Telynegion Maes a Môr/Cartre'r Haf yw Deffrobani

Oddi ar Wicidestun
Bob nos olau leuad Telynegion Maes a Môr
Telynegion Men
gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Telynegion Men
Pe bai gennyt serch

CARTRE'R HAF YW DEFFROBANI.

CARTRE'R haf yw Deffrobani,
O na ddeuit, Men,
Gyda mi i chwilio amdani
Yn fy rhwyflong wen
Hunt i fôr y mae yr ynys,
Hwnt i lawer tir;
Ond gwnâi serch y siwrnai'n felys,
Er yn siwrnai hir.

Gardd y byd yw Deffrobani,
Wennaf Ynys Wen;
Tyr y wawr yn ei ffenestri,
Cod dy angor, Men:
Oni hoffet fyw ar ddiliau
Gwell na breuddwyd bardd
Cysgu ar welyau blodau,
Heb i neb wahardd

Glas yw daear Deffrobani,
Glasach yw ei nen;
Glas yw'r don sy'n curo arni—
O! na ddeuit Men
Caem fordwyo hyd y glannau
Tan oleuach sêr
Gydag awel yn yr hwyliau
Oddi ar lysiau pêr.


Tyf y palm yn Deffrobani,
A phob prydferth bren;
Haf o hyd sydd yn ei llwyni—
Gwna'r adduned, Men
Pe na bai o fewn yr ynys
Neb ond ni ein dau,
Byddet ti a minnau'n hapus,
'Fory—paid nacáu.