T. Rowland Hughes
Gwedd
Nofelydd, dramodydd a bardd oedd Thomas Rowland Hughes neu T. Rowland Hughes (17 Ebrill 1903 – 24 Hydref 1949). Roedd yn fab i chwarelwr o Lanberis, yn yr hen Sir Gaernarfon (Gwynedd heddiw). Mae'n adnabyddus heddiw yn bennaf am ei nofelau am gymeriadau yn byw ac yn gweithio yn chwareli llechi y gogledd, ond yn ei ddydd yr oedd yn cael ei edmygu fel bardd yn ogystal. William Jones yw ei nofel enwocaf.