Telynegion Maes a Môr/Blodau a Serch
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
← Y Blodyn Glas | Telynegion Maes a Môr Telynegion Serch gan Eliseus Williams (Eifion Wyn) |
Caru Haf |
BLODAU A SERCH.
GWYNNODD yr afallen,
Lawer tro, fy merch,
Er pan safem dani
Yn ieuenctid serch;
Heno blodau eraill
Welaf uwch fy mhen,
A chariadon eraill
Chwarddant dan y pren.
Er ein cariad cyntaf
Gwelsom ddeuddeng Mai,
Eto yn y galon
Nid yw serch yn llai.
Er heneiddio'r blodau
Ceidw'r pren yr un —
Gwreiddia serch yn ddyfnach
Fel yr elon hŷn.