Telyn Dyfi/Pan fo'r disglaer Haul dwyreawl
Gwedd
← Cynnwysiad | Telyn Dyfi gan Daniel Silvan Evans |
Wrth loew ffrwd Siloam lyn → |
TELYN DYFI.
I.
PAN FO'R DISGLAER HAUL DWYREAWL
PAN fo'r disglaer haul dwyreawl
Yn goreuro gwlith y wawr,
Ac yn agor cain amrantau
Myrdd o flodau peraidd sawr;
A chymylau'r nos yn cilio
Rhagddo'n chwai ar edyn chwa;
Esgyn bydded sain ein moliant
I'r Hwn sydd a'i enw'n IAH.
Pan fo goslef fwyn y goedwig
Yn ymchwyddo'n beraidd gor,
Ac yn sio'r haul i gysgu
Yn y gorllewinol for,
Ac yn deffro'r seren hwyrol
I flaenori gosgordd lân;
I'r Hwn sydd a'i enw'n GARIAD
Esgyn bydded sain ein cân.
Pan fo nos a dwys ddistawrwydd
Tros y llawr yn taenu llen,
A ser fyrddiwn yn tryfritho
Y cwmpasgylch mawr uwch ben;
Pan fo'r lleuad wyl yn lledu
Mantell arian ar y lli;
Esgyn bydded sain ein moliant
I'r Hwn sydd yn UN A THRI.