Telynegion Maes a Môr/Hoffais di yn ieuanc, Men

Oddi ar Wicidestun
Pe bai gennyt serch Telynegion Maes a Môr
Telynegion Men
gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Telynegion Men
Tan dy lewyrch, leuad ieuanc

HOFFAIS DI YN IEUANC, MEN.

HOFFAIS di yn ieuanc, Men,
Gŵyr fy nghalon a'th un dithau
Cyn i'th Ebrill lithro, Men,
Cyn i'th flagur dorri’n flodau
Onid fi, tan gaead bren,
Gafodd gynta'th gusan felys,
Cyn i'r gwenyn gwylltion, Men,
Unwaith ddisgyn ar dy wefus

Hoffais di yn hoffach, Men,
Fore'r dydd y'th welais lonnaf;
Yn dy wyn yr oeddit, Men,
Yn dy flodau, fel Gorffennaf;
Glasliw oedd y nef uwch ben,
Fel dy lygaid llaith, teimladwy
Ger yr allor gwridet, Men,
Ond dy chwaer oedd bia'r fodrwy.

Hoffais di 'n dynerach, Men,
Pan oedd craith ar y dywarchen;
A phan safet tithau, Men,
Yn y fynwent gyda'r ywen;
Gwelais yno'th wefus wen
Oedd gynefin â thrallodion
Wylet fel y gawod, Men—
Wylwn innau yn fy nghalon.


Hoffais di yn ieuanc, Men,
Cyn i'th flagur dorri'n flodau
Hoffais di drwy bopeth, Men,
Drwy dy wên a thrwy dy ddagrau.
Doed a ddel ohonot, Men,
Ni eill neb dy garu eto
Fel y gwnaeth dy Alun, Men,
Fel y gwna dy Alun heno.