Trefeca (Cartrefi Cymru OM Edwards)

Oddi ar Wicidestun
Bryn Tynoriaid Cartrefi Cymru, O. M. Edwards

gan Owen Morgan Edwards

Caer Gai

Mae Trefeca yn bennod yn Cartrefi Cymru casgliad o ysgrifau gan Owen Morgan Edwards (1858–1920) a chyhoeddwyd gyntaf gan Hughes a'i Fab, Wrecsam, ym 1896.


Testun[golygu]

.

TREFECA

"Dyma'r fan, tr'wy byw mi gofiaf,
Gwelais i di gynta erioed,
O flaen porth yr eglwys eang
Heb un twmpath dan dy droed,
Mewn rhyw ysbryd dwys sylweddol,
Fel yng ngolwg dydd a ddaw,
Yn cynghori dy blwyfolion,
A dweud fod y farn ger llaw."

A dyma'r eglwys lle gorwedd Hywel Harris, utgorn y Diwygiad! Yn yr eglwys acw yr argyhoeddwyd ef, a rhoddwyd ef i orwedd lle y clywodd lais Duw yn cynnig trugaredd iddo. A dacw'r fan lle pregethai pan basiodd William Williams, ar ei ffordd adref o'r ysgol i Bant y Celyn. Bore gofiwyd byth gan William Williams oedd hwnnw, -

"Dyma'r bore, byth mi gofiaf,
Clywais innau lais y nef;
Daliwyd fi wrth wŷs oddiuchod,
Gan ei sŵn dychrynllyd ef."

Ychydig o lanerchi ar ddaear Cymru sydd mor gysegredig i deimlad Cymro a'r llannerch hon,—lle gwelwyd apostol cynhyrfus y Diwygiad yn pregethu argyhoeddiad i emynwr y Diwygiad.

Llannerch dawel, brydferth ydyw. Y mae ar ychydig o godiad tir, a dringir iddi o dref fechan Talgarth welwn o boptu i aber Enig, a helyg ac ysgaw rhyngom a hi. Y mae golwg hyfryd ar y wlad oddi amgylch, saif cylch o fynyddoedd gwyrddleision fel gwylwyr uwchben y fynwent, a chyfyd twr ysgwâr yr eglwys i fyny'n uchel ac yn hyf, i ddangos ysmotyn mwyaf cysegredig y fro ddiddorol a phrydferth hon. Y mae'n bedwar o'r gloch ar gloc yr eglwys, ac y mae distawrwydd adfywiol nawn haf wedi disgyn, fel gwlith, ar y wlad ffrwythlon dyfadwy. Y mae rhyw orffwys breuddwydiol yn meddiannu f'enaid innau wrth nesáu at y fynwent; a su hen ddigwyddiadau, fel ysbrydion llawer cnul a llawer claddfa, yn llenwi'r distawrwydd ar nawn haf. Y mae hud dros bopeth, prin y mae digon o natur beirniadu ynof i gael poen oddi wrth y cerrig beddau di chwaeth, gyda'u llythrennau efydd, sydd ym mhlith hen gerrig mwsoglyd y fynwent.

Sefais, ar ddamwain, cyn dod at borth yr eglwys, a disgynnodd fy ngolwg ar enw Hywel Harris. Carreg fedd ei dad oedd. Ar hon y dywedir fod Hywel Harris yn pregethu pan safodd Williams Pant y Celyn wrth fynd heibio, i glywed ei alwad ef ei hun. Y mae'r llythrennau mor berffaith ag oeddynt pan safai Hywel Harris, os safai hefyd, ar y garreg i gyhoeddi ei newyddion rhyfedd. Yr oedd gwirioneddau'r byd tragwyddol mor fyw o'i flaen ef fel mai prin y sylwai, hwyrach, ar yr olygfa o'i gwmpas. Eneidiau anfarwol, nid mynyddoedd a lamant fel hyrddod a bryniau a branciant fel wyn defaid, a welai ef. Ond maddeuer i mi, o gyneddfau gwannach a chyda llai o ddychymyg, am syllu ar yr olygfa. Y mae'n araf godi o'm blaen, fel yr oedd y diwrnod y daliwyd yr emynwr a gwŷs oddi uchod.

Dacw Hywel Harris ar y garreg fedd, a'i lais yn ddychryn i'r dyrfa sy'n gwelwi o'i flaen. Dacw ŵr ieuanc ar ei ffordd adref o'r ysgol wrth ddrws y fynwent, yn gwasgu'n agosach i gwr y dorf, ac yn colli golwg arno ei hun wrth wrando, mewn syndod a dychryn, ar y llais taran hwnnw. O flaen y pregethwr y mae chwech ywen mawreddog, - y maent yno eto yn eu duwch wylofus,- a thref Talgarth. Uwchben dacw'r Mynydd Du; ac o amgylch y mae bryniau blodeuog ardal sydd ymysg ardaloedd tlysaf Cymru.

