Telyn Dyfi/Cartref yr Yspryd
← Gwynfydigrwydd y Cyfiawn | Telyn Dyfi gan Daniel Silvan Evans |
Tithau yr Un ydwyt → |
XII.
CARTREF YR YSPRYD.
'Dyn a drenga, a pha le y mae?'—Iob xiv. 10.
DIRGELAIDD iawn yng ngwawr ei oes,
Ac anwel fel y gwynt,
Yr yspryd ymaith pa le ffoes,
Mor gyflym ar ei hynt?
Os gofyn wnawn i'r beddrod du,
O'i hanes dim ni chair;
Os ceisiwn gan y bydoedd fry,
Ni thraethant hwythau air.
Am gyrau eithaf daiar faith
Mae chwedlau aml a chun;
Ond o fro'r yspryd, bellaf daith,
Ni ddaeth, ni ddychwel un.
Dwg yr awelon arogl mwyn
Dros fryniau pell, fin dydd;
Ond newydd byth ni fedrant ddwyn
O wlad y beddrod prudd.
Mesura gwyddor falch y nen,
A'r ser, aneirif lu;
Ond hi ni thraidd tu mewn y llen,
Lle gwnaeth efe ei dŷ.
Taen tew gysgodion dros y fan,
A chaddug dwys a'i cel;
Ond lle mae golwg yn rhy wan,
Ffydd yno'n amlwg wel.