Neidio i'r cynnwys

Caer Gai (Cartrefi Cymru OM Edwards)

Oddi ar Wicidestun
Trefeca Cartrefi Cymru, O. M. Edwards

gan Owen Morgan Edwards

Cefn Brith

Mae Caer Gai yn bennod yn Cartrefi Cymru casgliad o ysgrifau gan Owen Morgan Edwards (1858–1920) a chyhoeddwyd gyntaf gan Hughes a'i Fab, Wrecsam, ym 1896.

Testun

[golygu]

CAER GAI

Y mae'n ddiamau mai Gwerfyl Fychan ac Ann Griffiths ydyw dwy brydyddes orau Cymru. Yr oedd Gwerfyl yn byw yn amser adfywiad dysg, a rhoddodd ei hathrylith ar waith i weu caneuon aflendid,- ac y mae bron a medru gwneud yr aflan yn brydferth. Yr oedd Ann Griffiths yn byw yn amser adfywiad crefydd, a daeth emynau pur o'i chalon fel dwfr glan o ffynnon y mynydd.

Y mae'r ddwy wedi eu claddu,—ac fel y mynnai pethau fod, yn yr un fan. Yn Llanfihangel yng Ngwynfa y claddwyd Gwerfyl Fychan hefyd, y mae'r un ymddigrifodd mewn meddyliau cnawdol yn huno ochr yn ochr a'r hon ymhyfrydodd mewn meddyliau sanctaidd.

Saif Caer Gai ar fryn uwch pen gorllewinol Llyn Tegid, a haul y bore'n tywynnu arno'n gyntaf man. Y mae traddodiadau boreuaf ein hanes ynglŷn ag ef. Ar y dolydd islaw iddo, meddid, y cafodd Arthur ei addysg. Bu'n balas Rhufeinig; ac aml iawn y cwyd swch yr aradr briddfaen Rhufeinig, neu garreg fedd rhyw filwr, neu ddarn arian a delw ymerawdwr arni, neu ddarn o lestr gloyw goch.

Mewn amser diweddarach yr oedd yn gartref y Fychaniaid. Y mae darnau o brydyddiaeth Gwerfyl yn nofio ar gof gwlad eto. Gwyr pawb am yr hen frenhinwr pybyr Rowland Fychan, cyfieithydd yr Ymarfer Duwioldeb. Ond gwyr yr efrydydd am aml Fychan arall hyddysg mewn cywydd ac englyn.

Wrth rodio'r hen fynedfa i fyny at Gaer Gai, er cymaint o feddyliau ddaw am hanes ein cenedl, rhaid syllu ar fawredd rhyfeddol y fro. Y mae cefn mawr llwm yr Aran tuag atom, y mae'r Garneddwen yn gorwedd yn isel rhwng ei chwiorydd cawraidd, a gwga olion hen gastell Carn Dochan oddi ar gopa craig serth ysgythrog ar ein cyfer. Oddi tanom cwsg dyfroedd gloyw Llyn Tegid, ac ar ein cyfer, dros y dyŵr, y mae bryniau gwyrddion uchel groesid gynt gan ffordd Rufeinig. Mae'r gerddi'n aros ar y llecyn heulog, ac y mae pantle'r ffos yn amlwg; ond ni chlywais erioed hanes cloddio i chwilio am drysorau neu feddau y Rhufeinwyr fu yma gynt.

Y tŷ adeiladodd Rowland Fychan, ond wedi ei atgyweirio ymron drwyddo, sydd yno'n awr. Y mae geiriau yr hen frenhinwr selog wrth ben y drws,

"Rho glod i bawb yn ddibrin,
A char dy frawd cyffredin;
Ofna Dduw, cans hyn sydd dda,
Ac anrhydedda'r brenin."