Telynegion Maes a Môr/Caru Haf

Oddi ar Wicidestun
Blodau a Serch Telynegion Maes a Môr
Telynegion Serch
gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Telynegion Serch
Hollt y Fellten

CARU HAF.

YM mis briallu ac awel fwyn,
Mis glesni gwybr a glesni llwyn;

Canai yr adar, yng nghoed y from
Canent a chanent, drwodd a thro.

Canai mwyalchen yn llwyn y tŷ,
Un gylfin melyn ac aden ddu —
Arafai weithiau i drwsio'i phlu.

Mwyalchen unig, heb ganddi fun,
Canai am gymar heb gael yr un.

I'r llwyn, ryw fore yn llewyrch haul,
Daeth gwcw nwyfus i blith y dail —

Canodd ei deunod am hafaidd hin,
Llediaith y Deau oedd ar ei min.

Hoffodd y fwyalch y gwcw gu,
Hoffodd y gwcw y fwyalch ddu,
A nythu wnaethant yn llwyn y tŷ.

Bore cawodog, a haul ar fryn,
Rywbryd yn Ebrill neu Fai oedd hyn.

Canai y gwcw, tan las y nen,
Canai, hedfanai o bren i bren.


A chanai'r fwyalch ei serch i'w mun —
Canai yn effro a thrwy ei hun.

Canol Mehefin ar fyr a ddaeth,
Canol Gorffennaf —a'r hafddydd aeth.

Yna bu helynt, a helynt flin —
Canfu y gwcw ddalen fach grin;
A'i chalon oerodd mor oer a'r hin.

Dalen y gaeaf yw hon," medd hi,
Hafddydd —dim gaeaf, dim serch, i mi!"

Clywsai draddodiad yng ngwlad yr ha'
Am aea'r gogledd —gaeaf ac ia:

Trwsiodd ei haden ar fin y nyth —
Ni welodd y fwyalch mo'r gwcw byth.