Telyn Dyfi/Gwynfydigrwydd y Cyfiawn
Gwedd
← Yr Ewig Wyllt | Telyn Dyfi gan Daniel Silvan Evans |
Cartref yr Yspryd → |
XI.
GWYNFYDIGRWYDD Y CYFIAWN.
'Gwyn ei fyd y gwr ni rodia yng nghynghor yr annuwiolion.'—Salm i. 1.
Y SAWL yn dwys fyfyrio sydd
Yn neddf ei Dduw y nos a'r dydd,
Fel pren mewn gardd gauedig yw,
Ar lan afonydd dyfroedd byw;
Toreithiog ffrwyth rhydd yn ei bryd,
A'i ddalen werdd fydd dirf o hyd.
Nid felly carwyr pechod cas,
Ond fel pren crin mewn anial cras;
Neu fel mân us ar gyflym hynt
A chwelir gan y dwyrain wynt:
Ni safant hwy, gan faint eu bai,
Yng nghynnulleidfa'r cyfiawn rai.
Holl lwybrau'r cyfiawn doeth y sydd
Fel goleu'r haul ar ganol dydd;
A'i lewyrch yn cynnyddu o hyd
Yng nghanol maith dywyllwch byd:
Mae'n ddedwydd iawn, gwynfydig yw,
Ei ffordd adwaenir gan ei Dduw.