Ni raid myned ymhell i gael hanes olaf y pregethwr gynhyrfodd fwyaf ar Gymru o'r holl bregethwyr fu yng ngwlad y pregethu erioed. Es ymlaen trwy'r fynwent, ac at ddrws yr eglwys. Y mae'r eglwys yn isel a llydan; ac yn drymaidd iawn y tu mewn. Cerddais yng nghyfeiriad y côr, a gwelwn ysgrifen hanes Hywel Harris ar garreg.

Gwelais lawer carreg fedd mewn llawer gwlad mewn llawer lle rhyfedd,— gwelais y garreg ar fedd gwag Dante, gwelais fedd Chateaubriand mewn craig yn nannedd y tonnau, gwelais feddau rhai enwog mewn eglwysi mawrwych,—ond ni theimlais gymaint yn unlle ag yn eglwys drymaidd dywyll Talgarth. Hyfryd i Hywel Harris oedd huno lle y clywodd y bywyd newydd yn ymweithio yn ei enaid. Teimlwn fod mwy na bedd yn eglwys Talgarth; teimlwn fy mod ar lecyn genedigaeth Cymru newydd. Beth bynnag arall fedrir ddweud am ei hyawdledd ac am ei athrylith, ac am ei gynlluniau rhyfedd, gellir priodoli deffroad Cymru, o gwsg oedd yn marweiddio ei nerth cenedlaethol, iddo ef yn fwy nag i neb arall.

Ond y mae ychwaneg na'i hanes ef ar y garreg, digon i'm hatgofio am y teimladau daearol,- teimladau ag arlliw y nef arnynt,- oedd mor gryf yn ei enaid. Ar ei deithiau pregethu, yn ei weddïau, yn ei freuddwydion, yn ei ofnau, y mae un nad enwa yn bresennol yn barhaus. Bûm yn darllen ei lythyrau ati, a'r cynnig priodas. Wedi hanes yr ymserchu a'r ofni,- stori sydd mor hen, ac mor newydd,—dyma ei hanes olaf hithau, wedi siarad am yr Iesu a'i hanadl olaf.

Mewn awr hamddenol, ryw dro, cesglais lythyrau caru diddorol. Yn eu mysg yr oedd un oddi wrth Nathaniel, mab Daniel Rowland, at ferch Hywel Harris. Y mae yma air o'i hanes hithau, unig blentyn eu gofal, ar waelod y garreg.

Cwsg yn hyfryd, apostol Cymru,—

"Cwsg i lawr yn eglwys Talgarth,
Lle nad oes na phoen na gwae;
Mi gâi godi i'r lan i fywyd,
Sy'n dragwyddol yn parhau."

Cawsom fwynhau golygfeydd prydferth ac awel nawnol yn suo dros gae o feillion peraroglus wrth gerdded y filltir sydd rhwng Talgarth a Threfeca.

A dacw Drefeca yn y golwg. Ymgyfyd fel llinell hir o gestyll a thai diwedd y Canol Oesoedd, dros gaeau gweiriog. Oni bai am y capel hyll ar y chwith, buasai'n adeilad trawiadol a phrydferth iawn.

Yma, mewn tawelwch, y treuliodd Hywel Harris y rhan fwyaf o'i oes. Wedi'r ymrafael, pan welodd ei fod yn colli gafael ar y dychweledigion drowyd trwy ei weinidogaeth ef ei hun, gadawodd ei bregethu teithiol, ac ymneilltuodd i'w gartref, gan wneud Trefeca yn gartref i bawb hoffai adael ei fro a dyfod i gydweithio ag i gyd- addoli. Ffurfiai'r holl gwmni un teulu, yr oedd eu heiddo'n gyffredin, ac yr oedd cynllun eu bywyd yn debycach i freuddwyd rhyw athronydd nag i gynllun yn cael ei weithio allan gyda brwdfrydedd a llwyddiant. Tuag at gadw cymdeithas fel hyn gyda'i gilydd yr oedd eisiau mwy na chrefydd a huawdledd, yr oedd eisiau medr anghyffredin mewn trin dynion. Nid oes odid i ddim yn hanes Cymru mor ddiddorol ag ymgais Hywel Harris i sylweddoli, rhwng bryniau Cymru, gynllun yr eglwys yn nyddiau yr apostolion. Yng ngwyneb pob anawsterau, - diogi, ymrysonau, gwrthgiliad, priodi anghydmarus ymysg aelodau'r teulu,—yr oedd Trefeca dan Hywel Harris yn llwyddo ac yn blodeuo.

Bu'n fwy llwyddiannus, hwyrach, na'r un a geisiodd sefydlu cymdeithas o'r fath. Yn grefyddwyr, yn filwyr, yn weithwyr, — enillodd "Teulu Trefeca" barch ac edmygedd rhai wawdiai, ar y cyntaf, y syniad o godi mynachlog yn Nhrefeca. Ebe Williams Pant y Celyn,

"Pam y treuliaist dy holl ddyddiau
I wneud rhyw fynachlog fawr,
Pan y tynnodd Harri frenin
Fwy na mil o'r rhain i lawr?
Diau buasit hwy dy ddyddiau,
A melysach fuasai'n 'nghan.
Pe treuliasit dy holl amser
Yng nghwmpeini'r defaid man."

