Telynegion Maes a Môr/Y Blodyn Glas
Gwedd
← Tan dy lewyrch, leuad ieuanc | Telynegion Maes a Môr Telynegion Serch gan Eliseus Williams (Eifion Wyn) Telynegion Serch |
Blodau a Serch → |
Telynegion Serch.
Y BLODYN GLAS.
HOFFTER bardd a llatai'r galon,
Tlws gan natur a chan Serch;
Galwant ef yn Nad-fi'n -anghof —
Enw taerni mwynaf merch.
Glasach yw na'r nefoedd lasaf,
Glasach yw na'r môr ei hun:
Sut y medraf lai na'i garu?
Llygad glas sydd gan fy mun.
Pe bai'r ddaear heb friallu,
Byddai'r haf yn haf i mi;
Byddai lliw y môr a'r nefoedd
Yn ei lygad ef a hi.
O, ni fedraf lai na'i garu,
Flodyn glas yn anad un;
Oni wn am gymar iddo?
Llygad glas sydd gan fy mun.
Digon yw o lythyr caru,
Pan ar ddalen wen y daw,
Os bydd tano enw Rhywun
Wyf yn adwaen wrth ei llaw.
Gall fod rhywrai'n beio arnaf —
Ni waeth gennyf fi pa un;
Gwn nas gwnaent pe'n cofio unpeth —
Llygad glas sydd gan fy mun.