Telynegion Maes a Môr/Hiraeth
Gwedd
← Cynnig Calon | Telynegion Maes a Môr gan Eliseus Williams (Eifion Wyn) |
Merch y Felin → |
HIRAETH.
GYDA'R tes eleni eto,
Galw wnaethost, alltud fach;
Dyfod ar dy aden heibio,
Cyfarch gwell a chanu'n iach.
Dyna wnei ar hyd y blwyddi,
Fel aderyn glas yr haf;
Trydar ennyd i fy llonni,
Yna 'ngado'n fwyfwy claf.
Nid wy'n cofio dydd croesawu,
Nac yn cofio dydd mwynhau,
Heb fod bore'r ymwahanu'n
Taenu’i gysgod dros y ddau.
Oni fuom fwy na digon
Yn dy ddanfon i dy daith?
Onid yw fy nghalon wirion
Am bob tro yn dwyn ei chraith?
Dywed im, pa bryd y deui
Yma i aros, alltud fach?
Pryd y deui i orffwyso —
Cyfarch gwell heb ganu'n iach?