Teimlad Da (Yr Hwiangerddi, O M Edwards)
Mae Teimlad Da yn hwiangerdd a gasglwyd gan O M Edwards ac a gyhoeddwyd ym 1911 yn ei lyfr Yr Hwiangerddi
- Mae'n dda gen i ddefaid, mae'n dda gen i wyn,
- Mae'n dda gen i feinwen a phant yn ei thrwyn;
- A thipyn bach bach o ôl y frech wen,
- Yn gwisgo het befar ar ochr ei phen.