Telynegion Maes a Môr/Hollt y Fellten

Oddi ar Wicidestun
Caru Haf Telynegion Maes a Môr
Telynegion Serch
gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Telynegion Serch
Yr Afal Melyn

HOLLT Y FELLTEN

.

I.


Mi wn am dderwen yn y ddôl,
A hollt y fellten ynddi;
Mi wn am graith blynyddau'n ôl
Sydd dan y dail eleni;
Mae'r gangen ddringwn gynt yn ddwy,
A'r rhisgl wedi'i ddeifio;
Ac ni ddaw mesen ieuanc mwy
O'r gainc ddolurus honno.

Fe saif y dderwen wrthi'i hun,
A'i brig yn araf grymu,
A gŵyr y plant na bydd yr un
Aderyn ynddi'n nythu;
Tan awel fwyn a haul yr haf,
A thyner wlith yr hwyrnos,
Dihoeni mae y dderwen glaf,
A'r graith, a'r graith yn aros.

II.


Myfi yw'r pren a welaist ti
A'i gangen wedi dryllio;
Mae gofid yn fy mywyd i
Na wyr y byd amdano;
Mae'r blwyddi'n awr yn amlhau,
A'r fellten wedi diffodd,
Ond dal yn hir, yn hir heb gau,
Mae'r galon a anafodd.


Ni chaea mwy —dywedaf pam,
O lygad fy anwylyd
Y daeth y fellten, wedi cam,
O gwmwl ei hwynepryd.
Mae'r graith yn aros, am fy mai,
Ond dim aderyn llawen,
A minnau sydd, o Fai i Fai,
Yn marw gyda'r dderwen.