynt. O'r rhain daethom yn ôl i ddrws y tŷ , ac aethom ymlaen hyd y cyntedd hir hyd nes y daethom at ddrws ymhen draw y tŷ, drws parlwr bychan, a'r lleithder wedi amharu yr ychydig ddodrefn a darluniau oedd ynddo. Ddangosai'r cynllun yn amlwg fod y tŷ'n hen iawn, ac nid oedd gennyf un amheuaeth nad ydyw'n awr yr un fath yn union ag oedd pan ddysgodd John Penri gerdded ynddo. A braidd na thybiwn glywed y llais a ddistewid gan yr archesgob wrth glywed y gwynt yn codi, -

"O chwi bobl Cymru, yr ydych oll yn esgymun ac yn wrthodedig. O chwi bobl Cymru, yr ydych yn estroniaid o gymundeb y wir eglwys. O chwi bobl Cymru, nid ydych hyd yn oed yng nghyfamod yr addewid, yr ydych heb obaith dedwyddwch y nef. O chwi bobl Cymru, pa wybodaeth bynnag o Dduw a ddywedwch sydd gennych, yr ydych yn wir yn anffyddwyr; a heb Dduw, - pob un o honoch ar nas dygwyd, er yr adeg y daethoch o ogof eilunaddoliaeth a Phabyddiaeth, i gyfranogi yng ngallu Duw, yr hwn yw'r efengyl."
Yna, wrth i'r gwynt yn y coed ostegu, tybiwn fod ei lais yn tyneru mewn cydymdeimlad, -
"Ond yn wir, fy mrodyr, ni phregethwyd yr efengyl i chwi, llenwir fi a gofid wrth glywed gwawdio enw Cymru."

Pe crwydrai ysbryd John Penri heddyw trwy wlad a garai mor fawr, gwelai fod ei weddi dros Gymru wedi ei hateb, a bod addoldai drwy'r broydd fu gynt yn ofergoelus ac yn isel eu moes. Os byth y rhydd Cymru gofgolofn ar odrau Mynydd Epynt i ddweud wrth ei phlant am dano, rhodder arni y geiriau hyn anfonodd o'i garchar, yn ei ddyddiau olaf, at Burleigh, -

"Gwr ieuanc tlawd ydwyf, wedi'm geni a'm magu ym mynyddoedd Cymru. Myfi yw'r cyntaf, wedi blodeuad diweddaf yr efengyl yn y dyddiau hyn, lafuriodd i hau ei had bendigedig ar y mynyddoedd anial hynny. Llawenheais lawer tro o flaen fy Nuw, fel y gwyr ef, am y ffafr o'm geni a'm magu dan ei Mawrhydi, er mwyn gwneud y gwaith. Yn fy nymuniad cryf i weled yr efengyl yng ngwlad fy nhadau, ac i weled symud y llygredigaethau a'i rhwystra, hawdd oedd i mi anghofio fy mherygl fy hun; ond ni anghofiais fy nheyrngarwch i'm Tywysog erioed. Ac yn awr pan wyf i orffen fy nyddiau, a hynny cyn dod i hanner fy mlynyddoedd yn ôl trefn natur, yr wyf yn gadael llwyddiant fy llafur i'm cydwladwyr a gyfyd yr Arglwydd ar fy ôl i, i orffen y gwaith, yr hwn, wrth alw fy ngwlad i wybodaeth am efengyl fendigedig Crist, a ddechreuais i."

Trwy holl droeon hanes Cymru, nid oes dim mor huawdl i deimlad Cymro ag ewyllys John Penri, — pedwar Beibl, gofal ei fam, a llwyddiant ei waith.