Nid yn aml y cofir mai ychydig o'i oes roddodd Hywel Harris i bregethu. Cwestiwn ei frodyr oedd, -

"Pam y llechaist mewn rhyw ogof,
Castell a ddyfeisiodd dyn.
Ac anghofiaist y ddiadell
Argyhoeddaist ti dy hun?"

Ond ffurfio "teulu," tebyg, i'r eglwys yn adeg yr apostolion, oedd ei amcan ef; a gwastraffodd ar Drefeca y llafur yr oedd holl Gymru yn dyheu am dano, —

"Ai bugeilia cant o ddefaid,
O rai oerion, hesbion, sych,
Ac adeilo iddynt balas
A chorlannau trefnus gwych,—
Etyb seinio pur Efengyl,
Bloeddio'r Iachawdwriaeth rydd,
O Gaerlleon bell i Benfro,
O Gaergybi i Gaer Dydd?"

Dyma ni'n troi o'r ffordd, ar hyd rhodfa trwy gae gwair, at wyneb y coleg. O'i flaen y mae coed bytholwyrdd lawer; ac y mae golwg henafol

ar yr holl adeilad mawr di drefn, ar ei ffenestri crynion tyrog, gyda'r cloc a'r lantar yn sefyll uwchben y cwbl. Aethom heibio'r wyneb, a thrwy ddrws yn yr ochr i ystafelloedd bychain, ond hynod ddiddos a chysurus. Wedi hwyr-bryd blasus, digwyddais edrych ar nenfwd gwyngalchog yr ystafell yr eisteddem ynddi, a gwelwn enw Jehofah mewn llythrennau Hebraeg uwch ein pen. Dywedodd yr athro wrthyf mai yn yr ystafell hon yr arhosai Countess Huntingdon pan ar ymweliad a Hywel Harris, ac y mae'n sicr fod arddeliad mawr wedi bod ar lawer dyletswydd teuluaidd yn yr ystafell gysegredig. Treuliais amryw ddyddiau dedwydd yn Nhrefeca. Crwydrwn, wrth f'ewyllys, drwy'r ystafelloedd lluosog, fu unwaith yn gartref i "deulu" rhyfedd Hywel Harris. Teimlwn fod Trefeca yn gynllun o goleg,- mewn lle iach tawel. Hen weithdy'r "Teulu" ydyw un o'r ystafelloedd darlithio, a ddangoswyd i mi dwll trwy yr hwn y gallai Hywel Harris weled, yr adeg a fynnai, pa fodd yr oedd pethau'n mynd ymlaen yn y gweithdy. Y mae'r llyfrgell yn cynnwys un o'r casgliadau gorau o lyfrau Cymraeg welais erioed; casglwyd hi, yr wyf yn meddwl, trwy lafurus gariad y Parch. Edward Matthews. Cynhwysa hefyd ddyddiaduron a llythyrau Hywel Harris, a llawer o lythyrau eraill deifl oleuni diddorol iawn ar gynlluniau a gwaith Hywel Harris.

Nid oes fawr o ffordd o Drefeca i Lyn Safaddan. Llecyn mwyn ydyw'r llyn hwn, treuliais ddiwrnod hyfryd ar ei ddyfroedd. Croesasom ef droeon a gadawsom i'r cwch sefyll ymysg yr hesg tal sy'n tyfu o waelod y llyn tra'r oeddem yn gwylio'r eleirch ac yn mwynhau'r golygfeydd oedd wedi ymddelwi yn y dyfroedd clir. Dyma le tawel,lle wrth fodd y myfyrgar, dan gysgod Mynydd Troed, ac o fewn ychydig i gyrchfannau miloedd glowyr y Deheudir. Tra'n mwynhau'r awelon hafaidd, cofiwn am y traddodiad sydd ynglŷn â'r llyn,- fod ei ddyfroedd yn cuddio dinas bechadurus suddodd i'r ddaear dan bwys ei drygioni.

Gadewais Drefeca yn blygeiniol, ac yr oedd awel iach y bore yn gwneud fy meddwl yn ddigon effro i gofio darluniad Williams adeg marw Hywel Harris, -

"Mi af heibio i'r palas euraidd
Sydd â'r angel ar ei ben,
'Drychaf ar y castell cadarn
Sy a'i begynau yn y nen;
Ac mi rof ochenaid ddofon,
Gan ryw synnu ynnwyf f'hun,
Fel mae'r nef yn trefnu ei throion
I ddiddymu dyfais dyn.


"Er cadarned yw'r adeilad,
Ac er teced yw ei wedd,
Y mae'r perlyn gorau ynddo
Heddyw'n gorwedd yn ei fedd
Ac nis gwel e mwy mo honno
Fel y gwelodd ef o'r bla'n,
Hyd y dydd bo'n cael ei losgi
Gyda'r byd yn danllwyth dan.