Telynegion Maes a Môr/Cymru'r Diwygiad

Oddi ar Wicidestun
O'r Deffroad Telynegion Maes a Môr

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

"Paradwys y Bardd"

CYMRU'R DIWYGIAD.

Ardaloedd ar eu deulin! —beth yw hyn?
Gobaith oes ddilychwin;
Eneidiau'n troi: Duw yn trin
Agoriad calon gwerin.

BEDYDD Duw fedyddiodd Gymru,
Pentecost yr Ysbryd Glân;
Nid oes ardal heb ei hallor,
Nid oes allor heb ei thân;
Cwmwl golau gweddnewidiad
A gysgododd dros y wlad —
Gwelwyd dyn i Dduw yn blentyn,
Gwelwyd Duw i ddyn yn Dad.

Clybu cenedl farn a chariad
Yn cyniwair trwy ei bro;
Ysodd tân o'r nef Gwm Rhondda,
Oedd â'i galon fel y glo;
Mynwy ddu —Gomorra Cymru —
Gwyrth o ras ar honno wnaed;
Cadd gydwybod wedi'i channu'n
Ddisglair yn y Dwyfol waed."

Un yw Cymru 'nghwlwm gweddi,
Un, er gwahaniaethau oes;
Gyda'r nef a chyda'i hunan
Fe'i cymodwyd wrth y Groes;

Nid oes sôn am Wyddfa mwyach —
Onid ydyw Calfari
Wedi mynd goruwch y bryniau
Pennaf yn ei golwg hi?

Gwnaed o Gymru berth yn llosgi,
Heb el difa dan y tân;
Ac yn fflam ei phuredigaeth,
Cafodd ddawn a gwefus lân:
Hen emynau'r "gwaed " a'r diolch'
Maent i gyd ar lafar gwlad;
Rhai fu'n fudion sy'n clodfori
Duw am iachawdwriaeth rad."

Nid oes ardal heb ei hallor,
Nid oes allor heb ei thân —
Gyda'i dysg y cafodd Cymru
Bentecost yr Ysbryd Glân:
Os mai marw'i thywysogion,
Byw ei Phentywysog hi —
Dyma gariad fel y moroedd,
Tosturiaethau fel y lli."