Telyn Dyfi/Gwagder y Byd
Gwedd
← Daeth y Ceidwad, llawenhäwn | Telyn Dyfi gan Daniel Silvan Evans |
Dinas Duw → |
XXVI.
GWAGDER Y BYD.
'Gwagedd o wagedd; gwagedd yw'r cwbl.'—Preg. i. 2.
NIS geill mwynderau'r ddaiar hon
Ddedwyddu y bruddedig fron;
Ei thlysau teg a'i gemau drud,
Gau a thwyllodrus ynt i gyd.
Oferedd yw holl fawredd byd,
A gwychder hwn nid yw ond hud:
Edwinol yw ei flodau syw,
A'i degwch penaf, cysgod yw.
Cais rhai anrhydedd hwn a'i fri,
Ac am eu cael mae'n fawr eu cri;
Ond distrych môr ar greigiog ael
Yw sylwedd ei drysorau gwael.
Uwch ei holl fwyniant, dyrchu wnaf
Fy ngolwg tua llys fy Naf;
Dedwyddwch anniflannol sy
O fewn cylch aur y gwynfyd fry.