Telyn Dyfi/Dinas Duw
Gwedd
← Gwagder y Byd | Telyn Dyfi gan Daniel Silvan Evans |
Y Difrod → |
XXVII.
DINAS DUW.
'Gogoneddus bethau a ddywedir am danat ti, O ddinas Dduw!'—Salm lxxxvii. 3.
O'r fath bethau gogoneddus,
O'r fath eiriau hyfryd yw
Y darluniad anrhydeddus
Roir o Sion, dinas Duw!
Dyma drigfan Duw y duwiau,
Ar y graig mae sylfaen hon;
Iachawdwriaeth yw ei muriau,
Pwy all ddrygu ei heddwch llon?
O, mor ddedwydd yw trigolion
Dinas Sion gyda'r Oen!
Yn eu gynau disglaer gwynion
Mewn anfarwol hedd a hoen;
Ar orseddau yn y nefoedd,
Ar ddeheulaw Barnwr byd,
Wedi'u gwneuthur yn freninoedd
Ac offeiriaid maent i gyd.