Telynegion Maes a Môr/Tan dy lewyrch, leuad ieuanc
Gwedd
← Hoffais di yn ieuanc, Men | Telynegion Maes a Môr Telynegion Men gan Eliseus Williams (Eifion Wyn) Telynegion Men |
Y Blodyn Glas → |
TAN DY LEWYRCH, LEUAD IEUANC.
I.
Tan dy lewyrch, leuad ieuanc,
Yn nhawelwch min yr hwyr,
Y seliasom, Men a minnau,
Lw'r cyfamod —Duw a wyr:
" Ti a fydd fy mhriod bellach,"
Meddwn wrthi, doed a ddel;
Bydd y lloer yn dyst o'r amod,
Dyma'r fodrwy dyma'r sêl."
II.
Tan dy lewyrch, leuad ieuanc,
Ar ôl misoedd blin i Men,
Y siglasom law ddiweddaf,
Fin wrth fin, dan frigog bren;
Clywem chwerthin y medelwyr,
Yn y maes cynhaeaf draw;
Ond nid chwerthin oedd ar galon
Dau mor hoff wrth siglo llaw.
III.
Tan dy lewyrch, leuad ieuanc,
Ydwyf heno hebddi hi,
Fel aderyn heb ei gymar —
Menna a’m gadawodd i;
Nid i garu rhywun arall,
Wrth y llyn, na than y pren;
Ar y garreg medraf ddarllen
Tair llythyren enw Men.