Telynegion Maes a Môr/Pe bai gennyt serch

Oddi ar Wicidestun
Cartre'r Haf yw Deffrobani Telynegion Maes a Môr
Telynegion Men
gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Telynegion Men
Hoffais di yn ieuanc, Men

PE BAI GENNYT SERCH.

Pe bai gennyt serch at dy fardd, fy Menna,
Ti ddaethet fel cynt
Rhwng llwyni y brwyn a gwmon Gorffenna',
A'th wallt y gwynt
Mae celyn y môr yn holi amdanat,
Pan elwyf fy hun;
A pheth a ddywedaf am nad wyt yn dyfod,
Fy mun, fy mun

Mordwywyr, fel cynt, sydd ar lif yr afon—
Yn ddeuoedd fel cynt
A’u dwylo y'mhleth, fel y rhwyfau gwynion
Y’mhleth yn y gwynt
Maecymar gan bawb—gan fordwywyr a gwylain—
A mi heb yr un!
Gwyn fyd na ddychwelit i'm cwch ac i'm calon,
Fy mun, fy mun.