Telyn Dyfi/Dyfroedd Bywiol
Gwedd
← Y Ceisiedydd Trysor | Telyn Dyfi gan Daniel Silvan Evans |
I Faban → |
XXXIII.
DYFROEDD BYWIOL.
DYFROEDD bywiol sydd yn llifo
Dan dy orsedd Di, fy Nuw,
Fel y crisial gloew, disglaer,
Afon Iachawdwriaeth yw.
Dyma'r ffrydiau byw, rhedegog,
Sydd yn lloni'r ddinas fry;
Ar ei glan mae pren y bywyd
I iachau aneirif lu.
Dyma le i olchi'r aflan
Oll yn wyn fel eira mân;
Dyma fan i buro'r euog
Nes ei wneyd yn berffaith lân:
Hon yw'r ffynnon lawn o rinwedd
Sydd yn disychedu'r llawr;
Canwn iddi, mae ei ffrydiau
Yma 'ng ngwlad y cystudd mawr.